Cwmpas y canllawiau hyn
Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i bob penderfyniad iechyd a gofal y byddwch yn ei wneud gyda phob claf. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau am driniaethau, gweithdrefnau, ymyriadau, ymchwiliadau, sgrinio, archwiliadau a chyfeiriadau.
Rhoddir sylw i benderfyniadau ynghylch caniatâd i ddatgelu gwybodaeth yn ein harweiniad am gyfrinachedd. Rhoddir sylw i benderfyniadau ynghylch darparu triniaethau neu ddulliau arloesol yn yr arweiniad hwn.
Mae’r arweiniad hwn yr un mor berthnasol i benderfyniadau a wneir am iechyd meddyliol a chorfforol, ac ym mha leoliad bynnag y byddwch yn rhyngweithio gyda chlaf, gan gynnwys ymgynghoriadau o bell.
Ar gyfer cleifion dan 18 oed, dylid darllen yr arweiniad hwn law yn llaw â 0–18 oed.