Amgylchiadau sy’n effeithio ar y broses owneud penderfyniadau barhau
Gwneud penderfyniad pan fo’r claf heb alluedd: budd cyffredinol
Rydym yn defnyddio’r term ‘budd cyffredinol’ i ddisgrifio’r sail foesegol dros wneud penderfyniadau am driniaeth a gofal ar gyfer cleifion sy’n oedolion ac y maent heb alluedd i benderfynu drostynt eu hunain. Mae hyn yn cynnwys pwyso a mesur risgiau niwed a manteision posibl i’r claf unigol ar gyfer pob un o’r dewisiadau sydd ar gael, gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth. Mae cysyniad budd cyffredinol yn cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol i ystyried a yw triniaeth yn ‘cynnig budd’ i glaf (yr Alban), neu a yw er ‘budd pennaf’ y claf (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon).
Os mai chi yw’r person sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, cyn dod i’r casgliad mai eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu pa ddewis(iadau) fyddai’n cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd, dylech gymryd camau rhesymol i ddarganfod:
- a oes tystiolaeth o werthoedd a dewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol, y gallent fod yn rhwymo mewn cyfraith, megis penderfyniad neu ddatganiad ymlaen llaw
- a oes gan rywun arall yr awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad ar ran y claf neu wedi cael eu penodi i’w cynrychioli. neu yn yr Alban os yw rhywun yn gwneud cais am awdurdod o’r fath (gweler adran 49 o Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000.
Os na cheir tystiolaeth o’r ffaith y gwrthodwyd triniaeth ymlaen llaw, sy’n rhwymo mewn cyfraith, ac nid oes gan unrhyw un awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad hwn drostynt, os mai chi yw’r person sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, chi sy’n gyfrifol am benderfynu ar yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’ch claf.5
Wrth wneud hyn, rhaid i chi:
- ymgynghori gyda’r rhai sy’n agos i’r claf ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd, ystyried eu safbwyntiau am yr hyn y byddai’r claf yn ei ddymuno, a cheisio dod i gytundeb gyda nhw
- ystyried pa ddewis sy’n cyd-fynd agosaf ag anghenion, dewisiadau, gwerthoedd a blaenoriaethau’r claf
- ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar y dewisiadau i’r claf yn y dyfodol.
Yn yr amgylchiadau hyn bydd gennych awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau am driniaeth dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cymru a Lloegr) neu’r gyfraith gyffredin yng Ngogledd Iwerddon. Yn yr Alban, o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 (Deddf 2000), bydd gennych chi awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth os mai chi yw’r ymarferydd meddygol sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, yn amodol ar gyhoeddi tystysgrif analluedd. Yn y cyd-destun hwn, ystyrir bod ‘ymarferydd meddygol’ yn golygu ‘meddyg’ o’r defnydd a wneir yn Neddf Feddygol 1983. Dylid nodi nad yw’r awdurdod cyfreithiol hwn yn yr Alban wedi’i gyfyngu’n unig i feddygon, gan fod adran 47(1A) o Ddeddf 2000 yn datgan gan ymarferwyr meddygol, ymarferwyr deintyddol, optegwyr offthalmig, nyrsys cofrestredig, ac unrhyw unigolyn sy’n dod o fewn y disgrifiad hwnnw o bersonau a ragnodir gan Weinidogion yr Alban, hefyd yr awdurdod hwn. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys cymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia, felly ar y sail hynny nid oes gan gymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia yr awdurdod cyfreithiol hwn. Gweler hefyd y Daflen ffeithiau am ddeddfwriaeth allweddol a chyfraith achosion.
Os bydd dewis arfaethedig am driniaeth neu ofal yn cyfyngu ar hawl claf i gael rhyddid personol, rhaid i chi ystyried a oes angen awdurdod cyfreithiol arnoch i fwrw ymlaen ag ef dan yr amgylchiadau.
Dylech neilltuo digon o amser, os oes modd, i gynnal trafodaethau gyda’r rhai y mae ganddynt ddiddordeb yn lles y claf, a dylech geisio dod i gytundeb ynghylch sut i symud ymlaen.
Datrys anghytundebau
Weithiau, bydd aelodau’r tîm gofal iechyd yn anghytuno am yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf, neu bydd y rhai sy’n agos i’r claf yn anghytuno gyda chi a’r tîm gofal iechyd. Mae’n well, ac yn bosibl fel arfer, i ddatrys anghytundebau am driniaeth a gofal claf trwy gyfrwng prosesau lleol.
Er enghraifft, trwy:
- gynnwys eiriolwr annibynnol neu wasanaeth cyfryngu lleol
- ymgynghori â chydweithiwr mwy profiadol a/neu arbenigwr annibynnol
- cynnal cynhadledd achos neu geisio cyngor gan bwyllgor moeseg clinigol.
Ar ôl cymryd y camau hyn, os bydd anghytundeb o hyd am benderfyniad arwyddocaol, rhaid i chi ddilyn unrhyw gamau ffurfiol i ddatrys yr anghytundeb sy’n ofynnol gan y gyfraith, neu a nodir yn y cod ymarfer perthnasol. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gwahanol bobl y mae’n rhaid i chi ymgynghori â nhw, eu gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau a’r pwys y mae’n rhaid i chi ei roi i’w safbwyntiau. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ac efallai y bydd angen i chi wneud cais i lys priodol neu gorff statudol am adolygiad neu benderfyniad annibynnol. Dylid hysbysu eich claf, y rhai sy’n agos iddynt ac unrhyw un a benodwyd i weithredu ar eu rhan, mor gynnar ag y bo modd o unrhyw benderfyniad i gychwyn camau cyfreithiol, fel eu bod yn cael y cyfle i gymryd rhan neu i gael eu cynrychioli.
Gwneud penderfyniadau am driniaeth a gofal pan fydd y gyfraith yn effeithio ar hawl claf i roi eu caniatâd
Gall deddfwriaeth iechyd meddwl neu ddeddfwriaeth arall6 a phwerau cyfraith gyffredin y llysoedd effeithio ar hawl claf i wneud penderfyniad gofal iechyd drostynt eu hunain. Efallai y bydd y gyfraith yn mynnu bod cleifion yn cydymffurfio ag asesiad neu driniaeth oherwydd eu bod yn achosi perygl i’w hunain, i’w hiechyd neu i eraill. Ceir rhagofalon llym ynghylch defnyddio’r pwerau cyfreithiol hyn i gyfyngu ar unigolion, ac mae’r rhain yn penderfynu ar yr hyn a ganiateir heb orfod sicrhau caniatâd. Dylech fod yn ymwybodol o’r driniaeth a ganiateir gan y gyfraith a’r driniaeth na chaniateir gan y gyfraith.
Er enghraifft, Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984; Deddf Iechyd y Cyhoedd ac ati (Yr Alban) 2008; Deddf Iechyd y Cyhoedd (Gogledd Iwerddon) 1967.
Os byddwch yn barnu bod angen defnyddio’r pwerau cyfreithiol hyn i drin neu asesu claf heb sicrhau caniatâd, rhaid i chi ddilyn y gweithdrefnau a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ac mewn canllawiau statudol, ac ym mharagraff 96 yr arweiniad hwn. Os bydd angen cyngor neu gymorth arnoch, dylech gysylltu â’ch corff amddiffyn neu’ch cymdeithas broffesiynol, neu geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
Mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y claf
Rhaid i chi fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y claf hyd yn oed os yw’r gyfraith yn caniatáu i chi asesu neu drin claf heb sicrhau eu caniatâd. Er enghraifft, rhaid i chi:
- fod yn gwrtais ac yn ystyriol, gan barchu urddas a phreifatrwydd eich claf
- diogelu hawliau a rhyddid eich claf, ac os bydd angen cyfyngu, ei ddefnyddio am yr amser lleiaf ag y bo modd ac yn y ffordd leiaf gyfyngol ag y bo modd
- cynorthwyo eich claf i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal, rhoi gwybod iddynt os ydynt yn gallu dewis mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar eu triniaeth, a pharchu eu dewisiadau os oes modd
- hysbysu eich claf o gynnydd eu triniaeth, gan adolygu penderfyniadau yn rheolaidd.