1. Home
  2. Concerns
  3. Supporting you with your concern
  4. What to expect when you raise a concern with us

Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn mynegi pryder i ni

Mae’n normal teimlo’n nerfus am gysylltu â ni, ond rydym yma i’ch cefnogi.

Mae ein siarter cleifion yn nodi ein hymrwymiadau i chi.

 

Byddwn yn eich trin ag urddas a pharch

Byddwn yn gwrando ar eich pryderon ac yn rhoi digon o amser i chi egluro eich sefyllfa. Rydym yn deall y gallai hwn fod gyfnod anodd i chi a gallwn drefnu cymorth cyfrinachol drwy ein Gwasanaeth Cymorth Annibynnol. Byddwn yn cymryd eich pryderon o ddifrif.

Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o fynegi eich pryder.

Rydym eisiau eich helpu i fynegi eich pryder i’r sefydliad iawn. Weithiau, ni yw’r sefydliad hwnnw, ond mewn achosion eraill efallai y bydd sefydliad gwahanol mewn sefyllfa well i’ch helpu. Os nad yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ddelio ag ef, byddwn yn ceisio eich helpu i ddod o hyd i’r lle iawn. 

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi

Byddwn yn egluro sut y byddwn yn ymchwilio i’ch pryder a sut y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd oedi a byddwn yn rhoi manylion cyswllt er mwyn i chi wybod â phwy i gysylltu â nhw i gael rhagor o wybodaeth neu'r wybodaeth ddiweddaraf.

Byddwn yn cyfathrebu mewn ffordd sy’n gweithio i chi

Byddwn yn addasu ein dulliau cyfathrebu er mwyn diwallu eich anghenion yn y ffordd orau. Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi ddeall yr wybodaeth a roddwn i chi a'r penderfyniadau a wnawn. Gallwch siarad â ni dros y ffôn, ysgrifennu atom neu anfon e-bost. Mae ein Gwasanaeth Cyswllt Addasrwydd i Ymarfer yn cynnig cyfarfodydd rhithiol neu dros y ffôn os byddwn yn penderfynu agor ymchwiliad i'ch pryderon.

Byddwn yn trin eich gwybodaeth yn ofalus

Byddwn yn cadw cyfrinachedd cyn belled ag y bo modd. Os ydym yn credu bod angen i ni rannu eich gwybodaeth neu’ch manylion ag eraill y tu allan i’n sefydliad i’n helpu i ddelio â’ch pryder, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn gofyn am eich barn.

Byddwn yn dysgu o’ch profiad gyda ni

Er na fyddwn bob amser yn gallu darparu’r canlyniad neu’r ateb rydych ei eisiau; rydym ni eisiau dysgu o’ch profiad o fynegi pryder i ni. Os ydym wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn cywiro'r sefyllfa ac yn ymddiheuro. Byddwn yn defnyddio eich adborth i wella ein gwasanaethau.

Cefnogaeth bellach

Sut y byddwn yn ymchwilio i'ch pryderon
Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â ni i fynegi pryder

Ar ôl i ni gasglu darnau allweddol o wybodaeth gennych, byddwn yn adolygu eich pryder yn ofalus i weld a yw hwn yn fater y mae angen i ni ymchwilio iddo.

Gwell cyfeirio cysylltu â ni
Sut mae mynegi pryder i ni

Mae sawl ffordd y gallwch gysylltu â ni i fynegi pryder. Byddem yn eich annog i ddewis y ffordd rydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.

Codi pryder ar fap y Deyrnas Unedig
Dod o hyd i wasanaethau cymorth yn eich ardal

Rydym yn un o nifer o sefydliadau sy’n gyfrifol am gadw cleifion yn ddiogel yn y DU. Rhagor o wybodaeth am bwy all eich helpu os nad yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo.