Cyfrinachedd: datgelu gwybodaeth at ddibenion cyflogaeth, yswiriant a dibenion tebyg

Cyfrinachedd: datgelugwybodaeth at ddibenioncyfogaeth, yswiriant adibenion tebyg

1

  Yn ein harweiniad Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifon rydym yn nodi:  

115. Efallai y bydd trydydd partïon, megis cwmni yswiriant neu gyfogwr claf, neu adran o’r llywodraeth neu asiantaeth sy’n asesu hawl hawliwr i gael budd-daliadau, yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol am glaf, naill ai’n dilyn archwiliad neu o gofnodion sy’n bodoli eisoes. Yn yr achosion hyn:

a. dylech deimlo’n fodlon bod y claf yn meddu ar wybodaeth ddigonol am gwmpas, diben a goblygiadau tebygol y gweithgarwch archwilio a datgelu, a’r ffaith nad oes modd gwrthod darparu neu gelu gwybodaeth berthnasol 

b.  dylech sicrhau neu fod wedi gweld caniatâd ysgrifenedig i’r datgeliad gan y claf neu gan unigolyn sy’n meddu ar awdurdod cywir i weithredu ar ran y claf. Gallwch dderbyn sicrhad gan swyddog mewn asiantaeth neu adran o’r llywodraeth neu gan weithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig sy’n gweithredu ar eu rhan, bod y claf neu unigolyn sy’n meddu ar awdurdod cywir i weithredu ar eu rhan, wedi rhoi eu caniatâd 

c. dim ond gwybodaeth ffeithiol y mae modd i chi ei chadarnhau y dylech ei datgelu, a’i chyfwyno mewn ffordd ddiduedd ac sy’n berthnasol i’r cais. Ni ddylech ddatgelu’r cofnod cyfan fel arfer, er y gallai fod yn berthnasol i rai budd-daliadau a delir gan adrannau’r llywodraeth ac i asesiadau eraill o hawl cleifon i gael pensiynau neu fudddaliadau eraill sy’n gysylltiedig gydag iechyd

d. dylech gynnig dangos i’ch claf neu roi copi i’ch claf o unrhyw adroddiad y byddwch yn ei ysgrifennu amdanynt at ddibenion cyfogaeth neu yswiriant, cyn y bydd yn cael ei anfon, oni bai:

i. eu bod eisoes wedi nodi nad ydynt yn dymuno’i weld

ii. y byddai ei ddatgelu yn debygol o achosi niwed difrifol i’r claf neu i unrhyw un arall

iii. y byddai ei ddatgelu yn debygol o ddatgelu gwybodaeth am unigolyn arall nad ydynt yn rhoi eu caniatâd.1 

1

Mae modd i chi weld Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifon, a'r gweddill o'n canllawiau ar-lein.

Am yr arweiniad hwn

2

Un o ddyletswyddau craidd gweithiwr meddygol proffesiynol yw sicrhau eich bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eich claf2. Ceir nifer o amgylchiadau, fodd bynnag, lle y gofynnir i chi ddatgelu gwybodaeth o gofnodion sy’n bodoli eisoes neu ar ôl archwilio claf efallai, a lle y byddwch yn wynebu rhwymedigaethau deuol. Mae hyn yn golygu bod gennych chi rwymedigaethau i’r claf ac i’r unigolyn neu’r sefydliad sydd wedi gofyn am y wybodaeth.

2

Mae’r term ‘claf’ yn yr arweiniad hwn yn cyfeirio at gyfogeion, cleientiaid, hawlwyr, athletwyr ac unrhyw un arall yr ydych yn dal gwybodaeth bersonol amdanynt neu y mae modd i chi droi at wybodaeth bersonol amdanynt, os ydych yn gofalu amdanynt mewn perthynas therapiwtig draddodiadol neu beidio. 

3

Mae’r canllawiau hyn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, yn nodi sut y mae’r egwyddorion cyffredinol yn ein harweiniad Cyfrinachedd yn berthnasol pan gaiff gwybodaeth am glaf ei datgelu yn yr amgylchiadau hyn. Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn. Mae’r canllawiau’n berthnasol i’r cam o ddatgelu gwybodaeth a geir gan glaf yn uniongyrchol, neu o gofnod meddygol claf, neu gan weithiwr iechyd proffesiynol arall. Nid yw’n berthnasol os yw’ch safbwyntiau’n seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr unigolyn neu’r corff sy’n comisiynu’r farn yn unig. 

Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac er lles eich cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer, ar ddechrau Arfer meddygol da

Pryd mae rhwymedigaethau deuol yn codi?

4

Fel arfer, bydd rhwymedigaethau deuol yn codi pan fydd gweithiwr meddygol proffesiynol yn gweithio i, neu’n cael eu contractio gan, neu fel arall yn darparu gwasanaethau ar gyfer:

  • cyfogwr claf (fel meddyg iechyd galwedigaethol)  
  • cwmni yswiriant
  • asiantaeth sy’n asesu hawl hawliwr i gael budd-daliadau 
  • yr heddlu (fel llawfeddyg yr heddlu) 
  • y lluoedd arfog
  • gwasanaeth y carchardai, neu
  • gymdeithas neu dîm chwaraeon.3 
3

Efallai y bydd gweithwyr meddygol proffesiynol yn darparu eu gwasanaethau i glybiau chwaraeon proffesiynol (pan fo’r rhwymedigaeth ddeuol i’r claf ac i’r clwb, sy’n debyg iawn i rwymedigaeth ddeuol meddyg iechyd galwedigaethol) neu i gymdeithasau (lle y mae’r rhwymedigaeth ddeuol i’r claf ac i gorff llywodraethu neu dîm o ddetholwyr).

5

Neu, efallai y bydd unigolyn neu sefydliad nad ydych wedi cael unrhyw berthynas uniongyrchol gyda nhw yn y gorffennol, megis cyfogwr neu gwmni yswiriant eich claf, yn gofyn i chi ddarparu adroddiad meddygol neu wybodaeth am glaf. Efallai y cynigir taliad i chi am eich amser a’ch ymdrech neu am amser ac ymdrech eich staff, gan arwain at rwymedigaeth sy’n ychwanegol i’r un y mae gennych tuag at eich claf.

Faint o wybodaeth y dylech chi ei datgelu?

6

Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais y dylech ei darparu, sy’n golygu na ddylech ddatgelu cofnod cyfan gwbl claf fel arfer.4 Ceir dwy eithriad i’r rheol gyffredinol hon:

  • Hawlio budd-daliadau: gallai cofnod cyfan y claf fod yn berthnasol i rai budd-daliadau a delir gan adrannau neu asiantaethau’r llywodraeth.5 
  • Prosesau cyfreithiol: efallai y bydd angen i gyfreithiwr weld cofnod cyfan gwbl eu claf er mwyn asesu pa rannau sy’n berthnasol, er enghraifft, i hawliadau anafadau personol. Os bydd yr hawliad yn mynd yn ei faen, efallai y bydd yr unigolyn y mae’r hawliad yn cael ei wneud yn eu herbyn, yn gofyn am gopïau o ddogfennau pwysig, a allai gynnwys cofnodion sy’n cynnwys hanes meddygol y claf. Dan reolau llysoedd barn yng Nghymru a Lloegr, gallant weld cofnod cyfan y claf a dylai’r cyfreithiwr esbonio hyn i’r claf. Yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, dylech ddatgelu cofnodion yn unol â dymuniadau eich claf, neu’n unol â’r hyn a fydd yn cael ei orchymyn gan lys.6 
4

Gallai datgelu’r cofnod cyfan dorri egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998, oherwydd gallai’r cofnod llawn gynnwys gwybodaeth ormodol ac nad yw’n berthnasol i’r diben. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cynghori nad yw hi’n briodol i gwmnïau yswiriant sicrhau cofnodion meddygol gan ddefnyddio ceisiadau gwrthrych am wybodaeth cleifon. Mae Deddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1988 yn rhoi llwybr cyfreithiol clir a sefydledig i gwmnïau yswiriant droi at wybodaeth feddygol, gan ddiogelu hawliau cleifon ar yr un pryd.

5

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi cyngor am adroddiadau at ddibenion budd-daliadau.

6

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr a Chymdeithas Feddygol Prydain yn cyhoeddi ffurflenni cydsyniad enghreifftiol ar y cyd https://www.bma.org.uk/media/2821/bma-access-to-health-records-june-20.pdf, sy’n awdurdodi rhyddhau cofnodion iechyd i gyfreithwyr dan y ddeddf diogelu data. Mae’r ffurflenni’n cynnwys nodiadau i gleientiaid, cyfreithwyr a rheolwyr cofnodion meddygol.

Ysgrifennu adroddiadau

7

Wrth ysgrifennu adroddiad7 rhaid i chi:

  1. sicrhau nad yw’n anghywir neu’n gamarweiniol – rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddilysu’r wybodaeth yn yr adroddiad, ac ni ddylech hepgor unrhyw wybodaeth berthnasol yn fwriadol
  2. cyfyngu’r adroddiad i feysydd y mae gennych chi brofad uniongyrchol ynddynt neu wybodaeth berthnasol amdanynt
  3. sicrhau bod unrhyw farn y byddwch yn ei chynnwys yn gytbwys, a’ch bod yn gallu nodi’r ffeithiau neu’r tybiaethau y seiliwyd y farn honno arnynt.
7

Gweler Arfer meddygol da, paragraffoedd 88, 89, 92, 98, y gallwch eu darganfod, ar gael ar ein gwefan.

Datgelu adroddiad am glaf

8

Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd ar wahân i ryddhau adroddiad yn dilyn archwiliad ar yr amod eich bod yn teimlo’n fodlon bod y claf wedi rhoi caniatâd ar sail gwybodaeth i’r archwiliad ac i’r cam o ryddhau unrhyw adroddiadau dilynol (gweler paragraff paragraph 115  Cyfrinachedd, a atgynhyrchir ar frig yr arweiniad esboniadol hwn).

115

Efallai y bydd trydydd partïon megis cwmni yswiriant neu gyflogwr claf, neu adran o’r llywodraeth neu asiantaeth sy’n asesu hawl hawliwr i gael budd-daliadau, yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol am glaf, naill ai’n dilyn archwiliad neu o gofnodion sy’n bodoli eisoes. Yn yr achosion hyn:

  1. dylech deimlo’n fodlon bod y claf yn meddu ar wybodaeth ddigonol am gwmpas, diben a goblygiadau tebygol y gweithgarwch archwilio a datgelu, a’r ffaith nad oes modd gwrthod darparu neu gelu gwybodaeth berthnasol
  2. dylech sicrhau neu fod wedi gweld caniatâd ysgrifenedig i’r datgeliad gan y claf neu gan unigolyn sy’n meddu ar awdurdod cywir i weithredu ar ran y claf. Gallwch dderbyn sicrhad gan swyddog mewn asiantaeth neu adran o’r llywodraeth neu gan weithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig sy’n gweithredu ar eu rhan, bod y claf neu unigolyn sy’n meddu ar awdurdod cywir i weithredu ar eu rhan, wedi rhoi eu caniatâd
  3. dim ond gwybodaeth ffeithiol y gallwch ei chadarnhau y dylech ei datgelu, a’i chyflwyno mewn ffordd ddiduedd ac sy’n berthnasol i’r cais. Ni ddylech ddatgelu’r cofnod cyfan fel arfer,43 er y gallai fod yn berthnasol i rai budd-daliadau a delir gan adrannau’r llywodraeth ac i asesiadau eraill o hawl cleifion i gael pensiynau neu fudddaliadau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd 
  4. dylech gynnig dangos i’ch claf neu roi copi i’ch claf o unrhyw adroddiad y byddwch yn ei ysgrifennu amdanynt at ddibenion cyflogaeth neu yswiriant, cyn y bydd yn cael ei anfon, oni bai:
    1. eu bod eisoes wedi nodi nad ydynt yn dymuno’i weld
    2. y byddai ei ddatgelu yn debygol o achosi niwed difrifol i’r claf neu i unrhyw un arall
    3. y byddai ei ddatgelu yn debygol o ddatgelu gwybodaeth am unigolyn arall nad ydynt yn rhoi eu caniatâd.44, 45 
9

Fel arfer, fodd bynnag, dylech gynnig dangos unrhyw adroddiad i’ch claf y byddwch yn ei ysgrifennu amdanynt at ddibenion cyfogaeth neu yswiriant cyn ei anfon, neu roi copi iddynt ohono.Mae cyfreithiau meddygol penodol yn berthnasol i adroddiadau meddygol sy’n cael eu hysgrifennu gan feddygon.8 

8

Dan Ddeddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1988, mae gan gleifon yr hawl i weld adroddiad a ysgrifennwyd amdanynt at ddibenion cyfogaeth neu yswiriant gan feddyg sy’n gyfrifol neu sydd wedi bod yn gyfrifol am ofal clinigol yr unigolyn cyn iddo gael ei anfon, oni bai bod eithriadau’n berthnasol. Mae gan gleifon yr hawl i ofyn i’r meddyg ddiwygio unrhyw ran o’r adroddiad sy’n anghywir neu sy’n gamarweiniol ym marn y claf, ac i dynnu eu caniatâd yn ôl i ryddhau’r wybodaeth. Nid yw’r darpariaethau hyn yn berthnasol i adroddiadau at ddibenion budd-daliadau. Os nad oes gan y claf hawl gyfreithiol i weld yr adroddiad cyn iddo gael ei anfon, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraff 115(d) Cyfrinachedd, a atgynhyrchir ar ddechrau’r arweiniad esboniadol hwn. Os oes unrhyw rai o’r eithriadau a nodir ym mharagraff 115(d) yn berthnasol, dylech ddatgelu cymaint o’r adroddiad ag y gallwch o hyd. 

10

Os bydd claf yn gofyn i chi ddiwygio adroddiad, dylech gywiro unrhyw gamgymeriadau ffeithiol ac unrhyw farn sy’n seiliedig ar gamgymeriadau ffeithiol. Ni ddylech ddileu gwybodaeth, barn na chyngor os ydych o’r farn y byddai’r adroddiad yn anghywir neu’n gamarweiniol o ganlyniad.

11

Os bydd claf yn tynnu yn ôl eu caniatâd i’r adroddiad gael ei ddatgelu, efallai y bydd yn briodol i chi ddweud wrth y claf y gallai eu penderfyniad arwain at ganlyniadau niweidiol iddynt. Er enghraifft, gallai absenoldeb gwybodaeth am iechyd galwedigaethol beri anfantais i’r claf yn ystod trafodaethau gyda’u cyfogwr. Rhaid i chi, fodd bynnag, gydymffurfo â dymuniadau’r claf oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith (gweler paragraff 14) neu bod modd ei gyfawnhau er budd y cyhoedd (gweler paragraff 15).

12

Os bydd claf yn tynnu eu caniatâd yn ôl i adroddiad gael ei ddatgelu, neu os na fyddant yn mynychu apwyntiad, mae modd i chi hysbysu comisiynydd yr adroddiad ond ni ddylech ddatgelu unrhyw wybodaeth bellach.

13

Pan fyddwch yn teimlo’n fodlon y dylid datgelu adroddiad, dylech gwblhau’r adroddiad a’i anfon heb unrhyw oedi afresymol.

Datgeliadau sy’n ofynnol ynunol â’r gyfraith

14

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw’n ofynnol yn unol â’r gyfraith neu gan y llysoedd. Os bydd angen gwneud datgeliad yn unol â’r gyfraith, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau paragraphs 87–94 Cyfrinachedd. Os nad ydych yn siŵr a yw datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith, dylech ofyn i’r unigolyn neu’r corff sy’n gofyn am y wybodaeth i nodi’r sail gyfreithiol, neu geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

87

Ceir nifer fawr o gyfreithiau sy’n mynnu bod gwybodaeth cleifion yn cael ei datgelu – at ddibenion mor amrywiol â hysbysu am glefydau trosglwyddadwy, darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, atal terfysgaeth ac ymchwilio i ddamweiniau ffordd.

88

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw’n ofynnol gwneud hynny yn unol â’r gyfraith. Dylech:

  1. deimlo’n fodlon bod angen gwybodaeth bersonol, a bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith
  2. datgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais yn unig, a dim ond yn y ffordd sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith
  3. dweud wrth gleifion am ddatgeliadau o’r fath pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, oni bai y byddai gwneud hynny’n tanseilio diben y datgeliad
  4. cydymffurfio â gwrthwynebiadau’r claf pan geir darpariaeth i wneud hynny.32 
89

Mae modd i chi weld cyngor am ddatgeliadau a ganiateir ond nad ydynt yn ofynnol yn unol â’r gyfraith ym paragraph 19.

90

Mae gan y llysoedd troseddol a sifil rymoedd i orchymyn bod gwybodaeth yn cael ei datgelu mewn amgylchiadau amrywiol. Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os bydd barnwr neu swyddog gweinyddol llys yn rhoi gorchymyn i chi wneud hynny.

91

Dim ond gwybodaeth sy’n ofynnol gan y llys y dylech ei datgelu. Dylech nodi’r gwrthwynebiad i’r barnwr neu i’r swyddog gweinyddol os gwneir ymdrechion i’ch cymell i ddatgelu’r hyn sy’n ymddangos yn wybodaeth amherthnasol i chi, megis gwybodaeth am berthynas claf nad ydynt yn gysylltiedig â’r sefyllfa. Yn ogystal, dylech ddweud wrth y barnwr neu’r swyddog gweinyddol os ydych o’r farn y gallai datgelu’r wybodaeth roi rhywun mewn perygl o ddioddef niwed.

92

Os gorchmynnir datgeliad, ac os na fyddwch yn deall y sail dros hyn, dylech ofyn i’r llys neu i gynghorwr cyfreithiol i’w hesbonio i chi. Yn ogystal, dylech ddweud wrth y claf y mae’r llys wedi gofyn am eu gwybodaeth, pa wybodaeth y byddwch yn ei datgelu wrth ymateb i’r gorchymyn, oni bai bod hynny’n anymarferol neu y byddai’n tanseilio’r diben y ceisiwyd y datgeliad ar ei gyfer.

93

Ni ddylech ddatgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti megis cyfreithiwr, heddwas neu swyddog llys barn heb sicrhau caniatâd penodol y claf, oni bai bod hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith, neu’n cael ei orchymyn gan lys barn, neu bod modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd. Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd i’ch cynghorydd cyfreithiol chi er mwyn cael eu cyngor.

94

Yn yr Alban, o dan y broses ragholi, os byddwch yn derbyn cais rhagholi bydd dyletswydd gyfreithiol arnoch i rannu gwybodaeth, ac mewn achosion eraill mater gwirfoddol fyddai datgelu a byddai’n ddarostyngedig i’r arweiniad ym mharagraff 9.33 

Datgeliadau er budd y cyhoedd

15

Gallai fod modd cyfawnhau datgelu gwybodaeth bersonol am glaf heb sicrhau eu caniatâd er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Gallai hyn godi, er enghraifft, os allai claf beri risg difrifol i eraill oherwydd nad ydynt yn fft i weithio neu os yw’r amodau yn y gwaith yn anniogel.9  Os ydych o’r farn y byddai modd cyfawnhau datgeliad er budd y cyhoedd efallai, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau paragraphs 63–70 of Cyfrinachedd.

63

Mae’r gyfraith yn cydnabod bod gofal meddygol cyfrinachol er budd y cyhoedd. Mae’r ffaith bod pobl yn cael eu hannog i geisio cyngor a thriniaeth o fudd i gymdeithas gyfan ac i’r unigolyn. Ond gellir bod budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu unigolion neu gymdeithas rhag risgiau niwed difrifol, megis clefydau trosglwyddadwy difrifol neu drosedd ddifrifol.23 

64

Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

65

Gallai sefyllfa o’r fath godi, er enghraifft, os byddai datgeliad yn debygol o fod yn angenrheidiol er mwyn atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol, yn enwedig troseddau yn erbyn yr unigolyn. Pan fydd dioddefwyr trais yn gwrthod cymorth yr heddlu, efallai y bydd modd cyfiawnhau datgeliad o hyd os bydd eraill yn parhau i fod mewn perygl, er enghraifft, gan rywun sy’n barod i ddefnyddio arfau, neu gan drais domestig pan allai plant neu eraill fod mewn perygl.

66

Mae enghreifftiau eraill o sefyllfaoedd lle y gallai methu datgelu gwybodaeth olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth yn cynnwys pan na fydd claf yn ffit i yrru,24 neu pan fyddant wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef clefyd trosglwyddadwy difrifol,25 neu pan fyddant yn peri risg difrifol i eraill o ganlyniad i’r ffaith nad ydynt yn ffit i weithio.26 

68

Wrth benderfynu a yw’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, rhaid i chi ystyried:

  1. y niwed neu’r gofid posibl i’r claf yn deillio o’r datgeliad – er enghraifft, o ran eu cyswllt gyda thriniaeth a’u hiechyd cyffredinol yn y dyfodol
  2. y niwed posibl i ymddiriedaeth mewn gweithwyr meddygol proffesiynol yn gyffredinol – er enghraifft, os yw’n cael ei dybio yn eang bod meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn barod i ddatgelu gwybodaeth am gleifion heb sicrhau eu caniatâd
  3. y niwed posibl i eraill (boed hynny’n unigolyn penodol neu’n bobl, neu i’r cyhoedd yn ehangach) os na ddatgelir y wybodaeth
  4. y budd posibl i unigolyn neu i gymdeithas sy’n deillio o’r cam o ryddhau’r wybodaeth 
  5. natur y wybodaeth i’w datgelu, ac unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y claf
  6. a oes modd osgoi niwed neu sicrhau budd heb dorri cyfrinachedd y claf, neu os na, beth yw’r ymyriad lleiaf y gellir ei wneud.

Os ydych o’r farn y byddai methu datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas mewn perygl mor ddifrifol fel ei fod yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gynnal cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn ddi-oed i unigolyn neu awdurdod priodol. Dylech hysbysu’r claf cyn datgelu’r wybodaeth, os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny, hyd yn oed os ydych yn bwriadu datgelu heb sicrhau eu caniatâd.

70

Mae penderfyniadau ynghylch a oes modd cyfiawnhau datgelu heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd yn gallu bod yn rhai cymhleth. Pan fo hynny’n ymarferol, dylech geisio cyngor gan warcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd arbenigol tebyg nad ydynt yn gysylltiedig mewn ffordd uniongyrchol â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer. Os oes modd, dylech wneud hyn heb ddatgelu manylion y claf.

69

Rhaid i chi gofnodi yng nghofnod y claf eich rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth ar ôl sicrhau caniatâd neu heb sicrhau caniatâd. Yn ogystal, rhaid i chi gofnodi unrhyw gamau yr ydych wedi’u cymryd i geisio caniatâd y claf, i’w hysbysu o’r datgeliad, neu’ch rhesymau dros beidio gwneud hynny.

9

Mae Rheoliadau Adrodd am Anafadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013Rheoliadau Adrodd am Anafadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (Gogledd Iwerddon) 1997 yn rhoi dyletswyddau ar gyfogwyr, yr hunangyfogedig a phobl sy’n rheoli safeoedd gwaith i adrodd am ddamweiniau difrifol penodol sy’n digwydd yn y gweithle, clefydau galwedigaethol a digwyddiadau peryglus penodedig (achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd). Mae modd i chi gael gwybod mwy am y rheoliadau hyn ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer Lloegr, Cymru a'r Alban a gwefan yr Swyddfa Diogelwch a Iechyd dros Ganolbarth Iwerddon (HSENI).