Adrodd am anafiadau saethu a thrywanu
Yn ein harweiniad Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion rydym yn nodi:
1. Mae ymddiriedaeth yn rhan hanfodol o’r berthynas rhwng meddygon a gweithwyr proffesiynol, ac mae cyfrinachedd yn ganolog i hyn. Efallai y bydd cleifion yn osgoi ceisio help meddygol, neu efallai na fyddant yn rhoi disgrifiad llawn o’u symptomau, os byddant yn credu y bydd meddygon yn datgelu eu gwybodaeth bersonol heb eu caniatâd, neu os na fyddant yn cael y cyfle i gael rhywfaint o reolaeth dros yr amseru neu swm y wybodaeth a rennir.
60. Mae gan weithwyr meddygol proffesiynol ddyletswydd cyfrinachedd tuag at eu cleifion, ond hefyd, mae ganddynt ddyletswydd ehangach i ddiogelu ac i hyrwyddo iechyd cleifion a’r cyhoedd.
62.Dylech ofyn am ganiatâd claf i ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu eraill oni bai nad yw hi’n ddiogel neu’n ymarferol i chi wneud hynny,1 neu os yw’r wybodaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Dylech ystyried unrhyw resymau a roddir dros wrthod rhoi caniatâd.
64. Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.
67. Cyn penderfynu a ellid cyfiawnhau datgelu er budd y cyhoedd, dylech ystyried a yw’n ymarferol neu’n briodol i geisio caniatâd (gweler paragraff 14). Ni ddylech ofyn am ganiatâd os ydych eisoes wedi penderfynu datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd ond dylech ddweud wrth y claf eich bod yn bwriadu datgelu’r wybodaeth, oni bai nad yw hi’n ddiogel neu’n ymarferol i wneud hynny. Os yw’r claf yn gwrthwynebu’r datgeliad, dylech ystyried unrhyw resymau y maent yn eu rhoi dros wrthwynebu.
68.Wrth benderfynu a yw’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth yn drech na’r budd i’r claf a’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, rhaid i chi ystyried y canlynol:
- y niwed neu’r gofid posibl i’r claf sy’n deillio o’r datgeliad – er enghraifft, o ran eu hymgysylltiad yn y dyfodol â thriniaeth a’u hiechyd yn gyffredinol
- y niwed posibl i ymddiriedaeth mewn gweithwyr meddygol proffesiynol yn gyffredinol – er enghraifft, os oes canfyddiad cyffredinol y bydd meddygon yn datgelu gwybodaeth am gleifion yn rhwydd heb ganiatâd
- y niwed posibl i eraill (boed hynny i berson neu bobl benodol, neu i’r cyhoedd yn fwy cyffredinol) os na chaiff y wybodaeth ei datgelu
- y manteision posibl i unigolyn neu gymdeithas sy'n deillio o ryddhau'r wybodaeth
- natur yr wybodaeth sydd i'w datgelu, ac unrhyw farn a fynegir gan y claf
- a ellir osgoi’r niwed neu’r manteision a geir heb dorri ar breifatrwydd y claf neu, os na ellir gwneud hynny, beth yw’r ymyrraeth leiaf.
Os ydych o’r farn y byddai peidio â datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas yn agored i risg mor ddifrifol fel ei bod yn drech na’r budd i’r claf a’r cyhoedd o gadw cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn brydlon i berson neu awdurdod priodol.
Rydym yn rhoi enghreifftiau o adegau pan nad yw’n ymarferol ceisio caniatâd efallai ym mharagraff 14 Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion. Mae modd i chi weld ein holl arweiniad ar-lein trwy droi at www.gmc-uk.org/guidance.
Am yr arweiniad hwn
Mae’r arweiniad esboniadol hwn yn nodi sut y mae’r egwyddorion yn ein harweiniad, Cyfrinachedd, yn berthnasol pan fydd claf yn cyrraedd gydag anaf saethu neu drywanu nad ydynt wedi ei gyflawni ei hunain. Mae’r canllawiau’n gymwys i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel ‘gweithwyr meddygol cyffredinol’.
Mae’r egwyddorion yn Cyfrinachedd a’r canllawiau hyn yn berthnasol i bob anaf treisgar, ond byddai anafiadau saethu a thrywanu yn codi materion sy’n gofyn am ystyriaeth arbennig, oherwydd y risg uniongyrchol bosibl i eraill.
Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau’n gymwys i’n holl unigolion cofrestredig i’r graddau y mae hynny’n berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd I ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer ar ddechrau Arfer meddygol da.
Adrodd am anafiadau saethu a thrywanu
Mae’r heddlu yn gyfrifol am asesu’r risg a achosir gan aelod o’r cyhoedd y mae ganddynt ddryll neu gyllell ac y maent wedi defnyddio’r dryll hwn neu’r gyllell hon yn ystod ymosodiad treisgar. Bydd angen iddynt ystyried:
- risg ymosodiad pellach ar y claf
- y risg i staff, cleifion ac ymwelwyr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys neu’r ysbyty
- risg ymosodiad arall yn safle’r digwyddiad gwreiddiol neu gerllaw.
Mae angen gwybodaeth ystadegol ar yr heddlu hefyd ynghylch nifer yr anafiadau saethu a thrywanu sy’n digwydd, ynghyd â phryd a ble y maent yn digwydd, er mwyn cyfrannu at eu blaenoriaethau strategol a gweithredol nhw er mwyn lleihau troseddu ac er mwyn cyfrannu at flaenoriaethau eu partneriaid.
Am y rhesymau hyn, dylid hysbysu’r heddlu fel arfer pryd bynnag y bydd unigolyn yn cyrraedd yr ysbyty gydag anaf saethu. Mae hyn yn oed achosion lle y mae rhywun wedi cael eu saethu’n ddamweiniol gan ddryll y mae’n gyfreithiol i rywun ei gadw, yn codi materion difrifol i’r heddlu ynghylch trwyddedu gynnau, er enghraifft.2 Yn ogystal, dylid hysbysu’r heddlu fel arfer hefyd pan fydd rhywun yn cyrraedd yr ysbyty yn dioddef anaf yn dilyn ymosodiad gyda chyllell, llafn neu offeryn miniog arall.
Mae’r heddlu yn gyfrifol am benderfynu a yw unigolyn yn addas i ddal trwydded dryll neu arf tanio. Gallai fod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth i’r heddlu er budd y cyhoedd er mwyn cyfrannu at y penderfyniad hwn os allai methu datgelu’r wybodaeth roi eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth.
Fel arfer, ni ddylid hysbysu’r heddlu os yw’r anaf a achoswyd gan gyllell neu lafn wedi digwydd trwy ddamwain, neu o ganlyniad i weithgarwch hunan-niweidio. Yn ogystal, efallai y bydd amgylchiadau eraill yn codi pan fyddwch o’r farn na fyddai cysylltu â’r heddlu yn gam cymesur. Er enghraifft, gallai hyn fod yn wir os ydych yn barnu nad oes unrhyw un ac eithrio’r claf ei hun mewn perygl o ddioddef niwed, ac y gallai cysylltu â’r heddlu beri niwed neu ofid i’r claf, neu y gallai niweidio’u hymddiriedaeth ynoch chi neu mewn gweithwyr meddygol proffesiynol yn gyffredinol.
Os bydd gennych chi unrhyw amheuaeth ynghylch achos anaf, dylech drafod y mater gyda chydweithiwr profiadol os oes modd.
Llunio’r adroddiad
Os ydych chi’n gyfrifol am y claf, dylech sicrhau bod yr heddlu yn cael eu hysbysu pan fo hynny’n briodol, ond mae modd i chi ddirprwyo’r dasg hon i aelod arall o staff.
Fel arfer, ni ddylid datgelu gwybodaeth bersonol, megis enw a chyfeiriad y claf, yn ystod y cyswllt cychwynnol gyda’r heddlu. Bydd yr heddlu yn ymateb hyd yn oed os na ddatgelir manylion personol y claf.
Rhoi’r pwys mwyaf ar ofal y claf
Pan fydd yr heddlu yn cyrraedd, ni ddylech adael iddynt weld y claf os bydd hyn yn oedi neu’n amharu ar y driniaeth, neu os bydd yn amharu ar wellhad y claf.
Os bydd triniaeth a chyflwr y claf yn golygu bod modd iddynt siarad gyda’r heddlu, dylech chi neu aelod arall o’r tîm gofal iechyd holi’r claf a ydynt yn fodlon gwneud hynny. Os nad ydynt, rhaid i chi, gweddill y tîm gofal iechyd, a’r heddlu dderbyn penderfyniad y claf.
Datgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd
Os yw’n debygol bod trosedd wedi cael ei chyflawni, bydd yr heddlu yn gofyn am ragor o wybodaeth. Os yw hynny’n ymarferol, dylech ofyn am ganiatâd y claf cyn datgelu gwybodaeth bersonol oni bai, er enghraifft:
- y gallai gwneud hynny eich rhoi chi neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol
- y byddai hynny’n debygol o danseilio diben y datgeliad, trwy niweidio’r broses o atal, darganfod neu erlyn trosedd ddifrifol.
- rydych eisoes wedi penderfynu datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd (gweler Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion, paragraff 67 ar dudalen 1 y canllawiau hyn).
Os bydd y claf yn gwrthod rhoi eu caniatâd neu os na fydd modd iddynt ei roi (ee oherwydd eu bod yn anymwybodol), mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth o hyd os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu os ydych o’r farn bod modd cyfiawnhau’r datgeliad er budd y cyhoedd.
Efallai y bydd modd cyfiawnhau datgeliadau er budd y cyhoedd:
- os allai methu datgelu gwybodaeth roi rhywun ac eithrio’r claf mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth (fel arfer, ni ddylech ddatgelu gwybodaeth yn erbyn dymuniadau claf sy’n oedolyn ac sy’n meddu ar alluedd, os mai nhw yw’r unig un sydd mewn perygl o ddioddef niwed) 3
- pan fo datgelu yn debygol o helpu wrth atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.
Mae’r egwyddorion yn y canllawiau hyn yn berthnasol i yrwyr a pheilotiaid mathau eraill o drafnidiaeth rheoledig arall, gan gynnwys ar reilffyrdd, ar ddŵr ac yn yr awyr, er bod unigolion o’r fath yn debygol o fod yn destun asesiad meddygol fel rhan o’r broses drwyddedu neu ardystio berthnasol.
Os ydych chi’n pryderu y gallai claf sy’n dal trwydded beilot breifat neu fasnachol fod yn anaddas yn feddygol i hedfan awyren, gallwch gysylltu ag adran feddygol Awdurdod Hedfan Sifil y DU ar 0330 022 1972 i gael cyngor cyfrinachol neu, y tu allan i oriau swyddfa, naill ai cysylltwch â phrif dderbynfa’r CAA ar 0330 022 1500 neu anfonwch e-bost at medicalweb@ca.co.uk.
I gael cyngor am forwyr, mae modd i chi gysylltu â changen iechyd a diogelwch yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau am gyngor trwy anfon e-bost at infoline@mcga.gov.uk. Os ydych yn pryderu y gallai cyflwr meddygol neu driniaeth gyrrwr trên olygu nad ydynt yn addas i yrru trên, y cyngor a roddir gan Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd (ORR) yw y dylid cysylltu ag adran AD eu cyflogwr yn y lle cyntaf. Gall Swyddfa'r Rheilffyrdd a'r Ffyrdd ddarparu manylion cyswllt gweithredwyr trenau ym Mhrydain Fawr os ydych chi'n gwybod enw'r cyflogwr. Mae modd i chi gysylltu â'r ORR ar eu gwefan.
Os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch a oes modd cyfiawnhau datgeliad heb sicrhau caniatâd, dylai’r penderfyniad gael ei wneud gan yr ymgynghorydd cyfrifol, neu warcheidwad data neu Caldicott y sefydliad gofal iechyd, neu gyda’u cytundeb.
Rhaid i chi gofnodi’ch rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd yng nghofnod y claf, ynghyd ag unrhyw gamau yr ydych wedi’u cymryd i geisio’u caniatâd, i’w hysbysu o’r datgeliad, neu’ch rhesymau dros beidio gwneud hynny.
Oni bai nad yw’n ymarferol neu’n ddiogel gwneud hynny, dylech hysbysu’r claf o unrhyw ddatgeliadau a wnaethpwyd cyn gynted ag y bo modd ar ôl y gwnaethpwyd y datgeliad.
Os nad oes unrhyw reswm cyfredol sy’n ymwneud â budd y cyhoedd dros ddatgelu gwybodaeth bersonol, ni ddylid rhoi gwybodaeth bellach i’r heddlu. Gallai’r heddlu geisio gorchymyn gan farnwr neu warant er mwyn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.4
Gweler atodlen 1 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, atodlen 1 Police and Criminal Evidence (Northern Ireland) Order 1989 ac adran 135 Criminal Procedure (Scotland) Act 1995. Yn ogystal, gall yr heddlu ddefnyddio pwerau i feddiannu.
Plant a phobl ifanc
Mae’n debygol y bydd unrhyw blentyn neu berson ifanc dan 18 oed sy’n cyrraedd gydag anaf saethu neu anaf yn dilyn ymosodiad gan gyllell, llafn neu offeryn miniog arall, yn codi pryderon amddiffyn plant. Gallai anafiadau a achoswyd gan gyllell neu lafn yn ystod damweiniau domestig neu alwedigaethol godi pryderon difrifol ynghylch diogelwch plant a phobl ifanc hefyd.
Dylech ddilyn y cyngor yn Diogelu plant a phobl ifanc pryd bynnag y byddwch yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc wedi dioddef neu mewn perygl o ddioddef niwed difrifol.