Ar gyfer myfyrwyr meddygol

Ni fyddwn yn ymyrryd i ddatrys pryderon y dylid eu codi'n lleol gyda'ch ysgol feddygol. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried materion os byddant yn effeithio ar ddiogelwch cleifion neu fyfyrwyr meddygol, neu os byddwn yn penderfynu bod y mater yn golygu nad yw ein safonau'n cael eu bodloni.

Ni allwn ymyrryd mewn unrhyw gwynion unigol na herio unrhyw benderfyniadau a wneir gan yr ysgol feddygol. Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd mae darparwyr eich cwrs wedi ymateb i’ch cwyn, efallai yr hoffech ei huwchgyfeirio i'ch prifysgol, neu roi gwybod i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch.