Am ein canllawiau Gwneud penderfyniadau a chydsynio
Mae cydsyniad yn egwyddor gyfreithiol a moesegol sylfaenol. Mae gan bob claf yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu triniaeth a’u gofal ac i wneud penderfyniadau gwybodus os y gallant. Mae cyfnewid gwybodaeth rhwng gweithwyr meddygol proffesiynol a chleifion yn hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau da. Gall niwed difrifol ddigwydd os na wrandewir ar gleifion, neu os na fyddant yn cael y wybodaeth y bydd ei hangen arnynt – a’r amser a’r cymorth i’w deall – fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal.
Rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol) deimlo’n fodlon eu bod wedi cael cydsyniad claf neu awdurdod dilys arall cyn darparu triniaeth neu ofal. Diben y canllawiau hyn yw helpu gweithwyr meddygol proffesiynol i gyflawni’r safon hon. Mae’n adlewyrchu’r egwyddorion moesegol y sylfaenir arfer da arnynt.
Er bod y gyfraith sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau yn amrywio ar draws y DU, mae’r canllawiau hyn yn cyd-fynd â’r gyfraith yn y bedair gwlad ac mae’n cynorthwyo’r gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n gweithredu o’i mewn. Rhoddir crynodeb o ddeddfwriaeth allweddol a chyfraith achosion sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau a chydsynio mewn taflen ffeithiau sydd ar gael ar ein gwefan. Disgwylir i weithwyr meddygol proffesiynol fod yn ymwybodol o’r gyfraith ddiweddaraf a dilyn ein canllawiau a rheoliadau eraill sy’n berthnasol i’w gwaith. Ar gael ar-lein yn Gwneud penderfyniadau a chydsynio.
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ond gallai fod o ddiddordeb i eraill hefyd.