Nodi a rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau
Atodiad B
Enghreifftiau o fuddiannau
- Mae buddiannau ariannol (hy y rhai yr ydych yn cael budd ariannol ganddynt yn uniongyrchol) yn cynnwys (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i) y canlynol:
- buddiannau mewn sefydliadau (megis darparwyr gofal iechyd preifat, practis gofal sylfaenol, cwmnïau fferyllol neu ddyfeisiau meddygol, cartrefi nyrsio neu ofal, neu fferyllfeydd),
- patentau, ffioedd siaradwr neu ymgynghori,
- taliadau i sefydliadau yr ydych yn berchen arnynt neu’n eu rheoli
- Mae buddiannau ariannol anuniongyrchol yn cynnwys (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i) unrhyw rai o’r rhai a restrir uchod sy’n cynnig budd i’ch cyflogwr neu unrhyw un sy’n agos atoch gan gynnwys aelodau teuluol, ffrindiau, cysylltiadau agos eraill neu sefydliadau
- Gall buddiannau personol neu broffesiynol uniongyrchol neu anuniongyrchol eraill gynnwys (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i) addysg am ddim, cyfleoedd hyfforddiant, buddion ymchwil, perthnasoedd personol, neu ychwanegiadau i enw da proffesiynol)