Rhoi gwybod am achosion troseddol a rheoleiddiol yn y DU a’r tu allan iddi
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r egwyddorion arfer da perthnasol os ydych chi’n ymwneud ag unrhyw achos troseddol neu reoleiddiol, ac eisiau gwybod a ddylech chi roi gwybod i ni am hyn. Gallwch chi gael arweiniad ychwanegol yn y Canllawiau Addasrwydd i Ymarfer (Saesneg yn unig) ar sut rydym yn gwneud penderfyniadau.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 22 Ebrill 2013. Cafodd y canllawiau hyn eu diweddaru ar 13 Rhagfyr 2024 pan ddaeth rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i rym.