Atodiad A
Dyfyniadau o Arfer meddygol da
6. Rhaid i’r ymchwiliad neu’r driniaeth y byddwch yn ei chynnig, ei darparu neu ei threfnu fod yn seiliedig ar...asesiad [o’u hanghenion a’i blaenoriaethau], ac ar eich barn glinigol am effeithiolrwydd tebygol y dewisiadau o ran triniaethau.
7. Wrth ddarparu gofal clinigol, rhaid i chi:
d. cynnig, darparu neu roi presgripsiwn am gyffuriau neu driniaeth (gan gynnwys presgripsiynau rheolaidd) dim ond pan fydd gennych chi wybodaeth ddigonol am iechyd y claf a phan fyddwch yn fodlon y bydd y cyffuriau neu’r driniaeth yn bodloni eu hanghenion
e. cynnig, darparu neu roi presgripsiwn am driniaeth effeithiol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael
g. ymgynghori â chydweithwyr neu geisio cyngor gan eich clinigydd goruchwylio, pan fo hynny’n briodol
36. Rhaid i chi fod yn agored a gonest gyda chleifion am unrhyw fuddiannau sydd gennych ac a allai effeithio (neu gael eu hystyried fel pe baent yn effeithio), ar y ffordd yr ydych yn cynnig, darparu neu bresgripsiynu triniaethau, neu’n cyfeirio cleifion. Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl am Drefniadau ariannol a masnachol a gwrthdaro rhwng buddiannau.
84. Rhaid i chi fod yn onest wrth ymwneud yn ariannol ac yn fasnachol gyda chleifion, cyflogwyr, yswirwyr, indemnwyr a sefydliadau neu unigolion eraill.
94. Mae’n rhaid i chi beidio â chaniatáu i unrhyw fuddiannau sydd gennych effeithio ar, neu i ymddangos eu bod yn effeithio ar, y ffordd yr ydych yn cynnig, yn darparu neu’n presgripsiynu triniaethau, yn cyfeirio cleifion, neu’n comisiynu gwasanaethau.
95. Os byddwch yn wynebu gwrthdaro rhwng buddiannau, rhaid i chi fod yn agored amdano gyda chleifion a chyflogwyr, ei ddatgan yn unol â threfniadau lleol, a bod yn barod i eithrio eich hun rhag gwneud penderfyniadau. Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl yn Adnabod a rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau.
96. Rhaid i chi beidio â gofyn am na derbyn – gan gleifion, cydweithwyr neu eraill – unrhyw daliadau cymhelliant, rhoddion na lletygarwch y gallai effeithio ar neu ymddangos ei fod yn effeithio ar y ffordd yr ydych chi’n cynnig, yn darparu neu’n rhagnodi triniaethau, yn cyfeirio neu’n comisiynu gwasanaethau i gleifion. Rhaid i chi beidio â chynnig cymhellion o’r fath i eraill.