Cynnal ymddiriedaeth
Gonestrwydd
Rhaid i chi fod yn onest bob amser, ac ni ddylech fyth gamarwain ynghylch eich sgiliau, eich profiad, eich cymwysterau, eich statws proffesiynol a’ch rôl cyfredol.
Cyfleu gwybodaeth am eich gwasanaethau
Pan fyddwch yn hysbysebu eich gwasanaethau, rhaid i chi ddilyn y codau a’r canllawiau rheoliadol a osodwyd gan y Pwyllgor Arfer Hysbysebu.16
Y Pwyllgor Arferion Hysbysebu (2013) Marchnata Ymyriadau Cosmetig (cyrchwyd 7 Mawrth 2016).
Rhaid i chi sicrhau bod y wybodaeth y byddwch yn ei chyhoeddi yn ffeithiol a bod modd ei chadarnhau, ac nad yw’n camfanteisio ar ddiffyg gwybodaeth feddygol neu natur agored i niwed cleifion.
Rhaid i’ch gweithgarwch marchnata fod yn gyfrifol.17 Ni ddylai leihau neu fychanu risgiau ymyriadau, ac ni ddylai gamfanteisio ar natur agored i niwed cleifion. Ni ddylech honni bod ymyriadau yn rhydd rhag risg.
Y Pwyllgor Arferion Hysbysebu a’r Asiantaeth Reoleiddio Meddyginiaethau a chynnyrch Gofal Iechyd (MHRA) Hysbysiad gorfodi: Hysbysebu Botox a phigiadau tocsin botwlinwm eraill (cyrchwyd 30 Ebrill 2021).
Os bydd angen i gleifion gael asesiad meddygol cyn i chi gynnal ymyriad, rhaid i’ch gweithgarwch marchnata nodi hyn mewn ffordd eglur.
Ni ddylech gamarwain am y canlyniadau yr ydych yn debygol o’u sicrhau. Ni ddylech wneud honiadau anwir neu awgrymu bod canlyniadau penodol yn siŵr o gael eu sicrhau gan ymyriad.
Ni ddylech ddefnyddio tactegau hyrwyddo mewn ffyrdd y gallent annog pobl i wneud penderfyniad byrbwyll.
Ni ddylech ddarparu eich gwasanaethau fel gwobr.
Ni ddylech ganiatáu i eraill eich camddehongli neu gynnig eich gwasanaethau mewn ffyrdd y byddent yn mynd yn groes i’r arweiniad hwn, o fwriad.
Gonestrwydd mewn trafodion ariannol
Rhaid i chi fod yn agored ac yn onest gyda’ch cleifion am unrhyw fuddiannau ariannol neu fasnachol y gallent gael eu gweld fel pe baent yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn rhagnodi, yn cynghori, yn trin, yn cyfeirio neu’n comisiynu gwasanaethau ar eu cyfer.
Ni ddylech ganiatáu i’ch budd ariannol neu fasnachol mewn ymyriad cosmetig, neu sefydliad sy’n darparu ymyriadau cosmetig, i effeithio ar eich argymhellion i gleifion neu’ch ymlyniad wrth safonau gofal da disgwyliedig.