1. Home
  2. Concerns
  3. Supporting you with your concern
  4. What happens if we investigate your concern

Beth fydd yn digwydd os byddwn yn ymchwilio i’ch pryder

Wrth i ni ymchwilio i’ch pryder, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith rydym yn ei wneud. Ar ddechrau’r ymchwiliad, bydd ein Gwasanaeth Cyswllt Addasrwydd i Ymarfer yn cynnig siarad â chi er mwyn trafod beth fydd yn digwydd nesaf ac i ateb unrhyw gwestiynau.

Hefyd, bydd eich swyddog ymchwilio wrth law drwy gydol y broses, a bydd yn cysylltu â chi bob wyth wythnos i roi gwybod i chi am ddatblygiad yr ymchwiliad. Byddwn yn ymchwilio cyn gynted ag y gallwn ac yn ceisio gorffen o fewn chwe mis lle bynnag y bo modd.

Os ydym yn credu y gallai’r meddyg rydych wedi mynegi pryder amdano barhau i beri perygl i gleifion neu’r cyhoedd wrth i ni ymchwilio, gallwn ofyn i’r Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) gyfyngu neu atal ymarfer y meddyg dros dro.

Beth sy’n digwydd ar ôl i ni gwblhau ein hymchwiliad

Beth bynnag fydd y canlyniad, byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniadau, a byddwn yn cynnig cyfle i chi drafod y camau nesaf neu ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Back

Cymorth pellach

Staff GMC gyda headset
Allwn ni helpu gyda'ch pryder?

Rydym yn ymchwilio i bryderon pan fyddwn yn credu bod meddyg yn peri risg ddifrifol i gleifion neu wedi methu â chyrraedd ein safonau. Edrychwch i weld a yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo.

Meddyg mewn sgwrs
Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn mynegi pryder i ni

Rydym yn deall y gall fod yn anodd mynegi pryder, ond dylech deimlo’n hyderus yn y ffordd rydym yn trin pob pryder sy’n cael eu mynegi i ni. Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.

Codi pryder ar fap y Deyrnas Unedig
Dod o hyd i wasanaethau cymorth yn eich ardal

Rydym yn un o nifer o sefydliadau sy’n gyfrifol am gadw cleifion yn ddiogel yn y DU. Rhagor o wybodaeth am bwy all eich helpu os nad yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo.