Ein pobl

Ein pobl yw’r sbardun y tu ôl i bopeth a wnawn.

Mewn cyfnod o newid cyflym ym maes gofal iechyd, mae ein staff ymroddedig a thalentog yn gweithio gydag ymrwymiad a gofal i sicrhau mai ni yw’r rheoleiddiwr gorau y gallwn fod. Mae eu hangerdd a’u proffesiynoldeb yn gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd.

Read this in English

Gweld y swyddi diweddaraf
Mae Charlie yn cwrdd â'r staff yn swyddfa Manchester

Charlie Massey, Prif Weithredwr
Ar yr adeg dyngedfennol hon i ofal iechyd, mae ein staff ymroddedig a thalentog yn bwrw ymlaen â’n hagenda i fod y rheoleiddiwr gorau y gallwn fod. Ein pobl yw ysgogwr ein llwyddiant.’ Charlie Massey, Prif Weithredwr
Dame Carrie MacEwen, Cadeirydd y Cyngor
‘Mae ymrwymiad a natur gydwybodol ein staff a’u hawydd i wneud gwahaniaeth yn destun rhyfeddod i mi bob amser.’ Y Fonesig Carrie MacEwen, Cadeirydd y Cyngor


Rhwydweithiau staff

Bydd ein rhwydweithiau staff yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd â phobl o’r un anian ar draws y sefydliad i rannu gwybodaeth, profiadau a syniadau. Mae aelodau’r rhwydwaith hefyd yn codi arian i elusen lle bo modd.

decoration

Mae'r Rhwydwaith BME yn hyrwyddo buddiannau cydweithwyr o leiafrifoedd ethnig, gan helpu i greu diwylliant lle mae cydweithwyr o gefndiroedd du ac ethnig lleiafrifol yn cael eu clywed, ac yn cael cyfleoedd i gyflawni eu potensial.

decoration

Mae’r Rhwydwaith Cymorth Busnes yn rhannu arferion gorau ac yn trefnu hyfforddiant i gydweithwyr sy’n gweithio mewn rolau gweinyddol neu gynorthwyol. 

decoration

Mae’r Rhwydwaith Cristnogol yn cefnogi cydweithwyr Cristnogol a’r rhai sydd â diddordeb mewn Cristnogaeth, i rwydweithio a rhannu profiadau. 

decoration

Mae’r Rhwydwaith Anabledd yn hyrwyddo buddiannau cydweithwyr anabl ac yn cyfrannu at ddiwylliant gweithredol o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anabledd. 

decoration

Mae’r Rhwydwaith Cymorth Cyntaf yn cynnwys gwirfoddolwyr cymorth cyntaf ar draws holl swyddfeydd y GMC, sy’n rhannu arbenigedd ar dechnegau, syniadau a phrofiadau cymorth cyntaf. 

decoration

Mae’r Rhwydwaith Iddewig yn annog cydweithwyr i ddathlu eu treftadaeth a’u credoau Iddewig ac yn addysgu a chynghori cydweithwyr o wahanol gefndiroedd am Iddewiaeth. 

decoration

Mae’r Rhwydwaith Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn rhoi’r cyfle i weithwyr LHDTC+ rannu eu profiadau a theimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi gan gymuned i fod yn nhw eu hunain go iawn. Mae’r rhwydwaith yn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod ni’n gyflogwr cynhwysol a chefnogol i bawb. 

decoration

Mae’r Rhwydwaith Iechyd Meddwl yn meithrin trafodaethau ac yn rhannu safbwyntiau a phrofiadau ar iechyd meddwl. Ei nod yw lleihau stigma salwch meddwl a chreu diwylliant o barch a dealltwriaeth i bawb.

decoration

Mae'r Rhwydwaith Moslemiaid yn cynnig llwyfan cadarnhaol a chefnogol i ddathlu gwerthoedd Mwslimaidd a chodi ymwybyddiaeth o Islam. 

decoration

Mae'r Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr yn hyrwyddo ac yn codi ymwybyddiaeth o'r materion mae gofalwyr yn eu hwynebu, yn y gwaith a thu hwnt. Maent yn cysylltu ar sail heriau tebyg ac yn rhannu profiadau, cyngor a gwybodaeth.

decoration

Mae Rhwydwaith y Menywod yn lle cefnogol a bywiog i fenywod ddod at ei gilydd, rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau cyffredin. 


Mae dau berson yn chwarae gwyddbwyll yn ystod egwyl
Mae dau aelod o'r staff yn siarad wrth fflipchart.

Grwpiau

decoration

Mae ein Grŵp Gwyrdd yn ein helpu i ganfod ffyrdd o leihau ein hôl troed carbon drwy edrych ar ddewisiadau cynaliadwy eraill - er enghraifft, drwy ddefnyddio llai o adnoddau a gwella cyfleusterau ailgylchu.

decoration

Mae ein Fforwm Pobl yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig o wahanol rannau o’r sefydliad, sy’n dod ag eitemau gan eu cydweithwyr i’w trafod gydag uwch reolwyr, gyda’r nod o sicrhau newid cadarnhaol.  

decoration

Mae’r Pwyllgor Cymdeithasol yn trefnu ac yn annog gweithgareddau hwyliog er mwyn i bawb deimlo’n fwy ymrwymedig ac wedi eu cysylltu’n gymdeithasol.

The menopause friends logo

Mae ein Cyfeillion Menopos yn cefnogi cydweithwyr sy’n profi’r cyflwr naturiol hwn mewn bywyd, ac yn dylanwadu ar bolisïau mewnol ar y pwnc.

decoration

Mae ein Hyrwyddwyr Llesiant yn hyrwyddo gweithle cadarnhaol ac iach drwy gefnogi ein pum colofn iechyd a llesiant – corfforol, seicolegol, cymdeithasol, ariannol a gyrfa.



Dewch o hyd i ble rydych chi’n perthyn.

Byddwch yn rhan o rywle lle gallwch chi ysbrydoli eraill a chael eich ysbrydoli eich hunan. Lle gallwch gysylltu a bod yn rhan o rywbeth mwy.

Ein diwylliant    Ein timau    Ein pobl    Ein cynnig   Lleoliadau