Y broses ymgeisio

Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno eich CV a llythyr eglurhaol, ac mae’n bosibl y gofynnir i chi lenwi ffurflen gais ar-lein ar gyfer rhai swyddi. Byddwn yn darparu manylion penodol ar gyfer pob swydd wag.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ystyried y cyfleoedd sydd ar gael a sut maent yn cyfateb i’ch sgiliau a’ch profiad. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n defnyddio ein nodiadau cyfarwyddyd i ymgeiswyr i’ch helpu i wneud y gorau o’ch cais. Bydd y rhain ynghlwm wrth bob swydd wag.

Read this in English

Gweld y swyddi diweddaraf
Mae ymgeisydd a'r adran dynodedig yn trafod cais.


Pryd byddwch chi’n cael gwybod a ydych chi wedi llwyddo gyda’ch cais

Fel arfer, bydd llunio rhestr fer yn cymryd hyd at bythefnos ar ôl dyddiad cau’r swydd wag.

Os byddwch chi’n llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer rôl, byddwn yn gofyn i chi ddod i gyfweliad – naill ai’n rhithiol neu wyneb yn wyneb. Weithiau, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddod i ganolfan asesu. (gall hyn gynnwys trafodaeth grŵp neu asesiad sy’n benodol i swydd). Mae profion ein canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cyfweliad, ond nid bob tro. Byddwn yn gofyn i chi ddod yn ôl ar ddyddiad arall ar gyfer cyfweliad (gallai hyn gynnwys cymysgedd o gwestiynau cymhwysedd, senarios a chwestiynau sy’n seiliedig ar werthoedd) os nad yw wedi ei gynnwys yn y ganolfan asesu.

Cynllun Cyfweliad Hyderus o ran Anabledd

Rydyn ni wedi ymrwymo i'r cynllun cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac fel rhan o hynny rydyn ni’n cefnogi gofynion y cynllun cyfweld Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych chi anabledd a’ch bod chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer rôl fel yr amlinellir yn y ddogfen manyleb y person, mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael cynnig cyfweliad.

Dewis unigol yw datgan anabledd. Os byddwch chi’n dewis datgelu anabledd, bydd yn cael ei ystyried i fodloni gofynion y cynllun cyfweld Hyderus o ran Anabledd yn unig ac ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol y cytunwyd arnynt yn y broses recriwtio. Yr unig bobl fydd yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth hon yw’r tîm adnoddau a’r rheolwr recriwtio wrth gyrraedd y cam cyfweld.

Os ydych chi’n llwyddiannus a bod angen addasiadau rhesymol arnoch i’ch cynorthwyo yn eich rôl, byddwn yn trafod hyn gyda chi a’ch rheolwr, gan geisio rhoi’r addasiadau ar waith cyn i chi ddechrau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y broses recriwtio yn hygyrch i chi. Er enghraifft:

  • gallwn ddarparu ffurflenni cais neu ohebiaeth mewn fformatau gwahanol yn dibynnu ar eich anghenion 
  • gallwn wneud addasiadau i’r broses recriwtio, fel newid trefniadau cyfweld. 

Cymorth

Mae ein tîm arbenigol Adnoddau a Thalent ar gael i roi cymorth arbenigol wedi ei deilwra i chi drwy gydol y broses recriwtio.

Gallwch ein ffonio ar 0161 923 6626, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9 am i 5 pm.

Neu e-bostio recruitment@gmc-uk.org.



Dewch o hyd i ble rydych chi’n perthyn.

Byddwch yn rhan o rywle lle gallwch chi ysbrydoli eraill a chael eich ysbrydoli eich hunan. Lle gallwch gysylltu a bod yn rhan o rywbeth mwy.

Ein diwylliant    Ein timau    Ein pobl    Ein cynnig   Lleoliadau