Beth sy’n digwydd nesaf?
- Sut gallaf wneud cais am adolygiad?
- Beth sy’n digwydd nesaf?
Pwy sy’n gwneud penderfyniadau Rheol 12?
Mae penderfyniadau Rheol 12 yn cael eu gwneud gan gofrestryddion cynorthwyol, sy'n uwch aelodau o staff y GMC gydag awdurdod dirprwyedig gan y cofrestrydd (Prif Weithredwr y GMC). Ni fydd y cofrestrydd cynorthwyol sy'n gwneud penderfyniad Rheol 12 yr un person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.
Ystyriaeth gychwynnol
Bydd cofrestrydd cynorthwyol yn ystyried y cais i weld a oes camgymeriad sylweddol posibl (‘gwall sylweddol’) yn y penderfyniad gwreiddiol a/neu unrhyw wybodaeth newydd a allai fod wedi newid y penderfyniad. Bydd wedyn yn penderfynu a yw adolygu'r penderfyniad yn rhywbeth a fyddai er budd y cyhoedd.
Os oes mwy na dwy flynedd wedi mynd heibio ers i’r penderfyniad gwreiddiol gael ei wneud, byddant yn ystyried a oes amgylchiadau eithriadol a fyddai’n caniatáu i’r adolygiad fynd rhagddo.
Bydd cofrestryddion cynorthwyol yn cyfeirio at ganllawiau gwneuthurwyr penderfyniadau ynghylch addasrwydd i ymarfer wrth ystyried y ceisiadau hyn.
Adolygiad
Os byddwn, ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni, yn penderfynu bod sail dros gynnal adolygiad, byddwn yn gofyn am sylwadau gan y sawl sy'n gwneud y cais a gan y meddyg. Ni fyddwn fel arfer yn cynnal unrhyw ymchwiliad pellach ar y cam hwn.
Os byddwn yn penderfynu nad oes sail dros adolygu, byddwn yn dweud wrthych pam a bydd yr achos yn cael ei gau.
Ailagor
Ar ôl i benderfyniad adolygu gael ei wneud, byddwn yn adolygu unrhyw sylwadau a dderbynnir, a byddwn yn ystyried y penderfyniad eto.
Os byddwn yn penderfynu na allwn ailagor yr achos, byddwn yn dweud wrthych pam a bydd yr achos yn cael ei gau.
Os byddwn yn penderfynu bod angen ymchwiliad pellach, bydd yr achos yn cael ei ailagor a'i gyfeirio at ein tîm ymchwiliadau. Byddant yn cysylltu â chi i esbonio beth fydd yn digwydd nesaf.
Nid yw ailagor achos yn golygu y bydd camau rheoleiddio’n cael eu cymryd. Pwrpas yr ymchwiliad yw casglu ac asesu gwybodaeth bellach. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, efallai y byddwn yn dal i benderfynu cau’r achos heb gymryd camau pellach.