Cyfrinachedd: datgelu gwybodaeth am glefydau trosglwyddadwy difrifol
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor ar gael gafael ar wybodaeth, ei defnyddio a’i datgelu am statws heintio pobl â chlefydau trosglwyddadwy difrifol, fel HIV neu dwbercwlosis.
Mae’n cynnwys cyngor ar y canlynol:
- siarad â chleifion am y risg o drosglwyddo
- beth i'w wneud os bydd cyd-weithiwr gofal iechyd yn cael anaf gan nodwydd
- rheoli a chadw golwg ar glefydau
- beth i’w gofnodi ar dystysgrifau marwolaeth.
Mae hefyd yn archwilio’r amgylchiadau lle gallai fod angen datgelu heb ganiatâd, gan eich helpu i gydbwyso’r risg o niwed i bobl eraill â hawl y claf i gyfrinachedd.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 25 Ebrill 2017.