Arfer meddygol da
Dyletswyddau gweithwyr meddygol proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda’r GMC
Rhaid i gleifion allu ymddiried mewn gweithwyr meddygol proffesiynol gyda’u bywydau a’u hiechyd. Er mwyn cyfiawnhau’r ymddiriedaeth honno, rhaid i chi roi’r pwys mwyaf ar ofal eich cleifion, a bodloni’r safonau a ddisgwylir gennych ym mhob un o’r pedwar maes.
Gwybodaeth, sgiliau a datblygiad
- Darparu ymarfer a gofal o safon dda, a gweithio o fewn eich cymhwysedd.
- Cadw eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn gyfredol.
Cleifion, partneriaeth a chyfathrebu
- Parchu urddas pob claf a’u trin fel unigolyn.
- Gwrando ar gleifion a gweithio mewn partneriaeth â nhw, a’u cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal.
- Diogelu gwybodaeth bersonol cleifion rhag cael ei datgelu mewn ffordd amhriodol.
Cydweithwyr, diwylliant a diogelwch
- Gweithio gyda chydweithwyr mewn ffyrdd sy’n gwasanaethu buddiannau cleifion orau, gan fod yn fodlon arwain neu ddilyn fel y bydd yn ofynnol dan yr amgylchiadau.
- Bod yn fodlon rhannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad gyda chydweithwyr, boed hynny mewn ffordd anffurfiol neu trwy addysgu, hyfforddi neu fentora.
- Trin pobl gyda pharch a helpu i greu amgylchedd gwaith a hyfforddi sy’n dosturiol, sy’n gefnogol ac sy’n deg, lle y bydd pawb yn teimlo’n ddiogel i ofyn cwestiynau, trafod camgymeriadau a mynegi pryderon.
- Gweithredu yn ddi-oed os byddwch yn credu y gallai diogelwch neu urddas cleifion gael ei beryglu’n ddifrifol.
- Gofalu am eich anghenion iechyd a lles eich hun, gan gydnabod a chymryd camau priodol os nad ydych yn ffit i weithio.
Ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb
- Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb, a bod yn agored os bydd pethau yn mynd o le.
- Diogelu a hyrwyddo iechyd cleifion a’r cyhoedd.
- Peidio byth â gwahaniaethu’n annheg yn erbyn cleifion neu gydweithwyr.
- Peidio byth â chamddefnyddio ymddiriedaeth cleifion ynoch chi neu ymddiriedaeth y cyhoedd yn eich proffesiwn.