Adolygu penderfyniadau
Oni bai bod triniaeth neu ofal yn cychwyn yn syth ar ôl i’r claf roi eu caniatâd, bydd cyfle i adolygu penderfyniad.
Dylech adolygu penderfyniad claf yn syth cyn darparu triniaeth neu ofal, ac os bydd y driniaeth yn barhaus, dylech sicrhau bod trefniadau clir mewn grym i adolygu penderfyniadau yn rheolaidd, gan ganiatáu cyfle i gleifion ofyn cwestiynau a thrafod unrhyw bryderon. Yn ogystal, dylech ystyried adolygu penderfyniad i beidio gwneud unrhyw beth, yn rheolaidd.
Mae adolygu penderfyniad yn arbennig o bwysig:
- os nad ydych chi wedi cael trafodaeth bersonol gyda’r claf oherwydd bod cydweithiwr wedi gweld y claf yn y lle cyntaf
- os bydd amser sylweddol wedi mynd heibio ers y gwnaethpwyd y penderfyniad
- os bydd cyflwr y claf wedi newid
- os oes gennych chi reswm dros gredu y gallai’r claf fod wedi newid eu meddwl
- os bydd unrhyw agwedd ar y driniaeth neu’r gofal a ddewiswyd wedi newid
- os bydd gwybodaeth newydd ar gael am fanteision posibl neu risgiau niwed unrhyw rai o’r dewisiadau y gallent beri i’r claf wneud dewis gwahanol.
Rhaid i chi sicrhau bod cleifion yn cael gwybod am gynnydd eu triniaeth, a dylech roi gwybod i gleifion y gallant newid eu meddwl ar unrhyw adeg.