Diogelwch ac ansawdd
Er mwyn helpu i gadw cleifion yn ddiogel, rhaid i chi ddilyn yr arweiniad ynghylch sefydlu a chymryd rhan mewn systemau a phrosesau y maent yn cynorthwyo gweithgarwch sicrhau ansawdd a gwella gwasanaethau, fel y nodir yn Arfer meddygol da a’n harweiniad cysylltiedig. Yn arbennig, rhaid i chi:
- gydymffurfio gydag unrhyw ddyletswyddau adrodd statudol y maent mewn grym
- cyfrannu at raglenni cenedlaethol er mwyn monitro ansawdd a chanlyniadau, gan gynnwys unrhyw gofrestrfeydd dyfeisiau perthnasol
- monitro canlyniadau cleifion fel mater o drefn, ac archwilio eich arfer, gan adrodd data blynyddol o leiaf
- adrodd pryderon y maent yn ymwneud â diogelwch cynnyrch i’r rheolydd perthnasol.7
Gweler ein canllawiau Gweithredu mewn ffordd agored a gonest pan fydd pethau’n mynd o’i le.
Dylech rannu dirnadaeth a gwybodaeth am ganlyniadau gyda phobl eraill y maent yn cynnig ymyriadau tebyg, er mwyn gwella canlyniadau a diogelwch cleifion.6
Mae’r Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat (PHIN) yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth lawfeddygol am ofal iechyd annibynnol er mwyn helpu cleifion i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth (cyrchwyd 7 Mawrth 2016).
Rhaid i chi ddweud wrth gleifion sut i adrodd am gymhlethdodau ac adweithiau niweidiol.
Rhaid i chi fod yn agored ac yn onest gyda chleifion yn eich gofal, neu’r rhai y maent yn agos iddynt, os bydd rhywbeth yn mynd o’i le ac os bydd y claf yn dioddef neu os allai’r claf ddioddef niwed neu ofid o ganlyniad.7
Gweler ein canllawiau Gweithredu mewn ffordd agored a gonest pan fydd pethau’n mynd o’i le.
Rhaid i chi gynnal archwiliad corfforol o gleifion cyn rhagnodi meddyginiaethau cosmetig i’w chwistrellu. Felly, ni ddylech ragnodi’r meddyginiaethau hyn dros y ffôn, trwy gyfrwng cyfleuster cyswllt fideo, ar-lein neu ar gais eraill ar gyfer cleifion nad ydych wedi eu harchwilio.
Rhaid i chi geisio a gweithredu ar sail tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd yr ymyriadau a gynigir gennych, gan ddefnyddio hyn er mwyn gwella’ch perfformiad. Rhaid i chi ddarparu ymyriadau wedi’u seilio ar y dystiolaeth ddiweddaraf ac orau sydd ar gael ynghylch effeithiolrwydd, sgîl-effeithiau a risgiau eraill.
Dylech deimlo’n fodlon bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel, ei fod yn cynnwys offer a staff addas a’i fod yn cydymffurfio gydag unrhyw ofynion rheoliadol perthnasol.