Cyfrinachedd: datgelu gwybodaeth at ddibenion addysg a hyfforddiant

Ôl-nodion

1

Mae’r holl rifau paragraff yn yr adran hon yn cyfeirio at ein 6 harweiniad Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifon. Mae modd i chi weld ein holl arweiniad ar-lein trwy droi at www.gmc-uk.org/guidance

2

Gweler ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd, paragraff 13, sy’n nodi bod yn rhaid i chi roi’r  wybodaeth i gleifon y maent yn dymuno ei chael neu y mae angen iddynt ei chael am eu hawl i wrthod cymryd rhan mewn addysgu.

3

Yn yr arweiniad hwn, mae ‘gofal uniongyrchol’ yn cyfeirio at weithgareddau sy’n cyfrannu mewn ffordd uniongyrchol i’r diagnosis, y gofal a’r driniaeth ar gyfer unigolyn. Mae’r tîm gofal uniongyrchol yn cynnwys y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol hynny sy’n darparu gofal uniongyrchol i’r claf ac i eraill, megis staff gweinyddol, sy’n cynorthwyo’r gofal hwnnw mewn ffordd uniongyrchol.

4

Gweler paragraffau 28 - 29 Cyfrinachedd er mwyn cael cyngor am ganiatâd dealledig.

5

Mae gan atwrneiod lles, gwarcheidwaid a benodir gan lys a dirprwyon a benodir gan lys awdurdod cyfreithiol i wneud rhai penderfyniadau ar ran claf. Yng nghyd-destun datgeliadau er budd y cyhoedd, byddwch yn ceisio’u safbwyntiau ynghylch dewisiadau’r claf, yn hytrach na’u caniatâd i ddatgelu.

6

Cyhoeddwyd canllawiau ymarferol ynghylch trefnu profad gwaith yng Nghymru, Galluogi profad gwaith yn y sector iechyd yng Nghymru (Gyrfa Cymru, 2012), ac yn Lloegr, More than photocopying: Work experience - a toolkit for the NHS (Gyrfaoedd Addysg Iechyd Lloegr, 2015).

7

Mae modd i chi weld cod ymarfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ynghylch sicrhau bod gwybodaeth yn ddienw ar wefan ICO sef www.ico.org.uk.

8

Mae manylion adnabod posibl eraill yn cynnwys llythrennau cyntaf y claf, eu cod post, eu rhif GIG neu CHC, manylion adnabod lleol (megis rhifau ysbytai), eu rhif yswiriant gwladol, a dyddiadau allweddol (megis dyddiad geni, dyddiad rhoi diagnosis neu ddyddiad marwolaeth).

9

Mae Academi y Colegau Brenhinol Meddygol wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch cofnodi gwybodaeth mewn e-bortffolios, y mae modd i chi eu gweld ar ei gwefan sef www.aomrc.org.uk/past-publications/reports-and-guidance-archive/.