Am ein canllawiau ar Ymyriadau Cosmetig
Sut mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i chi
Mae’r arweiniad hwn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, ar gyfer pob meddyg sy’n cynnig ymyriadau cosmetig.
Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Mae’r sector cosmetig yn faes sy’n ehangu yn gyflym, ac y mae wedi mynd o fod yn farchnad arbenigol i fod yn wasanaeth poblogaidd y mae bellach ar gael yn eang. Gall ymyriadau cosmetig gael effaith arwyddocaol ar iechyd a lles cleifion. Bu pryderon penodol ynghylch diogelwch cleifion ac ynghylch a yw’r sector yn gweithredu mewn ffordd foesegol. Mae’n bwysig bod gweithwyr meddygol proffesiynol yn meddu ar y sgiliau cywir, bod y cynhyrchion a ddefnyddir yn ddiogel, a bod cleifion yn cael gwybodaeth gywir cyn iddynt benderfynu cael ymyriad cosmetig. Mae’r arweiniad hwn yn nodi fframwaith arfer er mwyn rhoi sylw i’r pryderon hyn.
Pan fyddwn yn sôn am ymyriadau cosmetig, byddwn yn golygu unrhyw ymyriad, gweithdrefn neu driniaeth a gyflawnir gyda’r prif amcan o newid agwedd ar ymddangosiad corfforol claf. Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau llawfeddygol ac anllawfeddygol, yn rhai mewnwthiol ac anfewnwthiol.
Nodau allweddol yr arweiniad hwn yw sicrhau bod meddygon:
- wedi cael hyfforddiant priodol ac yn meddu ar brofiad priodol er mwyn gwneud gwaith diogel
- yn gweithio gyda chleifion er mwyn cytuno ar ddisgwyliadau realistig ynghylch y canlyniadau y mae modd eu sicrhau yn achos y claf unigol
- yn dilyn y canllawiau neu’r protocolau presennol er mwyn darparu ymyriadau cosmetig mewn ffordd ddiogel ac effeithiol
- yn ystyried anghenion seicolegol eu cleifion
- nad ydynt yn caniatáu i unrhyw fuddiannau ariannol neu fasnachol mewn ymyriad penodol, neu sefydliad sy’n darparu ymyriadau cosmetig, i gael effaith niweidiol ar safonau gofal da i gleifion.
Nid yw’r arweiniad hwn yn berthnasol i ymyriadau y maent yn cyfateb ag anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), sy’n anghyfreithlon yn y DU. Os nad ydych yn siŵr a yw ymyriad cosmetig penodol yn dod dan y diffiniad cyfreithiol o FGM,1rhaid i chi geisio cyngor, ee gan eich sefydliad amddiffyn neu adran gyfreithiol eich cyflogwr.
Mae’r diffiniad cyfreithiol o FGM yn eang iawn ac fe allai gynnwys gweithdrefnau fel tatŵau a thyllu yr organau cenhedlu. Efallai y byddai o gymorth troi at arweiniad a gyhoeddir gan y llywodraeth a chan y colegau brenhinol meddygol, megis FGM Mandatory reporting duty (cyrchwyd 7 Mawrth 2016).
Defnyddio’r arweiniad
Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys egwyddorion ein harweiniad cyfredol, ac mae wedi cael ei strwythuro dan y pedwar maes o fewn Arfer meddygol da. Mewn rhai achosion, mae’n nodi safon uwch na’r hyn a welir yn ein dogfennau arweiniad eraill er mwyn rhoi sylw i’r materion diogelwch penodol a’r pryderon moesegol y maent yn berthnasol i’r sector cosmetig yn benodol, fel yr argymhellwyd gan Syr Bruce Keogh yn Review of the regulation of cosmetic interventions.2 Rhaid i chi ddarllen yr arweiniad hwn law yn
llaw gyda’n dogfennau arweiniad eraill3 am ddealltwriaeth lawn o’r safonau disgwyliedig o ran arfer.
Trwy gydol y ddogfen hon, rydym wedi amlygu paragraffau penodol o’n harweiniad arall, y mae’n rhaid i chi eu darllen er mwyn cael y darlun llawn.
Trwy gydol yr arweiniad hwn, byddwn yn defnyddio’r termau ‘rhaid i chi’ a ‘dylech’ yn y ffyrdd canlynol.
⦁ Caiff ‘rhaid i chiei ddefnyddio ar gyfer dyletswydd gyfreithiol neu foesegol y disgwylir i chi ei chyflawni (neu fod yn gallu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi ddim).
⦁ Caiff 'dylech chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswyddau neu egwyddorion sydd naill ai:
⦁ ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi ar hyn o bryd, neu
⦁ na allwch gydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth
Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac ers lles cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â phrosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer, ar ddechrau Arfer meddygol da.
- Mae ‘rhaid i chi’ yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dyletswydd gyfreithiol neu foesegol y mae disgwyl i chi ei chyflawni (neu allu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi).
- Mae ‘dylech’ chi yn cael ei ddefnyddio i ddangos dyletswyddau neu egwyddorion yn sydd un ai:
- ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi, neu
- nad ydych chi’n gallu cydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth
Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn achos difrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i weithredu’r safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd.
Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac er budd cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn sôn mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn berthnasol i’n prosesau addasrwydd i ymarfer, arfarnu ac ailddilysu ar ddechrau Arfer meddygol da.
Adran Iechyd (Lloegr) (2013) Review of the regulation of cosmetic interventions ar gael trwy droi (cyrchwyd 7 Mawrth 2016). Yn ogystal, gweler adroddiad Grŵp Arbenigol ar Ymyriadau Cosmetig yr Alban (Llywodraeth yr Alban, 2015)
Mae modd i chi ddarllen ein holl ddogfennau arweiniad ar ein gwefan.
Ffynonellau arweiniad eraill
Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, wedi cynhyrchu arweiniad ynghylch y safonau proffesiynol, y sgiliau a’r profiad y maent yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ymyriadau cosmetig.
Mae’r Pwyllgor Arfer Hysbysebu wedi datblygu arweiniad ynghylch y broses o hysbysebu a marchnata ymyriadau cosmetig. Rydym wedi cynnwys cyfeiriadau a dolenni i’r ffynonellau arweiniad eraill hyn, y maent yn cyd-fynd â’n harweiniad ni ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol.
Gwefannau
Professional Standards for Cosmetic Surgery - Cyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (2016).
Marketing of cosmetic interventions - Committee of Advertising Practice (2016)
The British Association of Aesthetic Plastic Surgeons - Gymdeithas Llawfeddygon Plastig Esthetig Prydain
Adroddiadau
The British Association of Plastic Reconstructive and Aesthetic Surgeons (2019)
Qualification requirements for delivery of cosmetic procedures - Cyhoeddwyd gan Addysg Iechyd GIG Lloegr (2015).
Report on implementation of qualification requirements for cosmetic procedures - Cyhoeddwyd gan Addysg Iechyd GIG Lloegr (2015).