Cyfrinachedd: adrodd am anafiadau saethu a thrywanu
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i gydbwyso hawl y claf i gyfrinachedd â’r risg o niwed i bobl eraill. Maent yn eich helpu i benderfynu a allwch ddatgelu gwybodaeth bersonol heb gydsyniad y claf. Maent yn eich helpu i ryngweithio â’r heddlu, gan ddweud beth gallwch chi ei ddatgelu iddynt gyda chydsyniad y claf neu hebddo.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 25 Ebrill 2017. Cawsant eu diweddaru ar 25 Mai 2018 i adlewyrchu gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, ac ar 13 Rhagfyr 2024 pan ddaeth rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gan y GMC i rym.