Canllawiau i feddygon sy’n cynnig ymyriadau cosmetig

Pwyntiau allweddol

Os ydych yn cynnig ymyriadau cosmetig, rhaid i chi:

  • geisio caniatâd y claf i’r weithdrefn eich hun, yn hytrach na dirprwyo’r dasg hon
  • sicrhau bod cleifion yn cael digon o amser a gwybodaeth cyn iddynt benderfynu cael ymyriad neu beidio
  • ystyried anghenion seicolegol eich cleifion ac a yw hi’n briodol eu cyfeirio at gydweithiwr proffesiynol profiadol arall
  • cydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwystra, gan geisio cyngor yn ôl yr angen
  • sicrhau bod gan gleifion y wybodaeth y maent yn ei dymuno neu y mae angen iddynt ei chael, gan gynnwys gwybodaeth ysgrifenedig sy’n cynorthwyo parhad gofal ac sy’n cynnwys gwybodaeth berthnasol am y meddyginiaethau neu’r dyfeisiau a ddefnyddir
  • cymryd gofal arbennig wrth ystyried ceisiadau am ymyriadau ar blant a phobl ifanc
  • marchnata eich gwasanaethau mewn ffordd gyfrifol, heb wneud honiadau nad oes modd eu cyfiawnhau ynghylch ymyriadau, bychanu’r risgiau dan sylw, neu ddefnyddio tactegau hyrwyddo y gallent annog pobl i wneud penderfyniadau byrbwyll.

Yn yr un modd â phob gweithwyr meddygol proffesiynol yn holl feysydd meddygaeth, rhaid i chi hefyd:

  • weithio mewn partneriaeth gyda chleifion, a’u trin gydag urddas a pharch
  • cadw cleifion yn ddiogel, gweithio i wella diogelwch ac adrodd am bryderon sy’n ymwneud â diogelwch
  • gweithio mewn ffordd effeithiol gyda chydweithwyr
  • bod yn ymwybodol o’r gyfraith a’r canllawiau perthnasol diweddaraf, a’u dilyn
  • bod yn agored ac yn onest am eich sgiliau, eich profiad, eich ffioedd ac unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau sydd gennych.