Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion
Prif egwyddorion yr arweiniad hwn
8
Mae’r cyngor yn yr arweiniad hwn yn seiliedig ar yr wyth egwyddor canlynol.3
- Defnyddio cyn lleied o wybodaeth bersonol ag sy’n angenrheidiol. Dylid defnyddio gwybodaeth ddienw os yw hynny’n ymarferol ac os bydd yn cyflawni’r diben.
- Rheoli a diogelu gwybodaeth. Sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych yn ei dal neu’n ei rheoli yn cael ei diogelu mewn ffordd effeithiol bob amser rhag mynediad, datgelu neu golli amhriodol.
- Bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau. Meithrin a chynnal dealltwriaeth o drefniadau llywodraethu gwybodaeth sy’n briodol i’ch rôl chi.
- Cydymffurfio â’r gyfraith. Teimlo’n fodlon eich bod yn trin gwybodaeth bersonol mewn ffordd gyfreithlon.
- Rhannu gwybodaeth berthnasol at ddibenion gofal uniongyrchol yn unol â’r egwyddorion yn yr arweiniad hwn oni bai bod y claf wedi gwrthwynebu.
- Gofyn am ganiatâd penodol i ddatgelu gwybodaeth adnabyddadwy am gleifion at ddibenion ac eithrio eu gofal neu waith archwilio clinigol lleol, oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith neu bod modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd.
- Dweud wrth gleifion am ddatgeliadau gwybodaeth bersonol yr ydych yn eu gwneud, na fyddai’n rhesymol iddynt ddisgwyl iddynt gael eu gwneud, neu gadarnhau eu bod wedi cael gwybodaeth am ddatgeliadau o’r fath, oni bai bod hynny’n anymarferol neu y byddai’n tanseilio diben y datgeliad. Cadwch gofnod o’ch penderfyniadau i ddatgelu neu i beidio datgelu gwybodaeth.
- Cynorthwyo cleifion i droi at eu gwybodaeth. Parchu a helpu cleifion i arfer eu hawliau cyfreithiol i gael gwybod sut y caiff eu gwybodaeth ei defnyddio, ac i droi at neu gael copïau o’u cofnodion iechyd.
3
Mae’r egwyddorion hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion Caldicott ar gyfer llywodraethu gwybodaeth o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.