Canllawiau i feddygon sy’n cynnig ymyriadau cosmetig
Ydych chi’n cynnal ymyriadau cosmetig? Os felly, dyma ddeunydd darllen hanfodol i chi. Bydd dilyn y canllawiau hyn yn sicrhau eich bod yn darparu gofal o’r safon iawn i’ch claf. Mae’n ymdrin â materion fel:
- cydnabod cyfyngiadau eich cymhwysedd a gweithio oddi mewn iddynt
- gwneud yn siŵr eich bod chi eich hun yn cael caniatâd gan eich claf
- cael trafodaeth glir gyda'ch claf am ganlyniadau, manteision a risgiau
- rhoi amser i’ch cleifion fyfyrio er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth
- ystyried gwendidau ac anghenion seicolegol eich cleifion
- marchnata eich gwasanaethau’n gyfrifol.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 1 Mehefin 2016. Cawsant eu diweddaru ar 13 Rhagfyr 2024 pan ddaeth rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gan y GMC i rym.