Nodi a rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i reoli gwrthdaro posibl rhwng buddiannau a lliniaru eu heffaith pan na allwch eu hosgoi.
Mae cyngor ar gael am sefyllfaoedd cyffredin ym maes gofal iechyd, gan gynnwys derbyn rhoddion, comisiynu gwasanaethau, taliadau targed, a pherthnasoedd â’r diwydiant gofal iechyd masnachol (gan gynnwys cwmnïau fferyllol a thechnoleg feddygol).
Mae’r canllawiau’n seiliedig ar dair egwyddor arweiniol:
- Pan fydd buddiannau’n cystadlu, rhowch flaenoriaeth i ofal cleifion
- Peidiwch byth â chamddefnyddio eich sefyllfa er budd ariannol
- Byddwch yn agored ac yn onest am eich holl fuddiannau.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 30 Ionawr 2024.