Cynnal terfynau personol a phroffesiynol

Atodiad – Dyfyniadau o Arfer meddygol da

57  Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn ffordd rywiol tuag at gydweithwyr gyda’r effaith neu’r diben o achosi tramgwydd, embaras, bychanu neu ofid. Gall ‘ymddwyn mewn ffordd rywiol’ gynnwys – ond nid yw wedi’i gyfyngu i – sylwadau llafar neu ysgrifenedig, dangos neu rannu delweddau, yn ogystal â chyswllt corfforol digroeso. Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau manylach am Gynnal terfynau personol a phroffesiynol.

58  Os byddwch yn dyst i unrhyw ymddygiad a ddisgrifir ym mharagraffau 56 neu 57, dylech weithredu, gan ystyried yr amgylchiadau penodol. Er enghraifft, gallech:

  1. gysylltu a chynnig cymorth i unrhyw un sy’n cael eu targedu neu sy’n cael eu heffeithio gan yr ymddygiad, a/neu roi gwybod iddynt eich bod yn teimlo bod yr ymddygiad yr ydych chi wedi bod yn dyst iddo yn annerbyniol
  2. herio’r ymddygiad trwy siarad gyda’r unigolyn cyfrifol – naill ai ar y pryd, os yw hi’n ddiogel gwneud hynny, neu mewn man ac ar amser priodol
  3. siarad gyda chydweithiwr a/neu ystyried adrodd am yr ymddygiad yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllawiau mwy manwl ynghylch Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch. Cyn i chi adrodd am yr ymddygiad y buoch yn dyst iddo, ceisiwch sicrhau bod yr unigolyn a dargedwyd yn ymwybodol o’ch bwriad i adrodd amdano, a’u bod yn cefnogi’r bwriad hwnnw.

Rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn ei chael hi’n anos nag eraill i godi eu llais4 ond mae gan bawb gyfrifoldeb – i’w hunain ac i’w cydweithwyr – i wneud rhywbeth i atal yr ymddygiad hwn rhag parhau a chyfrannu at amgylchedd negyddol, anniogel.

75c  Os bydd gennych chi bryderon nad yw cydweithiwr yn addas i ymarfer efallai, ac y gallent fod yn rhoi cleifion mewn perygl, rhaid i chi ofyn am gyngor gan gydweithiwr, eich corff amddiffyn, neu ni. Os ydych yn dal yn bryderus, rhaid i chi adrodd am hyn, yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllaw mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.

86  Rhaid i chi beidio â gweithredu mewn ffordd rywiol tuag at gleifion na defnyddio eich safle proffesiynol i ganlyn perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol gyda chlaf neu rywun sy’n agos iddynt.  Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl ar Gynnal terfyn personol a phroffesiynol.

4

Gweler ein cyngor hwb moesegol ar Godi llais a gallwch ddod o hyd iddo yn https://www.gmc-uk.org/ethical-guidance/ethical-hub/speaking-up