Canllawiau i feddygon sy’n cynnig ymyriadau cosmetig

Gwybodaeth, sgiliau a pherfformiad

1

Rhaid i chi gydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwystra, gan gyfeirio cleifion at ymarferwyr eraill pan na fydd modd i chi fodloni anghenion y claf mewn ffordd ddiogel.

2

Cyn cynnal ymyriad am y tro cyntaf eich hun, neu oruchwylio eraill yn ei gyflawni, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gallu gwneud hynny mewn ffordd ddiogel, ee trwy gael hyfforddiant neu geisio cyfleoedd i wneud gwaith dan oruchwyliaeth.4 

4

Mae modd i chi gael cyngor ynghylch goruchwyliaeth glinigol effeithiol gan ffynonellau megis canllawiau Rheoliad 18 y Comisiwn Ansawdd Gofal (cyrchwyd 30 Ebrill 2021).  

3

Rhaid i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau er mwyn cynnal a datblygu eich cymhwystra a’ch perfformiad ar draws ystod lawn eich gwaith.

4

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gyfraith a’r canllawiau clinigol a moesegol diweddaraf y maent yn berthnasol i’ch gwaith. Rhaid i chi ddilyn y gyfraith, ein harweiniad ni ac unrhyw reoliadau eraill y maent yn berthnasol i’ch gwaith.

5

Rhaid i chi geisio a gweithredu ar sail adborth gan gleifion, gan gynnwys gwybodaeth am eu bodlonrwydd a’u canlyniadau corfforol a seicolegol. Rhaid i chi ddefnyddio hwn, ac adborth gan gydweithwyr, er mwyn cyfrannu at eich gwaith ac er mwyn gwella ansawdd eich gwaith.

6

Rhaid i chi sicrhau bod eich arfarniad blynyddol yn cynnwys eich holl waith.