Cyfathrebu, partneriaeth a gwaith tîm
Rhaid i chi gyfathrebu mewn ffordd eglur a pharchus gyda chleifion, gan wrando ar eu cwestiynau a’u pryderon ac ystyried unrhyw anghenion sydd ganddynt i gael cymorth er mwyn cymryd rhan effeithiol yn y broses o wneud penderfyniadau.8
Gweler dogfen Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion, Safe sedation practice for healthcare procedures (2021) (cyrchwyd 30 Ebrill 2021).
Ceisio cydsyniad cleifion
Rhaid eich bod yn gyfarwydd gyda’r arweiniad yn Caniatâd: cleifion a meddygon yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd. Yn y paragraffau canlynol, rydym wedi amlygu pwyntiau allweddol o’r arweiniad, y maent yn bwysig er mwyn diogelu buddiannau cleifion mewn perthynas ag ymyriadau cosmetig.
Cyfrifoldeb dros geisio cydsyniad ar gyfer ymyriadau cosmetig
Os mai chi yw’r gweithiwr meddygol proffesiynol a fyddai’n cyflawni’r ymyriad, eich cyfrifoldeb chi yw ei drafod gyda’r claf a cheisio eu caniatâd – ni ddylech ddirprwyo’r cyfrifoldeb hwn. Mae’n hanfodol er mwyn sicrhau dealltwriaeth a rennir o’r disgwyliadau a’r cyfyngiadau, bod caniatâd i ymyriad cosmetig yn cael ei geisio gan y gweithiwr meddygol proffesiynol a fydd yn ei gyflawni, neu y byddant yn goruchwylio’r broses o’i gyflawni gan ymarferwr arall.
Ymateb i geisiadau am ymyriadau cosmetig
Os bydd claf yn gofyn am ymyriad, rhaid i chi ddilyn yr arweiniad yn Caniatâd, gan gynnwys ystyried hanes meddygol y claf. Rhaid i chi ofyn i’r claf pam fyddent yn dymuno cael yr ymyriad a’r canlyniad y maent yn gobeithio ei weld, cyn asesu a yw’r ymyriad yn briodol ac yn debygol o fodloni eu hanghenion.
Os ydych o’r farn ei bod yn annhebygol bod yr ymyriad yn mynd i gyflawni’r canlyniad a ddymunir neu fod o fudd cyffredinol i’r claf, rhaid i chi drafod hyn gyda’r claf, gan esbonio’ch rhesymau. Ar ôl cael trafodaeth, os ydych o’r farn o hyd na fydd yr ymyriad yn cynnig budd i’r claf, ni ddylech ei ddarparu. Dylech drafod dewisiadau eraill sydd ar gael i’r claf, gan barchu eu hawl i geisio ail farn.
Pan fyddwch yn trafod ymyriadau a dewisiadau gyda chlaf, rhaid i chi ystyried eu hanghenion seicolegol a’r rhesymau sy’n peri iddynt fod yn agored i niwed. Rhaid i chi deimlo’n fodlon bod cais y claf am yr ymyriad cosmetig yn wirfoddol.
Rhaid i chi esbonio unrhyw ofynion gofal dilynol neu fonitro ar y dechrau. Rhaid i chi ddweud wrth gleifion os bydd angen tynnu dyfeisiau meddygol sy’n cael eu mewnblannu allan efallai, neu os bydd angen eu disodli, a phryd y bydd angen gwneud hynny.
Rhaid i chi ddweud wrth ddarpar gleifion os oes ymyriadau amgen ar gael y byddai modd iddynt fodloni eu hanghenion gan achosi llai o risg, gan gynnwys ymyriadau gan ymarferwyr eraill.
Trafod sgîl-effeithiau, cymhlethdodau a risgiau eraill
Rhaid i chi roi gwybodaeth eglur a manwl i gleifion am risgiau yr ymyriad arfaethedig ac unrhyw weithdrefnau cysylltiedig, gan gynnwys anesthesia a thawelyddu, gan ddilyn yr arweiniad yn Caniatâd (paragraffau 11-12, 17-24, 27-30, 58f and 66-67).
Rhaid i chi siarad gyda’r claf am unrhyw ganlyniadau niweidiol y gallent ddeillio o’r ymyriad arfaethedig, gan roi sylw penodol i’r rhai y mae’r claf yn pryderu amdanynt fwyaf.10 Rhaid i chi drafod effaith gorfforol a seicolegol niweidiol bosibl yr ymyriad yn mynd o’i le neu o fethu bodloni disgwyliadau’r claf.
Medical research involving children (Cyngor Ymchwil Feddygol, 2004).
Guidelines for the ethical conduct of medical research involving children (Coleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant: Pwyllgor Ymgynghorol Moeseg, 2000).
Guidelines on the practice of ethics committees in medical research with human participants (Coleg Brenhinol y Meddygon, 2007).
Rhoi amser i gleifion fyfyrio
Rhaid i chi roi’r amser a’r wybodaeth i’r claf y mae angen iddynt ei chael er mwyn gwneud penderfyniad gwirfoddol a gwybodus ynghylch a ddylent fwrw ymlaen gydag ymyriad neu beidio.
Bydd swm yr amser y mae angen i gleifion ei gael er mwyn myfyrio, ynghyd â swm a’r math o wybodaeth y bydd angen iddynt ei chael, yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae’r rhain yn cynnwys pa mor fewnwthiol, pa mor gymhleth a pha mor barhaol yw’r ymyriad, ynghyd â’i risgiau, sawl dewis o ran ymyriad y mae’r claf yn eu hystyried, a faint o wybodaeth y maent wedi’i hystyried yn barod am ymyriad arfaethedig.
Rhaid i chi ddweud wrth y claf bod modd iddynt newid eu meddwl ar unrhyw adeg.
Rhaid i chi ystyried a oes angen ymgynghori gyda meddyg teulu y claf er mwyn cyfrannu at y drafodaeth ynghylch y manteision a’r risgiau. Os felly, rhaid i chi geisio caniatâd y claf, ac os byddant yn gwrthod, dylech drafod eu rhesymau dros wneud hynny, a’u hannog i roi caniatâd i chi gysylltu â’u meddyg teulu. Os yw’r claf yn benderfynol o beidio cynnwys eu meddyg teulu, rhaid i chi gofnodi hyn yn eu nodiadau, gan ystyried sut y mae hyn yn effeithio ar y cydbwysedd rhwng risg a budd, ac a ddylech fwrw ymlaen gyda’r ymyriad.
Rhoi gwybodaeth eglur ynghylch ffioedd a thaliadau
Rhaid i chi esbonio eich taliadau mewn ffordd eglur, fel bod cleifion yn gwybod goblygiadau ariannol unrhyw benderfyniad i symud ymlaen i’r cam nesaf neu i dynnu yn ôl.
Rhaid i chi fod yn eglur am yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y prisiau a ddyfynnir, a pha daliadau eraill y bydd angen eu talu efallai, gan gynnwys taliadau posibl am waith adolygu neu waith dilynol arferol.
Trin oedolion heb alluedd
Os ydych yn ystyried darparu ymyriad ar gyfer oedolyn heb alluedd i wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen gyda’r ymyriad neu beidio, rhaid i chi ddilyn y cyngor ym mharagraffau 87-93 ein harweiniad Caniatâd. Mae’r arweiniad hwn yn ystyried y gofynion cyfreithiol ar draws y DU, y maent yn llywodraethu’r broses o wneud penderfyniadau gydag oedolion heb alluedd.
Rhaid i chi geisio ac ystyried safbwyntiau pobl y maent yn agos i’r claf, ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd gennych chi a’r tîm gofal iechyd am ddymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf. Dylai’ch dull gweithredu wrth ymgynghori gyda’r rhai y maent yn agos i’r claf, ddilyn y cyngor ynghylch rhannu gwybodaeth a nodir ym mharagraffau mharagraffau 8-30 ein harweiniad Caniatâd.
Trin plant a phobl ifanc
Os ydych yn darparu triniaeth i blant10, dylech fod yn gyfarwydd gyda’r cyngor manwl yn 0–18 oed, sy’n cynnwys y pwyntiau allweddol a nodir yn yr adran hon o’r arweiniad. Dylech gymryd gofal arbennig os ydych yn ystyried darparu ymyriadau cosmetig i blant neu bobl ifanc. Dylech sicrhau bod yr amgylchedd er mwyn gwneud eich gwaith yn briodol ar gyfer gofal pediatrig, gan weithio gyda thimau amlddisgyblaethol y maent yn darparu arbenigedd wrth drin plant a phobl ifanc yn ôl yr angen.
- rhaid i chi fod wedi’ch bodloni bod yr ymyriad arfaethedig yn gyfreithlon11, a
- dylech sicrhau bod yr amgylchedd er mwyn gwneud eich gwaith yn briodol ar gyfer gofal pediatrig, gan weithio gyda thimau amlddisgyblaethol sy’n darparu arbenigedd wrth drin plant a phobl ifanc yn ôl yr angen.
Gweler ein canllawiau 0–18 oed am ragor o wybodaeth am yr egwyddorion cyffredinol y dylech eu dilyn, yn ychwanegol i’r arweiniad hwn, pan fyddwch yn trin plant a phobl ifanc.
Mae Deddf Tocsin Botilinwm a Llenwadau Cosmetig (Plant) 2021 yn ei gwneud yn drosedd darparu neu drefnu’r triniaethau hyn i bobl o dan 18 oed, oni bai fod hynny’n cael ei gymeradwyo gan feddyg ar gyer angen meddygol a aseswyd ac yn cael ei weinyddu gan feddyg, nyrs, deintydd neu fferyllydd. Mae’r Ddeddf yn berthnasol yn Lloegr yn unig.
Dim ond ymyriadau y maent er budd pennaf y12plentyn neu’r person ifanc y dylech eu darparu. Os bydd person ifanc yn meddu ar alluedd i benderfynu a ydynt yn dymuno cael ymyriad neu beidio, dylech eu hannog i gynnwys eu rhieni wrth iddynt wneud eu penderfyniad o hyd.
Gweler paragraffau 12 - 13 o 0–18 oed am arweiniad ynghylch asesu lles pennaf.
Mae modd i riant13 roi eu caniatâd i ymyriad ar gyfer plentyn neu berson ifanc nad ydynt yn meddu ar yr aeddfedrwydd a’r galluedd i wneud y penderfyniad, ond dylech gynnwys y plentyn yn y penderfyniad gymaint ag y bo modd. Os byddwch yn barnu nad yw’r plentyn yn dymuno cael yr ymyriad cosmetig, ni ddylech ei gyflawni.
Mae ‘Rhieni’ yn bobl y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant.
Ni ddylai’ch gweithgareddau marchnata dargedu plant neu bobl ifanc, trwy eu cynnwys neu eu lleoliad.
Darparu parhad o ran gofal
Dylech ystyried a fydd angen i chi neu gydweithiwr adolygu ymateb y claf i’r ymyriad, gan sicrhau bod y claf yn deall a ydych yn argymell apwyntiad dilynol neu beidio.
Rhaid i chi sicrhau bod gan y claf y meddyginiaethau neu’r offer y mae angen iddynt eu cael er mwyn gofalu am eu hunain yn dilyn ymyriad.
Rhaid i chi sicrhau bod eich cleifion yn gwybod sut i gysylltu â chi neu unigolyn penodol arall y maent yn meddu ar gymhwyster addas os byddant yn cael cymhlethdodau y tu allan i’ch oriau gwaith arferol chi.
Dylech roi gwybodaeth ysgrifenedig i gleifion sy’n esbonio’r ymyriad y maent wedi’i gael mewn digon o fanylder er mwyn galluogi gweithiwr meddygol proffesiynol arall i ymgymryd â’r gofal dros y claf. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth berthnasol am y meddyginiaethau neu’r dyfeisiau a ddefnyddiwyd. Yn ogystal, dylech anfon y wybodaeth hon, ar ôl sicrhau caniatâd y claf, i’w meddyg teulu, ynghyd ag unrhyw weithwyr meddygol proffesiynol eraill sy’n eu trin, os yw’n debygol o effeithio ar eu gofal iechyd yn y dyfodol. Os bydd y claf yn gwrthwynebu i’r cam o anfon y wybodaeth i’w meddyg, rhaid i chi gofnodi hyn yn eu nodiadau, a byddwch yn gyfrifol am ddarparu gofal dilynol y claf.
Dylech drefnu eich cofnodion mewn ffordd sy’n golygu bod modd adnabod cleifion y maent wedi cael eu trin gyda dyfais neu feddyginiaeth benodol os ceir unrhyw bryderon neu ymholiadau rheoliadol ynghylch diogelwch cynnyrch.
Rhaid i chi gadw cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am gleifion mewn ffordd ddiogel, ac yn unol ag:
- unrhyw ofynion diogelu data
- ein harweiniad Cyfrinachedd
- arweiniad a gyhoeddwyd gan adrannau iechyd y DU, hyd yn oed pan ddarparir yr ymyriadau y tu allan i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Gweithio gyda chydweithwyr
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw un yr ydych yn dirprwyo14 ,15gofal iddynt yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol, a’u bod yn cael eu goruchwylio mewn ffordd briodol.
Mae ‘cydweithwyr’ yn cynnwys unrhyw un y mae gweithiwr meddygol proffesiynol yn gweithio gyda nhw, o fewn a thu allan i’w tîm, os ydynt yn weithwyr meddygol proffesiynol hefyd neu beidio.
Gweler ein canllawiau Dirprwyo ac atgyfeirio.
Rhaid i chi weithio mewn ffordd effeithiol gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac eraill y maent yn ymwneud â’r broses o ddarparu gofal. Rhaid i chi barchu sgiliau cydweithwyr mewn timau amlddisgyblaethol a’u cynorthwyo i ddarparu gofal da ar gyfer cleifion.
Rhaid i chi ofyn am gyngor cydweithwyr os bydd gan y claf gyflwr iechyd nad yw o fewn eich maes arbenigol chi, ac y gallai fod yn berthnasol i’r ymyriad neu i gais y claf.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn creu rhwydwaith cymorth o gydweithwyr proffesiynol profiadol y byddant yn gallu eich cynorthwyo a’ch cynghori. Dylech ofyn am gyngor pan fyddwch yn trin cleifion y bydd angen cymorth neu asesiad arbenigol arall neu seicolegol arnynt.