Ymgynghoriadau ac archwiliadau ymchwil
Ymchwil
Rydym yn cynnal ymchwil ac arolygon ar amrywiaeth o bynciau i gefnogi ein swyddogaethau rheoleiddio sy’n ymwneud â chofrestru, addasrwydd i ymarfer, ac addysg a hyfforddiant meddygol.
Rydym yn cynhyrchu data ystadegol yn seiliedig ar yr wybodaeth rydym yn ei dal, er enghraifft GMC Data Explorer (Saesneg yn unig).
Rydym yn cynnal ymchwil yn fewnol neu mewn partneriaeth â thrydydd partïon. Gall y GMC ariannu cydweithio â sefydliadau ymchwil trydydd parti.
UKMED
Pam rydym yn dal yr wybodaeth
Mae Cronfa Ddata Addysg Feddygol y DU (UKMED) yn darparu platfform i goladu data ar berfformiad myfyrwyr meddygol y DU a meddygon dan hyfforddiant ar draws eu haddysg a'u gyrfa. Nod UKMED yw codi safonau mewn addysg feddygol drwy gronfa ddata o ansawdd uchel a all wella ein dealltwriaeth o lwybrau hyfforddi a chefnogi ymchwil gadarn i gynnydd myfyrwyr a meddygon a'r rhwystrau asesu ar bob pwynt ar y llwybr. Mae ymchwil i addysg a hyfforddiant meddygol gan ddefnyddio UKMED yn cefnogi rôl reoleiddiol y GMC mewn addysg feddygol fel y nodir yn Neddf Meddygaeth 1983. Nid ydym yn defnyddio data UKMED i wneud penderfyniadau am gofrestriad neu addasrwydd meddyg i ymarfer.
Pa wybodaeth rydym yn ei dal
Yn ogystal â data sydd gan y GMC, rydym hefyd yn cael rhagor o ddata gan drydydd partïon i alluogi ymchwil i addysg feddygol fel rhan o brosiect UKMED. Caiff y data o fewn UKMED ei ddisgrifio yng ngeiriadur data UKMED. Mae’r darparwyr data yn cynnwys y canlynol ond nid dim ond y rhain, UCAS, darparwyr profion, yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch, ysgolion meddygol, deoniaethau a Swyddfa Rhaglen Sylfaen y DU. Mae rhagor o wybodaeth am y data sydd gennym a sut rydym yn ei ddefnyddio ar gael ar wefan UKMED (Saesneg yn unig).
Sut rydym yn rhannu data at ddibenion ymchwil
Rydym yn rhannu data personol ag ymchwilwyr os oes angen gwneud hynny. Byddwn yn rhannu’r hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer yr ymchwil yn unig, a hynny gan ddefnyddio dulliau diogel. Lle bo'n bosibl, rydym yn rhoi data dienw neu ffugenw i ymchwilwyr at ddibenion ymchwil. Mae data ymchwil UKMED bob amser yn cynnwys ffugenwau.
Pan fyddwn yn cyhoeddi ymchwil neu ystadegau, rydym yn defnyddio rheolaethau datgelu i wneud yn siŵr nad oes modd adnabod unigolion o’r data.
Arolwg hyfforddiant cenedlaethol
Pam rydym yn dal yr wybodaeth
Mae Deddf Meddygaeth 1983 yn mynnu ein bod yn monitro ac yn adrodd ar safon hyfforddiant meddygol yn y DU.
Mae’r arolwg yn ein helpu i wneud yn siŵr bod meddygon dan hyfforddiant yn cael hyfforddiant o ansawdd uchel mewn amgylchedd clinigol diogel ac effeithiol a bod hyfforddwyr yn cael eu cefnogi’n dda yn eu rôl.
Rydym hefyd yn defnyddio’r arolygon hyfforddi cenedlaethol i gefnogi ymchwil i hyfforddiant meddygol.
Pa wybodaeth rydym yn ei dal
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi’r arolygon hyfforddiant cenedlaethol i feddygon dan hyfforddiant a’u hyfforddwyr. Rydym yn dal yr atebion a gawn am eu profiad o hyfforddiant ôl-raddedig.
Sut rydym yn rhannu gwybodaeth
Rydym wedi cyhoeddi datganiad cyfrinachedd am ddata arolygon hyfforddiant cenedlaethol (Saesneg yn unig) sy’n esbonio hyn yn fanylach.
Ymgynghoriadau a fforymau
Rydym yn cynnal ymgynghoriadau ar amrywiaeth o bynciau (Saesneg yn unig) ac yn hwyluso fforymau cynghori sy’n gysylltiedig â’n swyddogaethau rheoleiddio. Er bod gennym ddiddordeb dilys mewn cysylltu â charfannau perthnasol, gallant optio allan ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni.
Pam rydym yn dal yr wybodaeth
Rydym yn dal yr wybodaeth hon er mwyn i ni allu ymchwilio a dadansoddi’r ymatebion, a chadw mewn cysylltiad ag ymatebwyr ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad.
Pa wybodaeth rydym yn ei dal
Rydym yn gofyn i ymatebwyr am eu cyfeiriadau e-bost er mwyn i ni allu cadarnhau eu bod wedi cofrestru ar ein safle ymgynghori, cysylltu â nhw os ydynt yn anghofio eu cyfrinair a rhoi gwybod iddynt am unrhyw ymgynghoriadau sydd ar y gweill sy’n cyd-fynd â’u diddordebau, pan ydynt wedi gofyn i ni wneud hynny. Fel rhan o’r broses o ddadansoddi'r ymgynghoriad, rydym yn prosesu enwau a gwybodaeth gyswllt yr ymatebwyr, yn ogystal â’u hatebion.
Sut rydym yn rhannu gwybodaeth
Ar ddiwedd y broses ymgynghori, byddwn yn cyhoeddi adroddiadau yn egluro ein canfyddiadau a’n casgliadau. Ni fyddwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn yr adroddiadau hyn, ond mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys dyfyniadau enghreifftiol o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhoi ymatebion i drydydd partïon ar gyfer sicrhau ansawdd neu i brosiectau ymchwil cymeradwy, sy’n cael eu troi’n ddienw cyn eu datgelu lle bo hynny’n bosibl.
Archwilio
Pam rydym yn dal yr wybodaeth
Gallwn rannu data personol at ddibenion archwilio i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd deg, gyson a chadarn. Rydym yn cynnal archwiliadau yn fewnol neu’n eu comisiynu gyda sefydliadau annibynnol.
Pa wybodaeth rydym yn ei dal
Mae modd hefyd i'r data personol a ddefnyddiwn i gyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio gael ei ddefnyddio at ddibenion archwilio. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth cofrestru, gwybodaeth ddemograffig, cyflogaeth a hanes addasrwydd i ymarfer, a manylion cwynion.
Sut rydym yn rhannu gwybodaeth
Rydym yn rhannu data personol ag archwilwyr os oes angen gwneud hynny. Byddwn yn rhannu’r hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer yr archwiliad yn unig, a hynny gan ddefnyddio dulliau diogel. Pan fyddwn yn cyhoeddi adroddiadau archwilio neu ystadegau, rydym yn defnyddio rheolaethau datgelu i wneud yn siŵr nad oes modd adnabod unigolion o’r data.