Cyfrinachedd: ymateb i feirniadaeth yn y cyfryngau
Mae’r canllawiau hyn yn edrych ar sut i ymateb os cewch eich beirniadu’n gyhoeddus, yn enwedig os yw’r adroddiad yn anghywir neu’n annheg. Os nad oes gennych gydsyniad pendant gan glaf, mae’n awgrymu’r hyn y gallech ei ddweud heb roi gwybodaeth gyfrinachol yn y parth cyhoeddus. Maent yn berthnasol i’r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â deunydd print a deunydd i’w ddarlledu.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 25 Ebrill 2017 a chawsant eu diweddaru ar 13 Rhagfyr 2024 pan ddaeth rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i rym.