Ôl-nodion
Os yw claf yn siarad Cymraeg, gallai hyn fod yn ofyniad cyfreithiol.
Mae paragraff 33 Arfer meddygol da yn nodi; ‘Rhaid i chi ystyried ac ymateb i anghenion cleifion sydd â namau neu anableddau. Nid yw pob nam ac anabledd yn hawdd i’w hadnabod, felly dylech ofyn i gleifion pa gymorth y mae ei angen arnynt, a chynnig addasiadau rhesymol sy’n gymesur â’r amgylchiadau.’ Nid yw ‘addasiadau rhesymol’ yn golygu newidiadau i’r amgylchedd ffisegol yn unig. Gall gynnwys, er enghraifft, bod yn hyblyg am amser neu hyd apwyntiadau, a gwneud trefniadau i’r rhai sydd ag anawsterau cyfathrebu, megis nam ar y clyw. Am ragor o wybodaeth, trowch at wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Gweler paragraffau 128–146 ynghylch CPR yn Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes.
Yn yr amgylchiadau hyn bydd gennych awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau am driniaeth dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cymru a Lloegr) neu’r gyfraith gyffredin yng Ngogledd Iwerddon. Yn yr Alban, o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 (Deddf 2000), bydd gennych chi awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth os mai chi yw’r ymarferydd meddygol sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, yn amodol ar gyhoeddi tystysgrif analluedd. Yn y cyd-destun hwn, ystyrir bod ‘ymarferydd meddygol’ yn golygu ‘meddyg’ o’r defnydd a wneir yn Neddf Feddygol 1983. Dylid nodi nad yw’r awdurdod cyfreithiol hwn yn yr Alban wedi’i gyfyngu’n unig i feddygon, gan fod adran 47(1A) o Ddeddf 2000 yn datgan gan ymarferwyr meddygol, ymarferwyr deintyddol, optegwyr offthalmig, nyrsys cofrestredig, ac unrhyw unigolyn sy’n dod o fewn y disgrifiad hwnnw o bersonau a ragnodir gan Weinidogion yr Alban, hefyd yr awdurdod hwn. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys cymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia, felly ar y sail hynny nid oes gan gymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia yr awdurdod cyfreithiol hwn. Gweler hefyd y Daflen ffeithiau am ddeddfwriaeth allweddol a chyfraith achosion.
Er enghraifft, Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984; Deddf Iechyd y Cyhoedd ac ati (Yr Alban) 2008; Deddf Iechyd y Cyhoedd (Gogledd Iwerddon) 1967.