Sut gallaf wneud cais am adolygiad?

Yr wybodaeth y bydd ei hangen arnoch

Cyn gofyn am adolygiad, dylech fod â'r wybodaeth ganlynol wrth law.

  • Enw’r meddyg.
  • Cyfeirnod saith digid unigryw'r meddyg gyda'r GMC. Mae gan bob meddyg sydd wedi cofrestru i weithio yn y DU rif, sydd ar gael ar ein cofrestrau. Os oes angen help arnoch, mae croeso i chi ffonio'r ganolfan gofrestru ar 0161 923 6602. 
  • Y cyfeirnod addasrwydd i ymarfer a ddarperir gan y GMC. Gallwch ddod o hyd i hwn mewn unrhyw ohebiaeth rydych wedi’i chael gan y GMC lle ysgrifennir atoch am y pryder. 
  • Dyddiad y llythyr penderfyniad a gawsoch gan y GMC. Dyma’r llythyr lle rhoddodd y GMC wybod i chi am ganlyniad y pryder a fynegwyd.   
  • Eich rhesymau pam y dylem adolygu’r penderfyniad blaenorol.  
  • Unrhyw ddogfennau newydd a allai gefnogi eich cais.  

Cofiwch na allwn adolygu penderfyniad dim ond am eich bod yn anghytuno ag ef. Dim ond os oes camgymeriad sylweddol gyda'r penderfyniad (‘gwall sylweddol’), neu os oes gwybodaeth newydd a allai fod wedi newid y penderfyniad, y gallwn adolygu penderfyniad o dan y broses hon. Hefyd, dim ond o fewn dwy flynedd i wneud y penderfyniad gwreiddiol y gallwn adolygu penderfyniad, oni bai fod amgylchiadau eithriadol. 

Gofyn am adolygiad

Pan fyddwch yn barod i gyflwyno eich cais, llenwch y ffurflen isod. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yn llawn eich rhesymau dros wneud cais am yr adolygiad. 

Ffurflen gais am adolygiad R12 

Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi at rule12@gmc-uk.org ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol. 

Fel arall, anfonwch gopi wedi’i argraffu i: 

Corporate Review Team 
General Medical Council 
3 Hardman Street 
Manchester 
M3 3AW

Angen cymorth?

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch, fel cael y ffurflen hon mewn fformat arall (er enghraifft, print bras neu sain), anfonwch e-bost atom yn rule12@gmc-uk.org neu ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 0161 923 6602.

Canllawiau AI

Gallwch ddewis defnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI) i’ch helpu i ddrafftio eich cais. Fodd bynnag, rhaid i’r wybodaeth a roddwch fod yn gywir ac yn seiliedig ar eich gwybodaeth a’ch tystiolaeth eich hun.

Mae ceisiadau’n fwyaf defnyddiol pan fyddant yn glir, yn gryno ac wedi’u hysgrifennu yn eich geiriau eich hun. Mae hyn yn ein helpu i ddeall yn union pa bryderon sydd gennych chi a pham rydych chi’n gofyn i ni edrych ar y mater eto.

Ni fydd crynodebau, barn neu ddadleuon cyfreithiol a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial yn cael eu trin fel gwybodaeth newydd dim ond am eu bod wedi cael eu creu ar ôl y penderfyniad gwreiddiol.