Mae gan ein holl swyddfeydd gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol a naws fodern. Rydyn ni’n defnyddio gweithfannau parod, sy’n galluogi staff i weithio’n ddigidol ac mewn gwahanol rannau o’r adeilad yn ogystal ag o gartref. Dyma rai pethau eraill rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n eu mwynhau am y mannau:
- hygyrchedd – lloriau gwastad, goleuadau da, a thoiledau hygyrch
- podiau cyfarfod cyfforddus gyda mynediad i sgrin ac ardaloedd ar wahân
- man storio beiciau gyda chawodydd a loceri
- ceginau gyda the a choffi, oergelloedd a microdonnau.