Rhoi gwybod am achosion troseddol a rheoleiddiol yn y DU a’rtu allan iddi
Yn Arfer meddygol da,1rydym yn nodi:
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Arfer Meddygol Da Llundain, CMC.
75. Rhaid i chi ein hysbysu yn ddi-oed os bydd unrhyw rai o’r sefyllfaoedd isod yn digwydd i chi, unrhyw le yn y byd:
a. rydych wedi cael eich rhybuddio gan yr heddlu neu’ch beirniadu gan ymchwiliad swyddogol
b. rydych wedi cael eich cyhuddo neu’ch canfod yn euog o gyfawni trosedd
c. mae corff proffesiynol arall wedi gwneud canfyddiad yn erbyn eich cofrestriad o ganlyniad i weithdrefnau addasrwydd i wneud gwaith meddygol.
Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Yn y canllawiau hyn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, rydym yn egluro sut gall gweithwyr meddygol proffesiynol roi’r egwyddorion hyn ar waith, a beth ddylech chi roi gwybod i ni amdano. Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn achos difrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i weithredu’r safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac er budd cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn sôn mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn berthnasol i’n prosesau addasrwydd i ymarfer, arfarnu, ac ailddilysu ar ddechrau Arfer meddygol da.
Nid yw’r ddyletswydd i roi gwybod am achosion troseddol a rheoleiddiol yn newid yr amgylchiadau pan fydd y GMC yn ymchwilio i ymddygiad gweithiwr meddygol proffesiynol, na’r trothwy ar gyfer gweithredu wrth gofrestru.
Yr hyn y bydd yn rhaid i chi adrodd amdano
Rhaid i chi ddweud wrthym yn ddi-oed os bydd unrhyw rai o’r sefyllfaoedd isod yn digwydd i chi, unrhyw le yn y byd:
- rydych yn cael eich canfod yn euog o gyfawni trosedd
- rydych yn cael eich cyhuddo o gyfawni trosedd
- rydych yn gwneud cyfaddefad ffurfol eich bod wedi cyfawni trosedd (er enghraifft,
trwy dderbyn rhybudd,2gorchymynpenderfyniad cymunedol, gwarediaddewisol yng Ngogledd Iwerddon, neuddewis dargyfeiriol megis rhybudd deallus neu rybudd, neu ddirwy ariannol yn yr Alban, neu thrwy ymrwymo i gytundeb cyfeuster datgelu cytundebol gyda Chyllid a Thollau EM, sy’n golygu eich bod yncyfaddef eich bod wedi cyfawni twyll) - rydych yn derbyn y dewis o dalu hysbysiad cosb am anrhefn yn unol â lefel gosb yr haen uchaf3 (yng Nghymru a Lloegr), hysbysiad cosb dan Ddeddf Cyfawnder
(Gogledd Iwerddon) 2011 - rydych yn cael rhybudd ynghylch canabis (yng Nghymru a Lloegr)
- rydych yn cael gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol,4 boed hynny o ganlyniad i achos sifl neu droseddol
- cyfyngwyd ar eich cofrestriad neu fe’ch canfuwyd yn euog o gyfawni trosedd gan gorff meddygol neu gorff rheoliadol proffesiynol arall
- mae’ch ymddygiad (gan gynnwys fel rhan o dîm rheoli) wedi cyfrannu’n uniongyrchol at sefydliad sydd wedi ymrwymo i gytundeb erlyn gohiriedig.
Mae hyn yn cynnwys rhybudd amodol dan Ddeddf Cyfawnder Troseddol 2003.
Mae modd gweld rhestr o droseddau trwy droi at Wefan y Swyddfa Gartref.
Mae’n berthnasol ar draws y DU.
Ymchwiliadau swyddogol
Os ydych chi wedi cael eich beirniadu gan ymchwiliad swyddogol unrhyw le yn y byd, rhaid i chi ddweud wrthym yn ddi-oed.
Trwy hyn, rydym yn golygu bod yn rhaid i chi ddweud wrthym os byddwch wedi cael beirniadaeth sy’n ymwneud â materion difrifol, y gallent fwrw amheuaeth ar eich addasrwydd
i wneud gwaith meddygol gan yr unigolyn sy’n arwain naill ai:
- ymchwiliad cyhoeddus/ffurfol, neu
- dribiwnlys cyhoeddus.
Mae tribiwnlysoedd ac ymchwiliadau cyhoeddus/ffurfol; yn cael eu hariannu gan arian cyhoeddus ac yn ymchwilio i faterion sydd er budd y cyhoedd, ac maent yn cyhoeddi eu canfyddiadau.
Mae enghreifftiau o ymchwiliadau cyhoeddus/ffurfol yn cynnwys, ond nid ydynt wedi cael eu cyfyngu i:
- ymchwiliad a gynhelir dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005
- Comisiwn Seneddol neu Bwyllgor Dethol
- unrhyw ymchwiliadau anstatudol eraill sy’n ymchwilio i faterion er budd y cyhoedd (a elwir yn ymchwiliadau adrannol weithiau) er enghraifft, ymchwiliad Hutton (yr amgylchiadau ynghylch marwolaeth Dr David Kelly) ac ymchwiliad Bichard (materion yn deillio o lofruddiaethau Soham)
- Comisiwn Brenhinol
- Cwest Crwner.
O ran tribiwnlysoedd cyhoeddus, rhaid i chi ddweud wrthym os ydych chi’n gwybod neu os ddylech chi wybod eich bod wedi bod yn destun beirniadaeth farnwrol (er enghraifft
mewn achosion sifl neu droseddol) ynghylch materion difrifol y gallent fwrw amheuaeth ar eich addasrwydd i wneud gwaith meddygol.
Yn ogystal, rhaid i chi ddilyn unrhyw ofynion adrodd y maent mewn grym yn eich sefydliad cyfogi neu gontractio. Os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi ddweud neu i bwy y dylech ddweud, dylech ofyn am gyngor gan gorff amddiffyn neu gymdeithas feddygol.
Yr hyn na fydd angen i chi ddweudwrthym amdano
Nid oes angen i chi ddweud wrthym am:
- rhybudd cosb am anhrefn oni bai ei fod wedi’i nodi ym mharagraff 44
- talu rhybudd cosb sefydlog am ffordd trosedd traffg
- talu rhybudd cosb sefydlog a gyhoeddwyd gan awdurdodau lleol (er enghraifft, am droseddau megis baeddu cŵn neu sŵn).
Dylech geisio cyngor os bydd gennych chiunrhyw amheuaeth
Os nad ydych yn siŵr a ddylech ddweud wrthym am unrhyw rai o’r materion a nodir ym mharagraff 4 neu 5, dylech ofyn am gyngor gan gorff amddiffyn neu gymdeithas feddygol, neu gennym ni.