Arfer meddygol da

Maes 3: Cydweithwyr, diwylliant a diogelwch

Cyflwyniad 

Caiff diwylliant ei bennu gan y gwerthoedd a’r ymddygiad a rennir gan grŵp o bobl.  Mae gan bawb yr hawl i weithio a hyfforddi mewn amgylchedd sy’n deg, sy’n rhydd rhag gwahaniaethu a lle y cânt eu parchu a’u gwerthfawrogi fel unigolyn.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol da yn cyfathrebu mewn ffordd glir ac yn gweithio mewn ffordd effeithiol gyda chydweithwyr er budd cleifion.  Maent yn meithrin eu hunan-ymwybyddiaeth, yn rheoli eu heffaith ar eraill, ac yn gwneud yr hyn y gallant ei wneud er mwyn helpu i greu diwylliannau moesgar a thosturiol lle y gall yr holl staff ofyn cwestiynau, trafod camgymeriadau a mynegi pryderon mewn ffordd ddiogel.

Trin cydweithwyr gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch

48

Rhaid i chi drin cydweithwyr3 gyda caredigrwydd, cwrteisi a pharch.

3

‘Colleagues’ includes anyone you work with, whether or not they are a medical professional.

49

Er mwyn meithrin a chynnal perthnasoedd rhyngbersonol a gwaith tîm effeithiol, rhaid i chi:

  1. wrando ar gydweithwyr 
  2. cyfathrebu mewn ffordd glir, cwrtais ac ystyriol 
  3. cydnabod a dangos parch at sgiliau a chyfraniadau cydweithwyr 
  4. cydweithio gyda chydweithwyr a bod yn fodlon arwain neu ddilyn yn ôl yr amgylchiadau.
50

Pan fyddwch ar ddyletswydd, rhaid i chi fod yn hygyrch i gydweithwyr sy’n ceisio gwybodaeth, cyngor neu gymorth.

51

Rhaid i chi fod yn dosturiol tuag at gydweithwyr sy’n cael problemau gyda’u perfformiad neu eu hiechyd.  Ond rhaid i chi roi diogelwch cleifion yn gyntaf bob amser.

Cyfrannu at amgylchedd gwaith a hyfforddi cadarnhaol

52

Rhaid i chi helpu i greu diwylliant sy’n parchu, sy’n deg, sy’n gefnogol ac sy’n dosturiol trwy fod yn esiampl o ymddygiad sy’n cyd-fynd â’r gwerthoedd hyn.

53

Dylech fod yn ymwybodol o’r ffordd y gallai’ch ymddygiad ddylanwadu ar eraill o fewn a thu hwnt i’r tîm.

54

Dylech fod yn ymwybodol o risg tuedd, gan ystyried sut y mae’ch profiad bywyd, eich diwylliant a’ch credoau chi yn dylanwadu ar eich gweithgarwch rhyngweithio gydag eraill, a sut y gallai effeithio ar eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd.

55

Rhaid i chi ddangos parch a sensitifrwydd tuag at brofiadau bywyd, diwylliant a chredoau eraill.

56

Rhaid i chi beidio â cham-drin, gwahaniaethu yn erbyn, bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un ar sail eu nodweddion personol, neu am unrhyw reswm arall.  Mae ‘nodweddion personol’ yn golygu ymddangosiad rhywun, eu ffordd o fyw, eu diwylliant, eu statws cymdeithasol neu economaidd, neu unrhyw rai o’r nodweddion a warchodir gan ddeddfwriaeth – oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

57

Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn ffordd rywiol tuag at gydweithwyr gyda’r effaith neu’r diben o achosi tramgwydd, embaras, bychanu neu ofid. Gall ‘ymddwyn mewn ffordd rywiol’ gynnwys – ond nid yw wedi’i gyfyngu i – sylwadau llafar neu ysgrifenedig, dangos neu rannu delweddau, yn ogystal â chyswllt corfforol digroeso. Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau manylach am Gynnal terfynau personol a phroffesiynol.

58

Os byddwch yn dyst i unrhyw ymddygiad a ddisgrifir ym mharagraffau 56 neu 57, dylech weithredu, gan ystyried yr amgylchiadau penodol. Er enghraifft, gallech:

  1. gysylltu a chynnig cymorth i unrhyw un sy’n cael eu targedu neu sy’n cael eu heffeithio gan yr ymddygiad, a/neu roi gwybod iddynt eich bod yn teimlo bod yr ymddygiad yr ydych chi wedi bod yn dyst iddo yn annerbyniol
  2. herio’r ymddygiad trwy siarad gyda’r unigolyn cyfrifol – naill ai ar y pryd, os yw hi’n ddiogel gwneud hynny, neu mewn man ac ar amser priodol
  3. siarad gyda chydweithiwr a/neu ystyried adrodd am yr ymddygiad yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllawiau mwy manwl ynghylch Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch. Cyn i chi adrodd am yr ymddygiad y buoch yn dyst iddo, ceisiwch sicrhau bod yr unigolyn a dargedwyd yn ymwybodol o’ch bwriad i adrodd amdano, a’u bod yn cefnogi’r bwriad hwnnw.

Rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn ei chael hi’n anos nag eraill i godi eu llais444 ond mae gan bawb gyfrifoldeb – i’w hunain ac i’w cydweithwyr – i wneud rhywbeth i atal yr ymddygiad hwn rhag parhau a chyfrannu at amgylchedd negyddol, anniogel.

4

See our ethical hub advice on Speaking up.

4

See our ethical hub advice on Speaking up.

4

See our ethical hub advice on Speaking up.

59

Os oes gennych chi rôl arwain neu reoli ffurfiol ac rydych yn dyst i – neu’n cael eich hysbysu o – unrhyw rai o’r mathau o ymddygiad a ddisgrifir ym mharagraffau 56 neu 57, rhaid i chi weithredu.  Rhaid i chi:

  1. sicrhau y rhoddir sylw digonol i ymddygiad o’r fath
  2. sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi lle bo angen, a
  3. sicrhau y rhoddir sylw prydlon i bryderon, a’u huwchgyfeirio lle bo angen.

Dangos ymddygiad arwain

60

Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl am Arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer pob meddyg.

61

Rhaid i chi sicrhau bod yr holl gydweithwyr yr ydych yn goruchwylio eu gwaith yn cael goruchwyliaeth briodol.

62

Rhaid i chi fod yn fanwl, yn deg ac yn wrthrychol wrth ysgrifennu geirda, ac wrth arfarnu neu asesu perfformiad cydweithwyr, gan gynnwys meddygon locwm a myfyrwyr.  Ni ddylech hepgor unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gymhwysedd, perfformiad ac ymddygiad eich cydweithwyr.

63

Dylech fod yn fodlon cynnig cymorth proffesiynol i gydweithwyr, gan gynnwys myfyrwyr, er enghraifft trwy gyfrwng mentora, addysgu neu hyfforddi.  Mae’r math hwn o gymorth yn arbennig o bwysig ar gyfer y rhai y mae ymarfer yn y DU yn brofiad newydd iddynt, y rhai sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod i ffwrdd o ymarfer, a’r rhai nad ydynt yn gallu manteisio ar gymorth yn hawdd.

64

Os yw rhan o’ch rôl yn ymwneud â helpu staff i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant, datblygu a chyflogaeth, dylech wneud hyn mewn ffordd deg.

Cyfrannu at barhad gofal

65

Mae parhad gofal yn bwysig i bob claf, ond yn enwedig i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd dilyn eu llwybr gofal iechyd eu hunain neu eirioli dros eu hunain.  Mae parhad yn arbennig o bwysig pan rennir gofal rhwng timau, rhwng gwahanol aelodau o’r un tîm, neu pan drosglwyddir cleifion rhwng darparwyr gofal.

  1. Rhaid i chi rannu’r holl wybodaeth berthnasol am gleifion (gan gynnwys unrhyw addasiadau rhesymol a dewisiadau o ran cymorth cyfathrebu) gydag eraill sy’n ymwneud â’u gofal, o fewn ac ar draws timau, yn ôl y gofyn.
  2. Rhaid i rhannu gwybodaeth gyda chleifion5 am:
    1. gynnydd eu gofal
    2. y sawl sy’n gyfrifol am ba agwedd o’u gofal 
    3. enw’r tîm neu’r clinigydd arweiniol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros eu gofal.
  1. Rhaid i chi fod yn hyderus bod y wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer gofal parhaus wedi cael ei rhannu:
    1. cyn i chi fynd oddi ar ddyletswydd 
    2. cyn i chi ddirprwyo gofal, neu 
    3. cyn i chi gyfeirio’r claf at ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol arall.
  1. Rhaid i chi sicrhau, pan fo hynny’n ymarferol, bod tîm neu glinigydd penodol wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb pan fydd eich rôl gyda gofal claf wedi dod i ben.
5

If a patient lacks capacity, information should be shared with those with legal authority to make decisions on a patient’s behalf.

Dirprwyo mewn ffordd ddiogel a phriodol

66

Rhaid i chi deimlo’n hyderus bod unrhyw unigolyn y byddwch yn dirprwyo iddynt yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol i gyflawni’r dasg yr ydych yn ei dirprwyo.  Rhaid i chi roi cyfarwyddiadau clir iddynt a’u hannog i ofyn cwestiynau a cheisio cymorth neu oruchwyliaeth os bydd ei hangen arnynt.

67

Os bydd cydweithiwr yn dirprwyo tasg i chi ond nid ydych chi’n teimlo’n hyderus eich bod yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau neu’r hyfforddiant i’w chyflawni yn ddiogel, rhaid i chi  flaenoriaethu diogelwch y claf a cheisio cymorth, hyd yn oed os byddwch eisoes wedi cytuno i gyflawni’r dasg yn annibynnol.

68

Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl, Dirprwyo a chyfeirio.

Cofnodi eich gwaith mewn ffordd glir, manwl a darllenadwy

69

Rhaid i chi sicrhau bod cofnodion ffurfiol o’ch gwaith (gan gynnwys cofnodion cleifion) yn glir, yn fanwl, yn gyfoes6 ac yn ddarllenadwy.

6

Contemporaneous means making records at the same time as the events you are recording, or as soon as possible afterwards.

70

Dylech fabwysiadu dull gweithredu cymesur tuag at lefel y manylder ond fel arfer, dylai cofnodion cleifion gynnwys:

  1. canfyddiadau clinigol perthnasol
  2. cyffuriau, ymchwiliadau neu driniaethau a gynigiwyd, a ddarparwyd neu a ragnodwyd
  3. y wybodaeth a rannwyd gyda chleifion
  4. pryderon neu ddewisiadau a fynegwyd gan y claf, y gallent fod yn berthnasol i’w gofal parhaus, ac a aethpwyd i’r afael â’r rhain
  5. gwybodaeth am unrhyw addasiadau rhesymol a dewisiadau o ran cymorth cyfathrebu
  6. penderfyniadau a wnaethpwyd, camau gweithredu y cytunwyd arnynt (gan gynnwys penderfyniadau i beidio gwneud unrhyw beth) a phryd/a ddylai penderfyniadau gael eu hadolygu
  7. pwy sy’n creu’r cofnod a phryd.
71

Rhaid i chi gadw cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am gleifion, cydweithwyr neu eraill mewn ffordd ddiogel, ac yn unol ag unrhyw ofynion cyfraith diogelu data, a rhaid i chi ddilyn ein canllawiau ynghylch Cyfrinachedd:  arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion.

Cadw cleifion yn ddiogel

72

Dylech fod yn gyfarwydd gyda a defnyddio’r strwythurau a’r prosesau llywodraethu clinigol a rheoli risg mewn unrhyw sefydliad yr ydych yn gweithio iddo neu yr ydych yn cael eich contractio iddo.

73

Er mwyn helpu i gadw cleifion yn ddiogel, rhaid i chi:

  1. gyfrannu at ymchwiliadau cyfrinachol7
  2. cyfrannu at adnabod digwyddiadau niweidiol 
  3. adrodd am ddigwyddiadau andwyol sy’n cynnwys dyfeisiau meddygol (gan gynnwys meddalwedd, profion diagnostig, ac offer digidol) sy’n peryglu diogelwch claf neu unigolyn arall, neu sydd â’r potensial i wneud hynny
  4. cyfrannu at adolygiadau a/neu ymchwiliadau i ddigwyddiadau
  5. adrodd am adweithiau niweidiol i gyffuriau a amheuir
  6. ymateb i geisiadau gan sefydliadau sy’n monitro iechyd y cyhoedd.

Wrth ddarparu gwybodaeth at y dibenion hyn, rhaid i chi ddilyn ein canllaw am Gyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion.

7

A confidential inquiry (or enquiry) is a method of investigating adverse events without attributing blame. Examples include NCEPOD - National Confidential Enquiry into Patient Outcome and Death, CIPOLD (Confidential Inquiry into Premature Deaths of People with Learning Disabilities) and Confidential Enquiry into Maternal Deaths MBRRACE-UKNPEU.

74

Rhaid i chi ymgymryd ag unrhyw swydd yr ydych chi wedi ei derbyn, gweithio unrhyw sifft yr ydych wedi cytuno ei gweithio, a gweithio eich cyfnod rhybudd cytundebol cyn gadael swydd, oni bai bod gan y cyflogwr amser rhesymol i wneud trefniadau eraill neu os bydd eich amgylchiadau personol yn atal hyn.

Ymateb i risgiau diogelwch

75

Rhaid i chi weithredu yn ddi-oed os ydych yn credu bod diogelwch neu urddas claf mewn perygl difrifol, neu y gallai fod mewn perygl difrifol.

  1. Os na fydd claf yn cael gofal sylfaenol i fodloni eu hanghenion, rhaid i chi weithredu er mwyn sicrhau bod y claf yn cael gofal cyn gynted ag y bo modd, er enghraifft trwy ofyn i rywun sy’n darparu gofal sylfaenol i roi sylw i’r claf ar unwaith.
  2. Os bydd cleifion mewn perygl oherwydd safle, offer neu adnoddau eraill, polisïau neu systemau sy’n annigonol, dylech ddiogelu cleifion yn y lle cyntaf a chywiro’r mater os oes modd.  Yna, rhaid i chi fynegi eich pryder yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllawiau mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.
  3. Os bydd gennych chi bryderon nad yw cydweithiwr yn addas i ymarfer efallai, ac y gallent fod yn rhoi cleifion mewn perygl, rhaid i chi ofyn am gyngor gan gydweithiwr, eich corff amddiffyn, neu ni.  Os ydych yn dal yn bryderus, rhaid i chi adrodd am hyn, yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllawiau mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.
76

Os oes gennych chi rôl arwain neu reoli ffurfiol, rhaid i chi gymryd camau gweithredol i greu amgylchedd lle y gall pobl siarad am gamgymeriadau a phryderon mewn ffordd ddiogel.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau y rhoddir sylw prydlon a digonol i unrhyw bryderon a godir gyda chi, yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllaw mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.

Rheoli risgiau a achosir gan eich iechyd

77

Dylech osgoi ceisio gofal meddygol gan aelod o’ch teulu neu unrhyw un yr ydych yn gweithio’n agos gyda nhw.  Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu, dylai fod yn rhywun y tu allan i’ch teulu a’ch gweithle.

78

Dylech geisio gofalu am eich iechyd a’ch lles eich hun, gan gydnabod os nad ydych efallai’n ffit i weithio.  Dylech geisio cyngor proffesiynol annibynnol am eich ffitrwydd i weithio, yn hytrach na dibynnu ar eich asesiad eich hun.

79

Rhaid i chi ymgynghori â gweithiwr proffesiynol â chymwysterau addas, a dilyn eu cyngor am unrhyw newidiadau i’ch ymarfer sy’n angenrheidiol yn eu barn nhw:

  1. os ydych yn gwybod neu’n amau bod gennych chi gyflwr difrifol y gallech ei drosglwyddo i gleifion
  2. os allai cyflwr neu driniaeth effeithio ar eich barn neu’ch perfformiad.

Rhaid i chi beidio dibynnu ar eich asesiad eich hun o’r risg i gleifion.

80

Dylech gael eich imiwneiddio yn erbyn clefydau trosglwyddadwy difrifol cyffredin (oni bai y cynghorir yn erbyn hyn).