Amgylchiadau sy’n effeithio ar y broses owneud penderfyniadau barhau
Os bydd eich claf heb alluedd i wneud y penderfyniad efallai
Galluedd meddyliol
Galluedd yw’r gallu i wneud penderfyniad. Gall y gallu hwn amrywio gan ddibynnu ar gyflwr claf, a sut y mae’n newid gydag amser, ac ar natur y penderfyniad i’w wneud. O’r herwydd, caiff galluedd ei ddisgrifio fel rhywbeth sy’n berthnasol i benderfyniad penodol ac amser penodol; felly, dim ond ar adeg benodol neu ar gyfer penderfyniad penodol y gall unigolyn meddu ar alluedd neu fod heb alluedd.
Y fframwaith cyfreithiol
Mae gan bob awdurdodaeth yn y DU ei deddfwriaeth ei hun ynghylch galluedd meddyliol, y mae hon, gyda’i chodau ymarfer cysylltiedig, yn darparu fframwaith er mwyn gwneud penderfyniadau pan fydd cleifion heb alluedd i benderfynu drostynt eu hunain.
Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’ch dyletswyddau dan y ddeddfwriaeth berthnasol, gan ystyried y cod ymarfer perthnasol ble bynnag y byddwch yn gweithio yn y DU.
Mae Taflen ffeithiau prif ddeddfwriaeth a chyfraith achosion yn cynnig crynodeb o ddeddfwriaeth ynghylch galluedd ac ychydig o’r gyfraith achosion berthnasol ar draws y DU, a’r effaith y mae’r rhain yn ei chael ar bobl sydd heb (neu y gallent fod heb) alluedd i wneud penderfyniadau am ofal iechyd, ac i’r rhai sy’n eu trin.
Nid yw’r arweiniad sy’n dilyn yn esbonio’r manylion nac yn defnyddio iaith benodol y ddeddfwriaeth, ond mae’n cyd-fynd â’r gyfraith ar draws y DU.
Rhagdybio galluedd
Rhaid i chi gychwyn o’r rhagdybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniadau am eu triniaeth a’u gofal. Ni ddylech gymryd bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, y ffaith ei bod yn ymddangos na allant gyfathrebu, neu oherwydd eu bod yn gwneud dewis annoeth yn eich barn chi, yn unig.
Asesu galluedd
Mae asesu galluedd yn fedr glinigol graidd nad yw’n gofyn am fewnbwn arbenigol o reidrwydd (ee gan seiciatrydd). Dylech fod yn gallu ffurfio casgliadau rhesymol am allu eich claf yn ystod eich deialog gyda nhw. Dylech fod yn effro i arwyddion bod cleifion heb alluedd efallai, ac mae’n rhaid i chi roi’r holl help a chymorth rhesymol iddynt er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad. Gweler paragraffau 27-30 am ffyrdd o Helpu cleifion i wneud penderfyniadau.
Bydd unigolyn yn meddu ar alluedd os byddant yn gallu cyflawni’r holl bethau canlynol:
- deall gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad dan sylw
- cofio’r wybodaeth honno
- defnyddio’r wybodaeth i wneud eu penderfyniad
- cyfleu penderfyniad.
Os byddwch yn credu bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad, rhaid i chi asesu eu gallu gan ddefnyddio’r prawf a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol, gan ystyried y cyngor yn yr arweiniad perthnasol. Os byddwch yn ei chael hi’n anodd barnu a yw claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad neu beidio, dylech geisio cymorth gan rywun sy’n adnabod y claf yn dda, er enghraifft, aelod arall o’r tîm gofal iechyd neu rywun sy’n agos i’r claf.
Mewn achosion cymhleth pan fyddwch o’r farn nad ydych yn gallu ffurfio barn, dylech geisio mewnbwn arbenigol gan seiciatryddion, niwrolegwyr, therapyddion iaith a lleferydd neu nyrsys cyswllt, neu drafod â’ch goruchwyliwr. Dylech geisio mewnbwn arbenigol hefyd os bydd y claf neu rywun sy’n agos iddynt yn anghytuno gyda’ch barn.
Os bydd y claf yn adennill galluedd efallai, a gellir oedi’r penderfyniad, rhaid i chi ystyried hyn.