Cyfrinachedd: datgelu gwybodaeth at ddibenion addysg a hyfforddiant
Mae defnyddio gwybodaeth am gleifion yn hanfodol er mwyn addysg a hyfforddiant meddygol. Fel arfer, gellir tynnu enwau o wybodaeth am gleifion cyn ei defnyddio.
Mae'r canllawiau hyn yn nodi beth i'w wneud os oes angen i chi ddefnyddio gwybodaeth sy’n datgelu pwy yw claf (bydd angen cael ei gydsyniad penodol fel arfer) ac mae ganddynt gyngor arall ar ddefnyddio cofnodion hyfforddi ac astudiaethau achos wrth addysgu.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 25 Ebrill 2017.