Cynnal terfynau personol a phroffesiynol
Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin â phwysigrwydd cynnal ffiniau personol a phroffesiynol parchus gyda chleifion a chydweithwyr. Maent yn ymdrin ag ymddygiad annerbyniol a’r effeithiau y gall y rhain eu cael, ar unigolion ac ar ddiogelwch cleifion.
Mae’r canllawiau hefyd yn ymdrin â beth i’w wneud os byddwch yn dod yn ymwybodol bod cydweithiwr neu glaf wedi torri ffiniau rhywiol. Maent yn ymdrin â’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig ag adrodd. Ac yn rhoi cyngor ar sut i gefnogi’r rhai sydd wedi profi ymddygiad annerbyniol.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 30 Ionawr 2024.
Cafodd y canllawiau hyn eu diweddaru ddiwethaf ar 13 Rhagfyr 2024.