Arfer meddygol da

Maes 1: Gwybodaeth, sgiliau a datblygu

Cyflwyniad

Mae arfer meddygol yn daith oes.  Mae bod yn ymwybodol o’r datblygiadau cymdeithasol, cyfreithiol a thechnolegol sy’n newid yn gyflym yn golygu dysgu sgiliau newydd tra’n cynnal rhai eraill.  Mae rhannu gwybodaeth – a enillir trwy gyfrwng gwaith ymchwil ac arloesi, yn ogystal â phrofiad – yn rhan sylfaenol o arfer da.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol da yn gymwys, maent yn cadw eu gwybodaeth a’u sgiliau yn gyfredol ac maent yn darparu gofal ac arfer o safon da.  Maent yn ymdrechu i ddatblygu a gwella eu perfformiad proffesiynol.  Maent yn myfyrio’n rheolaidd ar eu safonau ymarfer ac yn defnyddio adborth a thystiolaeth i feithrin dirnadaeth bersonol a phroffesiynol.

Bod yn gymwys

1

Rhaid i chi fod yn gymwys ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, rolau arwain neu reoli ffurfiol, ymchwil ac addysgu.

2

Rhaid i chi gydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwysedd. Rhaid i chi beidio ag ymarfer oni bai dan lefel o oruchwyliaeth sy’n briodol i’ch rôl, gwybodaeth, sgiliau a hyfforddiant, a’r dasg a gyflawnir gennych.

3

Rhaid i chi fod yn  gadw at y canllawiau a’r datblygiadau diweddaraf sy’n effeithio ar eich gwaith.

4

Rhaid i chi ddilyn y gyfraith, ein canllawiau ar safonau proffesiynol, a rheoliadau eraill sy’n berthnasol i’ch gwaith.

5

Rhaid eich bod yn meddu ar y sgiliau Saesneg angenrheidiol er mwyn darparu gofal ac arfer o safon da yn y DU.

Darparu gofal clinigol da 

6

Rhaid i chi ddarparu gofal ac arfer o safon da.  Os byddwch yn asesu, yn rhoi diagnosis neu’n trin cleifion, rhaid i chi weithio mewn partneriaeth â nhw i asesu eu hanghenion a’u blaenoriaethau.  Rhaid i’r ymchwiliad neu’r driniaeth y byddwch yn ei chynnig, yn ei darparu neu’n ei threfnu fod yn seiliedig ar yr asesiad hwn, ac ar eich barn glinigol am effeithiolrwydd tebygol y dewisiadau o ran triniaethau.

7

Wrth ddarparu gofal clinigol, rhaid i chi:

  1. asesu cyflwr(cyflyrau) claf mewn ffordd ddigonol, gan ystyried eu hanes, gan gynnwys
    1. symptomau
    2. ffactorau seicolegol, ysbrydol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol perthnasol
    3. safbwyntiau, anghenion a gwerthoedd y claf
  1. cynnal archwiliad corfforol yn ôl yr angen 
  2. darparu (neu drefnu) cyngor, ymchwiliad neu driniaeth addas yn brydlon, yn ôl yr angen
  3. cynnig, darparu neu roi presgripsiwn am gyffuriau neu driniaeth (gan gynnwys presgripsiynau rheolaidd) dim ond pan fydd gennych chi wybodaeth ddigonol am iechyd y claf a phan fyddwch yn fodlon y bydd y cyffuriau neu’r driniaeth yn bodloni eu hanghenion 
  4. cynnig, darparu neu roi presgripsiwn am driniaeth effeithiol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael
  5. dilyn ein canllawiau mwy manwl ar safonau proffesiynol, Arfer da wrth gynnig, presgripsiynu, darparu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau, os ydych yn presgripsiynu 
  6. ymgynghori â chydweithwyr neu geisio cyngor gan eich clinigydd goruchwylio, pan fo hynny’n briodol
  7. cyfeirio claf at ymarferydd arall sy’n meddu ar gymwysterau addas pan fydd hyn yn bodloni eu hanghenion.
8

Os yw hynny’n berthnasol i’ch maes ymarfer, rhaid i chi ddilyn ein Canllawiau i feddygon sy’n cynnig ymyriadau cosmetig.

Cynnig ymgynghoriadau o bell

9

Rhaid i chi ddarparu gofal clinigol diogel ac effeithiol, boed hynny wyneb yn wyneb, neu ar ffurf ymgynghoriadau o bell dros y ffôn, drwy gyswllt fideo neu wasanaethau ar-lein eraill.  Os na allwch ddarparu gofal diogel trwy gyfrwng y dull ymgynghori yr ydych yn ei ddefnyddio, dylech gynnig dewis amgen os bydd un ar gael, neu gyfeirio at wasanaethau eraill.

Ymgynghoriadau o bell

Gall ymgynghoriadau o bell gynnig llawer o fanteision, ond mae risgiau posibl hefyd. Mae'r pwnc hwn yn archwilio sut i benderfynu a yw ymgynghoriad o bell yn briodol. Mae'r drafodaeth yn cynnwys pwyntiau i'w cofio yn ystod ymgynghoriad o bell, a beth i'w wneud os oes gennych bryderon diogelwch cleifion.

Ystyried cyfleoedd ymchwil

10

Mae ymchwil yn hanfodol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o gyflyrau iechyd, a chynyddu’r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer gweithgarwch atal, triniaeth a gofal effeithiol.  Dylech ystyried cyfleoedd i gynnal neu gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a allai gynnig budd i gleifion presennol a/neu yn y dyfodol, a helpu i wella iechyd y boblogaeth.  Dylech ddweud wrth gleifion os ydych yn ymwybodol o gyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn gwaith ymchwil priodol.

Cynnal, datblygu a gwella eich perfformiad

11

Rhaid i chi gadw’ch gwybodaeth a’ch sgiliau proffesiynol yn gyfredol.

12

Pan fyddwch yn ymuno â sefydliad, neu pan fydd eich rôl yn newid yn sylweddol drwy gydol eich gyrfa, dylech fod yn fodlon chwilio am, a chymryd rhan mewn cyfleoedd cymorth strwythuredig a gynigir gan eich cyflogwr neu’ch corff contractio, megis cynlluniau mentora neu hyfforddi.

13

Rhaid i chi gymryd camau i fonitro, cynnal, datblygu a gwella eich perfformiad ac ansawdd eich gwaith, gan gynnwys cymryd rhan mewn systemau sicrhau ansawdd a gwella ansawdd er mwyn hyrwyddo diogelwch cleifion ar draws cwmpas cyfan eich ymarfer.

Mae hyn yn cynnwys:

  1. cyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau ynghylch gwella ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau
  2. cymryd rhan mewn adolygiadau ac archwiliadau rheolaidd o’ch gwaith, a gwaith eich tîm, ac ymateb mewn ffordd adeiladol i’r canlyniadau, gan gymryd camau i fynd i’r afael â phroblemau, ac ymgymryd â hyfforddiant pellach yn ôl yr angen
  3. cymryd rhan mewn hyfforddiant a/neu ddatblygiad proffesiynol parhaus yn rheolaidd
  4. myfyrio yn rheolaidd ar eich safonau ymarfer a’r gofal yr ydych chi’n ei ddarparu, gan gynnwys
    1. myfyrio ar unrhyw adborth adeiladol sydd ar gael i chi
    2. ystyried sut y mae’ch profiad mewn bywyd, eich diwylliant a’ch credoau yn dylanwadu ar eich rhyngweithio gydag eraill a sut y gallai effeithio ar y penderfyniadau yr ydych yn eu gwneud a’r gofal yr ydych yn ei ddarparu.

Rheoli adnoddau mewn ffordd effeithiol a chynaliadwy

14

Rhaid i chi wneud defnydd da o’r adnoddau sydd ar gael ichi, a darparu’r gwasanaeth gorau ag y bo modd, gan ystyried eich cyfrifoldebau tuag at gleifion a’r boblogaeth ehangach.

15

Dylech ddewis datrysiadau cynaliadwy pan fyddwch yn gallu gwneud hynny, ar yr amod nad yw’r rhain yn peryglu safonau gofal.  Dylech ystyried cefnogi mentrau i leihau effaith amgylcheddol gofal iechyd.