Arfer meddygol da

Maes 4: Ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb

Cyflwyniad

Rhaid i gleifion allu ymddiried mewn gweithwyr meddygol proffesiynol gyda’u bywydau a’u hiechyd, ac mae’n rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol allu ymddiried yn ei gilydd.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol da yn arddel safonau ymddygiad personol a phroffesiynol uchel.  Maent yn onest ac yn ddibynadwy, yn gweithredu gydag uniondeb, yn cynnal terfynau proffesiynol ac ni fyddant yn gadael i’w buddiannau personol effeithio ar eu barn neu eu gweithredoedd proffesiynol.

Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb

81

Rhaid i chi sicrhau bod eich ymddygiad yn cyfiawnhau ymddiriedaeth cleifion ynoch chi ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn eich proffesiwn.

82

Rhaid i chi wastad fod yn onest am eich profiad, eich cymwysterau a’ch rôl bresennol. Dylech eich cyflwyno eich hun i gleifion ac esbonio beth yw eich rôl chi yn eu gofal. 

83

Os bydd claf, cydweithiwr, neu unrhyw un arall yr ydych yn cael cyswllt gyda nhw yn eich rôl broffesiynol yn gofyn am eich enw cofrestredig a/neu gyfeirnod CMC, rhaid i chi roi’r wybodaeth hon iddynt.

84

Rhaid i chi fod yn onest wrth ymwneud yn ariannol ac yn fasnachol gyda chleifion, cyflogwyr, yswirwyr, indemniwyr a sefydliadau neu unigolion eraill.

Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb mewn gwaith ymchwil

85

Wrth gynllunio, trefnu neu gyflawni gwaith ymchwil, rhaid i chi roi buddiannau’r cyfranogwyr yn gyntaf.  Rhaid i chi weithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb, gan ddilyn canllawiau cenedlaethol ar gyfer llywodraethu gwaith ymchwil a’n canllawiau mwy manwl, Arfer da mewn ymchwil.

Cynnal terfynau proffesiynol

86

Rhaid i chi beidio â gweithredu mewn ffordd rywiol tuag at gleifion na defnyddio eich safle proffesiynol i ganlyn perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol gyda chlaf neu rywun sy’n agos iddynt.  Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl ar Gynnal terfyn personol a phroffesiynol.

87

Rhaid i chi beidio â mynegi eich credoau personol (gan gynnwys credoau gwleidyddol, crefyddol a moesol) i gleifion mewn ffyrdd sy’n manteisio ar eu bregusrwydd neu a allai yn rhesymol beri gofid iddynt.  Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl ar Gredoau personol ac arfer meddygol

Cyfathrebu fel gweithiwr meddygol proffesiynol

Pob cyfathrebu proffesiynol

88

Rhaid i chi fod yn onest ac yn ddibynadwy, gan gynnal cyfrinachedd cleifion yn eich holl gyfathrebu proffesiynol ysgrifenedig, llafar a digidol.

89

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei chyfleu fel gweithiwr meddygol proffesiynol yn fanwl, ac nad yw’n ffug neu’n gamarweiniol.  Mae hyn yn golygu:

  1. bod yn rhaid i chi gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
  2. bod yn rhaid i chi beidio â hepgor unrhyw wybodaeth berthnasol yn fwriadol
  3. bod yn rhaid i chi beidio â lleihau neu fychanu risgiau niwed
  4. bod yn rhaid i chi beidio â chyflwyno barn fel ffaith ddiamau.

Cyfathrebu proffesiynol cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, hyrwyddo, a chymeradwyo

90

Wrth gyfathrebu mewn ffordd gyhoeddus fel gweithiwr meddygol proffesiynol – gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu eich gwasanaethau, a hyrwyddo neu gymeradwyo unrhyw wasanaethau neu gynnyrch:

  1. rhaid i chi ddilyn yr arweiniad ym mharagraff 89 a 90
  2. rhaid i chi ddatgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau
  3. rhaid i chi beidio â manteisio ar fregusrwydd neu ddiffyg gwybodaeth feddygol pobl 
  4. rhaid i chi sicrhau bod yr hyn y byddwch yn ei gyfathrebu yn cyd-fynd â’ch dyletswydd i hyrwyddo a diogelu iechyd cleifion a’r cyhoedd.
91

Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl, sef Defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol.

Rhoi tystiolaeth a chyflawni rôl tyst

92

Wrth roi tystiolaeth neu gyflawni rôl tyst, rhaid i chi ddilyn y canllawiau ym mharagraffau 89 i 91 a’n canllawiau mwy manwl am Gyflawni rôl tyst mewn achosion cyfreithiol, ac mae’n rhaid i chi nodi terfynau eich gwybodaeth a’ch arbenigedd yn glir.

Cyfathrebu preifat

93

Wrth gyfathrebu yn breifat, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau negeseua gwib, dylech gofio y gallai negeseuon neu gyfathrebu arall mewn grwpiau preifat ddod yn gyhoeddus.

Cyngor ar gyfryngau cymdeithasol

Mae’r pwnc hwb moesegol hwn yn nodi sut gellir defnyddio ein canllawiau cyfryngau cymdeithasol yn ymarferol.  Mae hefyd yn cynnwys adran sy’n ateb ymholiadau cyffredin am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol. Saesneg yn unig.

Rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau

94

Mae’n rhaid i chi beidio â chaniatáu i unrhyw fuddiannau sydd gennych i effeithio ar neu i ymddangos eu bod yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn cynnig, yn darparu neu’n presgripsiynu triniaethau, yn cyfeirio cleifion, neu’n comisiynu gwasanaethau.

95

Os byddwch yn wynebu gwrthdaro rhwng buddiannau, rhaid i chi fod yn agored amdano gyda chleifion a chyflogwyr, ei ddatgan yn unol â threfniadau lleol, a bod yn barod i eithrio eich hun rhag gwneud penderfyniadau. Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl yn Trefniadau ariannol a masnachol a gwrthdaro rhwng buddiannau.

96

Rhaid i chi beidio â gofyn am na derbyn – gan gleifion, cydweithwyr neu eraill – unrhyw daliadau cymhelliant, rhoddion na lletygarwch y gallai effeithio ar neu ymddangos ei fod yn effeithio ar y ffordd yr ydych chi’n cynnig, yn darparu neu’n rhagnodi triniaethau, yn cyfeirio neu’n comisiynu gwasanaethau i gleifion. Rhaid i chi beidio â chynnig cymhellion o’r fath i eraill.

97

Pryd bynnag y bo modd, rhaid i chi osgoi darparu gofal meddygol i’ch hun neu i unrhyw un y mae gennych chi berthynas bersonol agos â nhw.  Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl am Arfer da wrth bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau.

Cydweithredu gyda gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol

98

Er mwyn cynnal diogelwch cleifion, rhaid i chi gydweithredu gydag ymchwiliadau ffurfiol, ymchwiliadau i ddiogelwch cleifion, a gweithdrefnau cwyno. Rhaid i chi ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol a bod yn agored ac yn onest.

99

Rhaid i chi ddweud wrthym yn ddi-oed os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn wir unrhyw le yn y byd:

  1. rydych chi wedi cael rhybudd (neu rywbeth cyfatebol) gan awdurdod erlyn
  2. rydych wedi cael eich cyhuddo o gyflawni trosedd yn bersonol neu yn y post
  3. rydych wedi cael eich canfod yn euog o gyflawni trosedd
  4. rydych wedi cael eich beirniadu gan ymchwiliad swyddogol8
  5. mae corff proffesiynol arall wedi gwneud canfyddiad yn erbyn eich cofrestriad o ganlyniad i weithdrefnau addasrwydd i ymarfer.

Gweler ein canllawiau am Roi gwybod am achosion troseddol a rheoleiddiol am wybodaeth fanylach. 

8

Mae ‘ymchwiliad swyddogol’ yn golygu ymchwiliad cyhoeddus neu ffurfiol neu dribiwnlys cyhoeddus.  Ariannir y rhain gan arian cyhoeddus, maent yn ymchwilio i faterion er budd y cyhoedd ac yn cyhoeddi eu canfyddiadau.  Gweler ein canllawiau mwy manwl am Roi gwybod am achosion troseddol a rheoleiddiol am ragor o wybodaeth

100

Os cewch eich gwahardd gan sefydliad o rôl neu swydd gofal iechyd sy’n gofyn am  gofrestriad proffesiynol, neu os gosodir cyfyngiadau ar eich ymarfer, rhaid i chi hysbysu, yn ddi-oed, unrhyw sefydliadau yr ydych chi’n cyflawni gwaith meddygol ar eu cyfer, ynghyd ag unrhyw gleifion yr ydych yn eu gweld yn annibynnol ar y sefydliadau hyn.

101

Rhaid i chi sicrhau bod gennych chi yswiriant neu indemniad priodol a digonol sy’n cynnwys cwmpas llawn eich ymarfer. Dylech barhau i adolygu lefel eich yswiriant yn rheolaidd.