Saith egwyddor gwneud penderfyniadau a chydsynio
Egwyddor un
Mae gan bob claf yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu triniaeth a’u gofal, a chael eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus os ydynt yn gallu gwneud hynny.
Egwyddor dau
Mae gwneud penderfyniadau yn broses barhaus sy’n canolbwyntio ar ddeialog ystyrlon: cyfnewid gwybodaeth berthnasol sy’n benodol i’r claf unigol.
Egwyddor tri
Mae gan bob claf yr hawl i gael rhywun yn gwrando arnynt, a chael y wybodaeth y mae angen iddynt ei chael er mwyn gwneud penderfyniad, a’r amser a’r cymorth y mae angen iddynt ei gael er mwyn ei deall.
Egwyddor pedwar
Rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol geisio darganfod yr hyn sy’n bwysig i gleifion, fel y gallant rannu gwybodaeth berthnasol am fanteision a niwed camau gweithredu arfaethedig a dewisiadau amgen rhesymol, gan gynnwys y dewis o beidio cymryd unrhyw gamau.
Egwyddor pump
Rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol ddechrau o’r rhagdybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniadau am eu triniaeth a’u gofal. Dim ond ar adeg benodol y gellir barnu bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad penodol, a dim ond ar ôl cael asesiad yn unol â gofynion cyfreithiol.
Egwyddor chwech
Rhaid i’r driniaeth neu’r gofal a ddewisir ar gyfer cleifion heb alluedd gynnig budd cyffredinol iddynt, a dylid gwneud penderfyniadau trwy ymgynghori gyda’r rhai sydd agosaf iddynt, neu sy’n eirioli ar eu rhan.
Egwyddor saith
Dylai cleifion y mae’r gyfraith yn effeithio ar eu hawl i roi eu caniatâd gael eu cynorthwyo i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, gan arfer dewis os oes modd.