Cyfrinachedd: datgelu gwybodaeth at ddibenion cyflogaeth, yswiriant a dibenion tebyg
Weithiau, gofynnir i feddygon ddarparu gwybodaeth am gleifion i drydydd parti, fel cyflogwr y claf neu asiantaeth budd-daliadau. Os ydych chi’n gweithio i drydydd parti, neu os ydyn nhw wedi gofyn i chi – fel meddyg y claf – am wybodaeth, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i chi.
Byddant yn eich helpu i gydbwyso’r ddyletswydd gofal sydd gennych i’r claf â’ch dyletswydd i’r trydydd parti. Maent yn cynnwys cyngor ar beth a faint o wybodaeth i’w datgelu, yn ogystal â chanllawiau ar ofyn am ganiatâd y claf i ddatgelu, gan gydnabod y bydd yn rhaid datgelu weithiau yn ôl y gyfraith neu er budd y cyhoedd.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 25 Ebrill 2017.