Beth sy’n digwydd pan gaiff pryder ei godi am gydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia?
Pan fo rhywun yn codi pryder am gydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia, rydym yn dilyn prosesau i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r pryder yn deg a thrylwyr.
Mae’r dudalen hon yn amlinellu camau allweddol y broses.
Asesiad cyn cychwyn
Pan fo rhywun yn cysylltu â ni i godi pryder am gydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia, rydym yn mynd ati i asesu a yw’r pryder yn peri risg i ddiogelwch y cyhoedd neu’n dod o fewn ein cylch gwaith.
- Os nad yw’n gwneud hynny, byddwn yn diystyru’r pryder.
- Ond, os yw'r pryder yn codi cwestiwn ynglŷn â’u haddasrwydd i ymarfer, byddwn yn cynnal asesiad cychwynnol.
Asesiad cychwynnol
Rydym yn casglu tystiolaeth berthnasol, fel cofnodion meddygol ac adroddiadau gan arbenigwyr.
- Os nad oes angen gweithredu, byddwn yn dod â’r asesiad i ben.
- Ond, os byddwn yn credu ei bod yn debygol bod angen gweithredu, byddwn yn rhannu’r holl dystiolaeth gyda’r cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia, ac yn gofyn iddynt am eu sylwadau. Yna, byddwn yn penderfynu a oes angen cyfeirio’r achos at ddau uwch benderfynwr – mae’r rhain yn cael eu galw’n archwilwyr.
Mesurau interim
Os ydym – ar unrhyw gam – yn credu y dylid cyfyngu ar ymarfer y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia wrth i ni asesu’r pryder, byddwn yn eu cyfeirio at dribiwnlys mesurau interim.
Cam yr archwilydd achos
Mae dau uwch benderfynwr yn adolygu’r holl dystiolaeth ac yn penderfynu a oes amhariad ar eu haddasrwydd i ymarfer.
Gallant wneud y canlynol:
- cyfeirio’r achos at wrandawiad tribiwnlys cymdeithion
- cau’r achos
- gofyn i’r cydymaith meddygol neu'r cydymaith anaesthesia am sylwadau, cyn penderfynu a ddylid rhoi rhybudd (os ydynt yn credu y byddai rhybudd yn briodol)
- cynnig gosod amodau ar eu cofrestriad
- cynnig atal eu cofrestriad dros dro
- cynnig eu tynnu oddi ar ein cofrestr.
Ar y cam hwn, gall y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia wneud y canlynol:
- gwrthod y telerau sydd wedi eu cynnig, a byddwn ni’n cyfeirio'r achos at wrandawiad tribiwnlys cymdeithion.
- derbyn y telerau sydd wedi eu cynnig, a byddwn ni’n gosod y mesur.
Os nad yw’r cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia yn ymateb i’r telerau rydym ni’n eu cynnig, gallwn osod y mesur neu gyfeirio’r achos at wrandawiad tribiwnlys cymdeithion.