Sut i ddefnyddio’r canllawiau hwn
Canllawiau ar arfer da yw’r rhain. Maent yn gosod fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau a fydd yn eich helpu i ymarfer yn foesegol ac yn unol â’r gyfraith. Os nad ydych yn siŵr sut mae'r gyfraith yn berthnasol mewn sefyllfa benodol, dylech geisio cyngor drwy weithdrefnau lleol, ymgynghori â'ch corff amddiffyn neu gymdeithas broffesiynol, neu geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn achos difrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i weithredu’r safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac er budd cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn sôn mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn berthnasol i’n prosesau addasrwydd i ymarfer, arfarnu ac ailddilysu ar ddechrau Arfer meddygol da.