Gwneud penderfyniadau a chydsynio

Y deialog sy’n arwain at benderfyniad barhau

Cynorthwyo gweithgarwch penderfynu cleifion

27

Mae angen i gleifion gael gwybodaeth berthnasol (see paragraff 10) wedi’i rhannu mewn ffordd y gallant ei deall a’i chofio, er mwyn iddynt allu ei defnyddio er mwyn gwneud penderfyniad. Er mwyn helpu cleifion i ddeall a chofio gwybodaeth berthnasol, dylech: 

  1. ei rhannu mewn man ac ar adeg lle y byddant fwyaf tebygol o’i deall a’i chofio
  2. rhagweld a fydd unrhyw beth yn debygol o beri gofid iddynt, ac os felly, ymddwyn mewn ffordd ystyriol wrth eirhannu
  3. bodloni dymuniadau claf os hoffent gofnodi’r drafodaeth. Gweler paragraff 53 yn yr adran Recordiadau gweledol a sain.
  4. bodloni dymuniadau claf os ydynt yn dymuno i unrhyw un arall – perthynas, partner, ffrind, gofalwr neu eiriolwr – fod yn rhan o drafodaethau a/neu eu helpu i wneud penderfyniadau
  5. defnyddio dehonglydd neu wasanaeth cyfieithu1  os byddant yn cael anhawster deall Saesneg llafar 
  6. ei rhannu mewn ffurf y maent yn ei ffafrio – ysgrifenedig, sain, wedi’i chyfieithu, lluniau neu gyfryngau neu ddulliau eraill
  7. rhoi amser a chyfle iddynt ei hystyried cyn ac ar ôl gwneud penderfyniad.
1

Os yw claf yn siarad Cymraeg, gallai hyn fod yn ofyniad cyfreithiol.

28

Dylech fod yn effro i arwyddion y bydd angen cymorth ar gleifion efallai er mwyn deall a chofio’r wybodaeth berthnasol, ei defnyddio i wneud penderfyniad, a chyfleu’r penderfyniad hwnnw i chi.

29

Dylech sicrhau bod addasiadau rhesymol22 yn cael eu gwneud fel bod cleifion sydd ag anghenion ychwanegol yn cael digon o amser a chymorth er mwyn deall gwybodaeth berthnasol a gwneud penderfyniad. Ym mhob achos, rhaid i chi drin cleifion yn deg ac ni ddylech wahaniaethu yn eu herbyn. 

2

Mae paragraff 33 Arfer meddygol da yn nodi; ‘Rhaid i chi ystyried ac ymateb i anghenion cleifion sydd â namau neu anableddau. Nid yw pob nam ac anabledd yn hawdd i’w hadnabod, felly dylech ofyn i gleifion pa gymorth y mae ei angen arnynt, a chynnig addasiadau rhesymol sy’n gymesur â’r amgylchiadau.’ Nid yw ‘addasiadau rhesymol’ yn golygu newidiadau i’r amgylchedd ffisegol yn unig. Gall gynnwys, er enghraifft, bod yn hyblyg am amser neu hyd apwyntiadau, a gwneud trefniadau i’r rhai sydd ag anawsterau cyfathrebu, megis nam ar y clyw. Am ragor o wybodaeth, trowch at wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

2

Mae paragraff 33 Arfer meddygol da yn nodi; ‘Rhaid i chi ystyried ac ymateb i anghenion cleifion sydd â namau neu anableddau. Nid yw pob nam ac anabledd yn hawdd i’w hadnabod, felly dylech ofyn i gleifion pa gymorth y mae ei angen arnynt, a chynnig addasiadau rhesymol sy’n gymesur â’r amgylchiadau.’ Nid yw ‘addasiadau rhesymol’ yn golygu newidiadau i’r amgylchedd ffisegol yn unig. Gall gynnwys, er enghraifft, bod yn hyblyg am amser neu hyd apwyntiadau, a gwneud trefniadau i’r rhai sydd ag anawsterau cyfathrebu, megis nam ar y clyw. Am ragor o wybodaeth, trowch at wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

30

Rhaid i chi sicrhau bod cleifion wedi deall y wybodaeth a roddwyd iddynt, gan ofyn a hoffent gael rhagor o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad.

Cwmpas penderfyniadau

31

Rhaid i chi fod yn glir am gwmpas penderfyniadau fel bod cleifion yn deall yn union yr hyn y maent yn rhoi eu caniatâd iddo. Ni ddylech fynd y tu hwnt i gwmpas caniatâd claf, ac eithrio mewn argyfwng.

Mae cytuno ar gwmpas caniatâd claf gyda nhw ymlaen llaw yn arbennig o bwysig:

  1. os darparir triniaeth neu ofal fesul cam, gyda chyfleoedd i adolygu ac addasu rhyngddynt
  2. os bydd gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn darparu gwahanol rannau o’r driniaeth neu’r gofal
  3. os bydd cyfle efallai, ar ôl i ymyrraeth gychwyn ac ar ôl y caiff gallu claf i wneud penderfyniad ei beryglu, i gynnal ymyriad arall
  4. os ceir risg sylweddol y bydd niwed penodol yn digwydd yn ystod ymyriad, a fyddai’n cyflwyno mwy nag un ffordd o symud ymlaen. Gweler paragraffau 21-24 yn yr adran Trafod y manteision a’r niwed.

Bwrw golwg ymlaen i benderfyniadau yn y dyfodol

32

I rai cleifion, bydd amgylchiadau y bydd modd eu rhagweld pan fydd ganddynt amrediad o ddewisiadau ar adeg pan fyddant yn ei chael hi’n anos gwneud penderfyniadau efallai – er enghraifft oherwydd:

  1. y byddant mewn poen, wedi drysu neu’n teimlo’n ofnus efallai
  2. y gallai eu galluedd neu eu dirnadaeth fod yn cael ei effeithio gan eu cyflwr neu gan effeithiau ymyriad
  3. y bydd angen gwneud penderfyniad yn gyflym efallai, felly bydd llai o amser i gael deialog.
33

Dylech ragweld amgylchiadau o’r fath a’u trafod gyda chleifion ymlaen llaw os yw hynny’n ymarferol, felly pan fydd angen gwneud penderfyniad, bydd cleifion eisoes wedi cael amser a chyfle i ystyried y wybodaeth berthnasol (gweler paragraff 10). Bydd hi’n haws trafod risg niwed difrifol ymlaen llaw, yn hytrach nag mewn sefyllfa lle y bydd amser yn brin, pan y gallai’r claf fod mewn poen, wedi drysu neu’n teimlo’n ofnus, ac y gallai cyfeirio at niwed difrifol posibl am y tro cyntaf beri gofid.

34

Nid yw trafod dewisiadau ymlaen llaw yn gwaredu’r angen i gael deialog bellach yn syth cyn rhoi triniaeth, ac yn rheolaidd wrth i’r driniaeth neu’r gofal barhau. Hyd yn oed os oes cynllun gofal yn cael ei weithredu, neu os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw, dylech drafod y dewisiadau sydd ar gael iddynt o hyd, rhag ofn i’r dewisiadau newid neu rhag ofn y bydd y claf wedi newid eu meddwl.

35

Os bydd gan glaf gyflwr sy’n debygol o amharu ar eu galluedd wrth iddo ddatblygu, dylech eu hannog mewn ffordd sensitif i ystyried yr hyn y maent yn dymuno iddo ddigwydd efallai os na fyddant yn gallu gwneud penderfyniadau gofal iechyd. Dylech gofio na fydd rhai cleifion yn teimlo’n barod i drafod y materion hyn efallai. Gallai trafodaethau o’r fath gynnwys:

  1. dymuniadau ac ofnau’r claf, eu dewisiadau am opsiynau yn y dyfodol ynghylch gofal, a’r gwerthoedd a’r blaenoriaethau sy’n dylanwadu ar eu gweithgarwch penderfynu
  2. unrhyw driniaeth neu ofal y gallai’r claf fod yn dymuno eu gwrthod, a than ba amgylchiadau 
  3. unrhyw ymyriadau y gallai bod angen eu gwneud mewn argyfwng, megis adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR)33 
  4. a fyddai’r claf yn dymuno i unrhyw un arall – perthnasau, ffrindiau, gofalwyr neu gynrychiolwyr – i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal.
3

Gweler paragraffau 128–146 ynghylch CPR yn Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes.

3

Gweler paragraffau 128–146 ynghylch CPR yn Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes.

36

Efallai y bydd claf yn dymuno enwebu rhywun i wneud penderfyniadau ar eu rhan neu i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau os byddant yn colli galluedd neu efallai y byddant yn dymuno gwneud datganiad ymlaen llaw ynghylch gwrthod neu ofyn am driniaeth benodol. Dan yr amgylchiadau hyn, dylech roi gwybod i gleifion bod ffyrdd o ffurfioli eu dymuniadau, gan awgrymu y dylent geisio cymorth a chyngor annibynnol am hyn. Gweler paragraffau 77-80 yn yr adran Y fframwaith cyfreithiol.

37

Rhaid i chi gofnodi crynodeb o’ch trafodaeth gyda’r claf am eu gofal yn y dyfodol ac unrhyw benderfyniadau y byddant yn eu gwneud, gan gynnwys cymaint o fanylion ag y bo hynny’n ymarferol am ddymuniadau ac ofnau’r claf, eu dewisiadau am opsiynau yn y dyfodol am eu gofal, a’r gwerthoedd a’r blaenoriaethau sy’n dylanwadu ar eu gweithgarwch gwneud penderfyniadau. Os oes modd, dylech wneud y cofnod hwn tra bod gan y claf alluedd i’w adolygu a’i ddeall.

38

Dylech sicrhau bod y cofnod o’r drafodaeth hon yn cael ei fflagio a’i bod ar gael i’r claf ac i eraill sy’n ymwneud â’u gofal, fel bod pawb yn glir am yr hyn y cytunwyd arno. Dylai fod yn hawdd troi at unrhyw benderfyniad neu ddewis a’i adolygu’n rheolaidd.

39

Os ydych yn rhoi triniaeth neu ofal i glaf sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes, rhaid i chi ddilyn yr arweiniad yn Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: gwneud penderfyniadau.