Cyfrinachedd: datgelu gwybodaeth at ddibenion cyflogaeth, yswiriant a dibenion tebyg

Ôl-nodion

1

Mae modd i chi weld Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifon, a'r gweddill o'n canllawiau ar-lein.

2

Mae’r term ‘claf’ yn yr arweiniad hwn yn cyfeirio at gyfogeion, cleientiaid, hawlwyr, athletwyr ac unrhyw un arall yr ydych yn dal gwybodaeth bersonol amdanynt neu y mae modd i chi droi at wybodaeth bersonol amdanynt, os ydych yn gofalu amdanynt mewn perthynas therapiwtig draddodiadol neu beidio. 

3

Efallai y bydd gweithwyr meddygol proffesiynol yn darparu eu gwasanaethau i glybiau chwaraeon proffesiynol (pan fo’r rhwymedigaeth ddeuol i’r claf ac i’r clwb, sy’n debyg iawn i rwymedigaeth ddeuol meddyg iechyd galwedigaethol) neu i gymdeithasau (lle y mae’r rhwymedigaeth ddeuol i’r claf ac i gorff llywodraethu neu dîm o ddetholwyr).

4

Gallai datgelu’r cofnod cyfan dorri egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998, oherwydd gallai’r cofnod llawn gynnwys gwybodaeth ormodol ac nad yw’n berthnasol i’r diben. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cynghori nad yw hi’n briodol i gwmnïau yswiriant sicrhau cofnodion meddygol gan ddefnyddio ceisiadau gwrthrych am wybodaeth cleifon. Mae Deddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1988 yn rhoi llwybr cyfreithiol clir a sefydledig i gwmnïau yswiriant droi at wybodaeth feddygol, gan ddiogelu hawliau cleifon ar yr un pryd.

5

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi cyngor am adroddiadau at ddibenion budd-daliadau.

6

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr a Chymdeithas Feddygol Prydain yn cyhoeddi ffurflenni cydsyniad enghreifftiol ar y cyd https://www.bma.org.uk/advice-and-support/ethics/confidentiality-and-health-records/access-to-health-records, sy’n awdurdodi rhyddhau cofnodion iechyd i gyfreithwyr dan y ddeddf diogelu data. Mae’r ffurflenni’n cynnwys nodiadau i gleientiaid, cyfreithwyr a rheolwyr cofnodion meddygol.

7

Gweler Arfer meddygol da, paragraffoedd 88, 89, 92, 98, y gallwch eu darganfod, ar gael ar ein gwefan.

8

Dan Ddeddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1988, mae gan gleifon yr hawl i weld adroddiad a ysgrifennwyd amdanynt at ddibenion cyfogaeth neu yswiriant gan feddyg sy’n gyfrifol neu sydd wedi bod yn gyfrifol am ofal clinigol yr unigolyn cyn iddo gael ei anfon, oni bai bod eithriadau’n berthnasol. Mae gan gleifon yr hawl i ofyn i’r meddyg ddiwygio unrhyw ran o’r adroddiad sy’n anghywir neu sy’n gamarweiniol ym marn y claf, ac i dynnu eu caniatâd yn ôl i ryddhau’r wybodaeth. Nid yw’r darpariaethau hyn yn berthnasol i adroddiadau at ddibenion budd-daliadau. Os nad oes gan y claf hawl gyfreithiol i weld yr adroddiad cyn iddo gael ei anfon, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraff 115(d) Cyfrinachedd, a atgynhyrchir ar ddechrau’r arweiniad esboniadol hwn. Os oes unrhyw rai o’r eithriadau a nodir ym mharagraff 115(d) yn berthnasol, dylech ddatgelu cymaint o’r adroddiad ag y gallwch o hyd. 

9

Mae Rheoliadau Adrodd am Anafadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013Rheoliadau Adrodd am Anafadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (Gogledd Iwerddon) 1997 yn rhoi dyletswyddau ar gyfogwyr, yr hunangyfogedig a phobl sy’n rheoli safeoedd gwaith i adrodd am ddamweiniau difrifol penodol sy’n digwydd yn y gweithle, clefydau galwedigaethol a digwyddiadau peryglus penodedig (achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd). Mae modd i chi gael gwybod mwy am y rheoliadau hyn ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer Lloegr, Cymru a'r Alban a gwefan yr Swyddfa Diogelwch a Iechyd dros Ganolbarth Iwerddon (HSENI).