Cyfrinachedd: datgelu gwybodaeth am glefydau trosglwyddadwy difrifol

Datgelu gwybodaeth am glefydau trosglwyddadwy difrifol

1

Yn ein harweiniad Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifon rydym yn nodi:

1. Mae ymddiriedaeth yn rhan hanfodol o’r berthynas rhwng chlafcleifion a gweithwyr meddygol proffesiynol ac mae cyfrinachedd yn ganolog i hyn. Efallai y bydd cleifon yn osgoi ceisio help meddygol, neu efallai na fyddant yn rhoi disgrifad llawn o’u symptomau, os byddant yn credu y bydd eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu heb eu caniatâd, neu os na fyddant yn cael y cyfe i gael rhywfaint o reolaeth dros yr amseru neu swm y wybodaeth a rennir

17.  Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw hynny’n ofynnol gan statud neu os bydd barnwr neu swyddog gweinyddol llys barn yn rhoi gorchymyn i chi wneud hynny. 

18. Rhaid i chi deimlo’n fodlon bod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith a dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais y dylech ei datgelu. Pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, dylech ddweud wrth gleifon am ddatgeliadau o’r fath, oni bai y byddai hynny’n tanseilio’r diben, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.

62. Dylech ofyn am ganiatâd claf i ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu eraill oni bai nad yw hi’n ddiogel neu’n ymarferol i chi wneud hynny1 neu os yw’r wybodaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Dylech ystyried unrhyw resymau a roddir dros wrthod rhoi caniatâd. 

64. Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. 

68. Os ydych o’r farn y byddai methu datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas mewn perygl mor ddifrifol fel ei fod yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gynnal cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn brydlon i unigolyn neu awdurdod priodol. Dylech hysbysu’r claf cyn datgelu’r wybodaeth, os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny, hyd yn oed os ydych yn bwriadu datgelu heb sicrhau eu caniatâd. 

1

Rydym yn rhoi enghreifftiau o adegau pan na fydd hi’n ymarferol ceisio caniatâd efallai ym mharagraff 14 Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifon. Mae modd i chi weld ein holl arweiniad ar-lein.

Am y canllawiau hwn

2

Mae cyfrinachedd yn bwysig i bob claf ac mae gan bob claf yr hawl i fanteisio ar ofal o safon da, waeth pa glefyd y gallai fod ganddynt, neu sut y cawsant y clefyd hwnnw. Efallai bod y rhai y mae ganddynt neu y gallai fod ganddynt glefyd trosglwyddadwy difrifol2 yn pryderu am eu preifatrwydd yn arbennig. Mae’r arweiniad hwn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, yn nodi sut mae’r egwyddorion cyffredinol yn ein harweiniad- Cyfrinachedd yn berthnasol pan fydd meddygon,cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn cael, yn defnyddio neu’n datgelu gwybodaeth am statws heintio cleifion sydd â chlefydau heintus difrifol.

Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n holl weithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn. Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau yn berthnasol i’n holl weithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn. 

Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac ers lles cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â phrosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer, ar ddechrau Arfer meddygol da.

2

Yn yr arweiniad hwn, mae’r term ’clefyd trosglwyddadwy difrifol’ yn berthnasol i unrhyw glefyd y bydd modd ei drosglwyddo o unigolyn i unigolyn, ac sy’n gallu arwain at farwolaeth neu salwch difrifol. Yn arbennig, mae’n berthnasol i, ond nid wedi ei gyfyngu i, HIV, twbercwlosis, a hepatitis B a C. 

Diogelu gwybodaeth rhag cael ei datgelumewn ffordd amhriodol

3

Dylech sicrhau bod gwybodaeth yr ydych yn ei dal neu’n ei rheoli ac sy’n ymwneud â statws haint claf yn cael ei diogelu mewn ffordd effeithiol bob amser rhag cael ei datgelu mewn ffordd amhriodol. Os byddwch yn datgelu gwybodaeth am statws haint claf, rhaid i chi sicrhau eich bod yn datgelu cyn lleied ag sy’n angenrheidiol at y diben dan sylw. 

Rheoli a goruchwylio clefydautrosglwyddadwy difrifol

4

Rhaid i chi gyfeu gwybodaeth am glefydau hysbysadwy i’r awdurdodau perthnasol er mwyn rheoli a goruchwylio clefydau trosglwyddadwy. Mae gofyn hysbysu am wahanol glefydau mewn gwahanol wledydd yn y DU ac mae’r trefniadau adrodd yn gwahaniaethu. Dylech ddilyn y trefniadau yn y wlad lle’r ydych yn gweithio.3 Dylech ddatgelu gwybodaeth ddienw os yw hynny’n ymarferol ac os bydd hynny’n cyfawni’r diben.

3

You can get advice from Public Health England, Public Health Wales, Communicable Disease Surveillance Centre in Northern Ireland and Health Protection Scotland.

Diogelu cleifon rhag risgiau sy’n deillio o’chiechyd chi neu iechyd eich cydweithwyr

5

Good medical practice4 yn nodi:

4

Arfer meddygol da (Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2024). Mae modd i chi weld ein holl arweiniad ar-lein.

79. Rhaid i chi ymgynghori â gweithiwr proffesiynol â chymwysterau addas, a dilyn eu cyngor am unrhyw newidiadau i’ch ymarfer sy’n angenrheidiol yn eu barn nhw:

  1. os ydych yn gwybod neu’n amau bod gennych chi gyflwr difrifol y gallech ei drosglwyddo i gleifion
  2. os allai cyflwr neu driniaeth effeithio ar eich barn neu’ch perfformiad.

80. Dylech gael eich imiwneiddio yn erbyn clefydau trosglwyddadwy difrifol cyffredin (oni bai y cynghorir yn erbyn hyn).

6

Dylech ddilyn ein harweiniad Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifon a gweithredu yn eu cylch os ydych yn pryderu bod cydweithiwr y mae ganddynt glefyd trosglwyddadwy difrifol yn gweithio neu wedi bod yn gweithio mewn ffordd sy’n rhoi cleifon mewn perygl o gael eu heintio5. Dylech hysbysu’ch cydweithiwr cyn cyfeu’r wybodaeth, ar yr amod ei bod yn ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny. 

5

Gweler Health clearance for tuberculosis, hepatitis B, hepatitis C and HIV: New healthcare workers (Adran Iechyd, 2007); Health Clearance for Tuberculosis, Hepatitis B, Hepatitis C and HIV for new Healthcare Workers with direct clinical contact with patients (Llywodraeth yr Alban, 2008); The Management of HIV infected Healthcare Workers who perform exposure prone procedures: updated guidance (Adran Iechyd, 2014); a HIV Infected Health Care Workers: Guidance on Management and Patient Notifcation (Llywodraeth yr Alban, 2005). 

Datgelu gwybodaeth i’r rhai sy’n darparugofal uniongyrchol am gleifon y rhoddirdiagnosis iddynt eu bod yn dioddef clefydtrosglwyddadwy difrifol

7

Mae’r rhan fwyaf o gleifon yn deall ac yn disgwyl bod yn rhaid rhannu gwybodaeth berthnasol o fewn y tîm gofal uniongyrchol er mwyn darparu eu gofal. Os bydd claf yn gwrthwynebu i’r cam o ddatgelu gwybodaeth bersonol sy’n hanfodol er mwyn darparu gofal diogel iddynt yn eich barn chi, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau 30 - 31 Cyfrinachedd. Os na fydd y claf yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad, mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth os yw hynny er budd cyffredinol iddynt, yn unol â’r arweiniad ym mharagraffau 48 - 49 Cyfrinachedd.

30

Os bydd claf yn gwrthwynebu i’r cam o rannu gwybodaeth bersonol benodol at ddibenion eu gofal uniongyrchol, ni ddylech ddatgelu’r wybodaeth oni bai y byddai modd cyfiawnhau gwneud hynny er budd y cyhoedd,12 neu os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i wneud y penderfyniad. Mae modd i chi weld arweiniad pellach ynghylch datgeliadau gwybodaeth am oedolion heb alluedd i roi eu caniatâd ym paragraphs 41 - 49.

31

Dylech esbonio i’r claf ganlyniadau posibl penderfyniad i beidio caniatáu i wybodaeth bersonol gael ei rhannu gydag eraill sy’n darparu eu gofal. Dylech ystyried hefyd gyda’r claf a oes modd dod i unrhyw gyfaddawd. Ar ôl cael trafodaeth, os bydd claf sy’n meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad yn gwrthwynebu o hyd i’r cam o ddatgelu gwybodaeth bersonol y mae’n hanfodol ei datgelu yn eich barn chi er mwyn darparu gofal diogel, dylech esbonio nad oes modd i chi eu cyfeirio neu drefnu eu triniaeth fel arall heb ddatgelu’r wybodaeth honno hefyd.

48

Os bydd claf yn gofyn i chi beidio datgelu gwybodaeth bersonol am eu cyflwr neu eu triniaeth, ac os ydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, dylech geisio’u perswadio i ganiatáu i unigolyn priodol gael gwybodaeth berthnasol am eu gofal. Mewn rhai achosion, bydd gofyn neu bydd angen datgelu gwybodaeth, er enghraifft dan ddarpariaethau cyfreithiau iechyd meddwl a galluedd meddyliol (gweler paragraff 47).

49

Os nad yw’r claf yn dymuno i chi ddatgelu gwybodaeth o hyd, ond rydych chi o’r farn y byddai hynny o fudd cyffredinol i’r claf ac rydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, gallwch ddatgelu gwybodaeth berthnasol i unigolyn neu awdurdod priodol. Mewn achosion o’r fath, dylech ddweud wrth y claf cyn datgelu’r wybodaeth ac os yw hynny’n briodol, dylech geisio safbwyntiau eiriolwr neu ofalwr a’u hystyried yn ofalus. Rhaid i chi gofnodi’ch trafodaethau a’r rhesymau dros benderfynu datgelu’r wybodaeth yng nghofnodion y claf.14 

8

Os bydd claf y rhoddwyd diagnosis iddynt bod ganddynt glefyd trosglwyddadwy difrifol yn gwrthod caniatáu i chi ddweud wrth eraill sy’n darparu eu gofal am eu statws haint, ac os ydych chi o’r farn y bydd methu datgelu’r wybodaeth yn rhoi gweithwyr gofal iechyd neu gleifon eraill mewn perygl o gael eu heintio, dylech esbonio canlyniadau posibl eu penderfyniad i’r claf, gan ystyried gyda’r claf a oes modd dod i unrhyw gyfaddawd. 

9

Yn yr un modd â phawb arall, mae gan weithwyr gofal iechyd yr hawl i gael eu diogelu rhag risg niwed difrifol. Ond mae’n annhebygol y bydd modd cyfawnhau datgelu gwybodaeth am statws haint claf heb sicrhau eu caniatâd os na fyddai hynny’n gwneud unrhyw wahaniaeth i’r risg o drosglwyddo’r haint – er enghraifft, os yw’r risg yn debygol o gael ei reoli trwy ddefnyddio rhagofalon cyffredinol sydd eisoes mewn grym.6 Os bydd y claf yn parhau i wrthod caniatáu i chi ddweud wrth aelodau eraill y tîm gofal iechyd am eu statws haint, rhaid i chi gydymffurfo â’u dymuniadau oni bai eich bod o’r farn ei bod yn angenrheidiol datgelu’r wybodaeth er mwyn diogelu gweithwyr gofal iechyd neu gleifon eraill rhag risg marwolaeth neu niwed difrifol.

6

Rhagofalon cyffredinol, a elwir rhagofalon rheoli haint safonol fel arall, yw’r mesurau sylfaenol er mwyn rheoli ac atal heintiau, sy’n angenrheidiol er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo cyfryngau heintus. Darparir arweiniad ynghylch rheoli haint gan Health Protection Scotland, GIG Cymru, DHSSPS Gogledd Iwerddon a’r Adran Iechyd yn Lloegr.

Datgelu gwybodaeth mewn ymateb ianafadau i gydweithwyr ac eraill

10

Os bydd cydweithiwr, heddwas neu unrhyw un arall yn dioddef anaf a achosir gan nodwydd neu anaf tebyg sy’n ymwneud â chlaf y mae ganddynt neu y gallai fod ganddynt glefyd trosglwyddadwy difrifol, dylech sicrhau bod cydweithiwr sy’n meddu ar gymhwyster priodol yn cynnal asesiad risg ar unwaith. Dylid cynnig proffylacsis ôlgyswllt yn unol â’r asesiad risg hwnnw, gan ddibynnu ar y math o hylif y corff neu sylwedd dan sylw a llwybr a difrifoldeb y cyswllt.7 

7

Guidance for clinical health care workers: protection against infection with blood-borne viruses – Expert Advisory Group on AIDS and the Advisory Group on Hepatitis (Department of Health, 1998); HIV post-exposure prophylaxis: guidance from the UK Chief Medical Officers’ Expert Advisory Group on AIDS (Department of Health, 2008). 

11

Dylech ofyn am ganiatâd y claf i ddatgelu eu statws haint ar ôl i bobl arall gael cyswllt posibl â chlefyd trosglwyddadwy difrifol. Os na fydd modd perswadio’r claf i roi eu caniatâd i ddatgeliad neu os nad yw hi’n ddiogel neu’n ymarferol gofyn am eu caniatâd, mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth os ellir cyfawnhau hynny er budd y cyhoedd. Gallai hyn, er enghraifft, fod mewn achosion pan fydd angen cael y wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau am briodolrwydd parhaus proffylacsis ôl-gyswllt. 

Hysbysu pobl y maent mewn perygl o gaeleu heintio gan glefyd trosglwyddadwy

12

Dylech esbonio i gleifon y mae ganddynt glefydau trosglwyddadwy difrifol sut y gallant ddiogelu eraill rhag cael eu heintio, gan gynnwys cael eu heintio gan glefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Mae hyn yn cynnwys y mesurau ymarferol y mae modd iddynt eu cymryd er mwyn osgoi trosglwyddo’r clefyd, a phwysigrwydd hysbysu pobl y maent wedi cael cyswllt rhywiol â nhw o berygl trosglwyddo clefydau trosglwyddadwy difrifol. 

13

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth i unigolyn sy’n cael cyswllt agos â chlaf sydd â chlefyd trosglwyddadwy difrifol os oes gennych chi reswm dros gredu:

  1. bod yr unigolyn mewn perygl o gael eu heintio a bod hyn yn debygol o arwain at niwed difrifol 
  2. nad yw’r claf wedi eu hysbysu ac ni ellir eu perswadio i wneud hynny. 
14

Os ydych o’r farn nad oes oedolyn sydd mewn perygl o gael eu heintio yn meddu ar alluedd i ddeall y wybodaeth hon, a’u bod mewn perygl o ddioddef niwed difrifol, rhaid i chi roi gwybodaeth berthnasol i awdurdod neu unigolyn cyfrifol priodol yn ddi-oed, oni bai nad yw gwneud hyn o fudd cyffredinol i’r claf  (gweler paragraff 55 - 56 Cyfrinachedd). 

55

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol am oedolyn y gallent fod mewn perygl o ddioddef niwed difrifol os yw hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith (gweler paragraff 53). Hyd yn oed os nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i wneud hynny, rhaid i chi roi gwybodaeth yn ddi-oed i unigolyn neu awdurdod cyfrifol priodol os ydych o’r farn bod claf heb alluedd i roi eu caniatâd yn dioddef neu mewn perygl o ddioddef esgeulustod neu gamdriniaeth gorfforol, rhywiol neu emosiynol, neu unrhyw fath arall o niwed difrifol, oni bai na fyddai gwneud hynny o fudd cyffredinol i’r claf.

56

Os ydych o’r farn nad yw datgelu gwybodaeth bersonol claf o fudd cyffredinol iddynt (ac nid yw hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith), dylech drafod y materion gyda chydweithiwr profiadol. Os byddwch yn penderfynu peidio datgelu gwybodaeth, rhaid i chi gofnodi’ch trafodaethau yng nghofnodion y claf a’r rhesymau dros benderfynu peidio datgelu. Rhaid bod modd i chi gyfiawnhau’ch penderfyniad.

15

Dylech ddweud wrth y claf cyn i chi ddatgelu’r wybodaeth os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny. Pan fyddwch yn olrhain ac yn hysbysu pobl, ni ddylech ddatgelu manylion y claf os yw hynny’n ymarferol. Rhaid i chi fod yn barod i gyfawnhau penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd.8 

8

Mae Rheoliadau GIG (Clefydau Gwenerol) 1974, Cyfarwyddiadau Ymddiriedolaethau GIG (Clefydau Gwenerol) 1991 a Chyfarwyddiadau Ymddiriedolaethau GIG ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol (Clefydau a Drosglwyddir yn Rhywiol) 2000 yn nodi bod yn rhaid i gyrff GIG amrywiol yng Nghymru a Lloegr ‘gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw wybodaeth y mae modd iddi ddatgelu manylion unigolyn ... mewn perthynas ag unigolion sy’n cael eu harchwilio neu eu trin am unrhyw glefyd a drosglwyddir yn rhywiol, ei datgelu ac eithrio – (a) at ddibenion cyfeu’r wybodaeth honno i ymarferwr meddygol, neu i unigolyn a gyfogir dan gyfarwyddyd ymarferwr meddygol mewn perthynas â’r driniaeth ar gyfer unigolion sy’n dioddef clefyd o’r fath neu er mwyn ei atal rhag lledaenu, a (b) at ddibenion triniaeth a gweithgarwch atal o’r fath.’ Ceir gwahanol ddehongliadau o reoliadau a chyfarwyddiadau, a phryderon ynghylch eu cydweddoldeb â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Yn arbennig, bu pryderon y byddai dehongliad llym o’r rheoliadau’n atal gwybodaeth berthnasol rhag cael ei datgelu, ac eithrio i feddygon eraill neu’r rhai sy’n gweithio dan eu goruchwyliaeth, hyd yn oed gyda chaniatâd y claf. Bu pryderon hefyd y byddai’r rheoliadau’n atal gwybodaeth rhag cael ei datgelu i gysylltiadau rhywiol hysbys er budd y cyhoedd. Ein barn ni yw nad yw’r rheoliadau a’r cyfarwyddiadau yn gwahardd datgelu os byddai hynny’n gyfreithlon fel arall yn unol â’r gyfraith gyffredin, er enghraifft gyda chaniatâd y claf neu er budd y cyhoedd heb sicrhau caniatâd. 

Datgelu gwybodaeth pan fydd planta phobl ifanc mewn perygl o ddioddefclefyd trosglwyddadwy difrifol

16

Bydd y rhan fwyaf y cleifon sydd â chlefyd trosglwyddadwy difrifol ac y maent yn rhieni sy’n gofalu am blant, yn gwneud popeth y gallant i ddiogelu’r plant rhag y perygl y byddant yn cael eu heintio neu rhag effeithiau’r clefyd. Dylech sicrhau bod y claf yn deall y wybodaeth a’r cyngor yr ydych yn ei rhoi iddynt, a ddylai fod yn bwrpasol i’w hanghenion. Dylech wneud popeth rhesymol y gallwch ei wneud i’w cynorthwyo i ofalu am eu hunain ac i ddiogelu eu plant. 

17

Dylech esbonio i glaf sydd â chlefyd trosglwyddadwy difrifol, bwysigrwydd prof plant y gallent eisoes fod wedi cael eu heintio, gan gynnwys plant heb symptomau a phobl ifanc y gallent fod wedi cael eu heintio’n fertigol gan feirws a gludir yn y gwaed. 

18

Os ydych yn pryderu bod plentyn mewn perygl o ddioddef niwed difrifol gan nad oes modd perswadio eu rhieni i’w diogelu rhag risg haint, neu oherwydd eu bod yn gwrthod caniatáu i’r plentyn gael eu prof, dylech ei drin fel pryder diogelu a dilyn y cyngor yn ein canllawiau Amddiffyn plant a phobl ifanc.9

9

Gweler hefyd ein hastudiaeth achos am riant sy’n gwrthod caniatáu i’w mherch gael prawf HIV.

Cofnodi clefydau trosglwyddadwy difrifolar dystysgrifau marwolaeth

19

Os bydd clefyd trosglwyddadwy difrifol wedi cyfrannu at achos y farwolaeth, rhaid i chi gofnodi hyn ar dystysgrif marwolaeth y claf.