Gwneud penderfyniadau a chydsynio

Mabwysiadu dull gweithredu cymesur

5

Ni fydd pob paragraff o’r arweiniad hwn yn berthnasol i bob penderfyniad y byddwch yn ei wneud gyda chlaf neu am glaf. Bydd eich barn ynghylch sut i weithredu’r arweiniad yn dibynnu ar amgylchiadau penodol pob penderfyniad, gan gynnwys:

  1. natur a difrifoldeb cyflwr y cyflwr y claf a pha mor gyflym y mae’n rhaid gwneud y penderfyniad* 
  2. cymhlethdod y penderfyniad, nifer y dewisiadau sydd ar gael, a lefel y risg neu raddau’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig ag unrhyw rai ohonynt
  3. effaith y canlyniad posibl ar amgylchiadau unigol y claf
  4. yr hyn yr ydych yn ei wybod yn barod am y claf, a’r hyn y maen nhw yn ei wybod yn barod am eu cyflwr, a’r dewisiadau posibl er mwyn ei drin neu ei reoli
  5. natur yr ymgynghoriad.
6

Er enghraifft, Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984; Deddf Iechyd y Cyhoedd ac ati (Yr Alban) 2008; Deddf Iechyd y Cyhoedd (Gogledd Iwerddon) 1967.

6

Nid oes angen i’r broses o sicrhau caniatâd eich claf fod yn ffurfiol ac yn un sy’n cymryd cryn amser bob amser. Er bod rhai ymyriadau yn gofyn am lofnod claf ar ffurflen, ar gyfer y rhan fwyaf o benderfyniadau gofal iechyd, gallwch ddibynnu ar ganiatâd claf ar lafar, ar yr amod eich bod yn fodlon eu bod wedi cael y cyfle i ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol (gweler paragraff 10) a phenderfynu bwrw ymlaen.

Er y gall claf roi eu caniatâd ar lafar (neu heb fod ar lafar), dylech sicrhau y cofnodir hyn yn eu nodiadau. Er y gall claf roi cydsyniad ar lafar (neu’n ddieiriau) dylech wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei gofnodi yn ei nodiadau. Gweler hefyd baragraffau 50-53 yn yr adran Cofnodi penderfyniadau i gael rhagor o wybodaeth.

7

Ar gyfer rhai mathau o ymyriadau cyflym, y rhai sy’n creu archoll mor fach â phosib neu’r rhai heb lawdriniaeth – yn enwedig archwiliadau – byddai’n rhesymol dibynnu ar ganiatâd dieiriau claf. Mae archwiliadau yn rhan angenrheidiol o’r broses o roi diagnosis, ac mae’n rhesymol credu bod claf sy’n bresennol am ymgynghoriad yn dymuno cael diagnosis. Fodd bynnag, hyd yn oed ar gyfer gweithdrefnau mor arferol, dylech:

  1. esbonio’r hyn y byddwch yn ei wneud a pham
  2. nodi’n glir y gall y claf ddweud na, gan stopio’n syth os byddant yn gwneud hynny
  3. bod yn effro i unrhyw arwydd y gallent fod wedi drysu neu’n teimlo’n anhapus am yr hyn yr ydych yn ei wneud.