Hysbysiad preifatrwydd a chwcis

Microsoft 365 Copilot

Sut rydym yn defnyddio Microsoft 365 Copilot

Rydym yn defnyddio Microsoft 365 Copilot i helpu ein staff i weithio’n fwy effeithlon ac i gefnogi anghenion hygyrchedd.

Mae Copilot yn fath o ddeallusrwydd artiffisial sy’n gallu deall a chynhyrchu testun. Rydym yn ei ddefnyddio i grynhoi gwybodaeth (fel negeseuon e-bost, sgyrsiau Teams, trawsgrifiadau a dogfennau cyfarfodydd), i baratoi at gyfarfodydd, i greu a fformatio dogfennau, i ddadansoddi data fel ymatebion i ymgynghoriadau ac i ddrafftio pethau fel negeseuon e-bost neu gyflwyniadau. Gall hefyd helpu gyda gwneud nodiadau a chynhyrchu syniadau i gefnogi cyfathrebu clir a phenderfyniadau da. Mae’r holl ddata sy’n cael ei ddefnyddio gyda Copilot yn aros yn ein systemau Microsoft 365 ac Azure diogel yn y DU. Nid yw'r data yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi modelau Deallusrwydd Artiffisial.

Pan fyddwn yn defnyddio data personol unigolyn gyda Copilot, rydym yn ei brosesu ar sail gyfreithlon tasg gyhoeddus pan fo’i angen i gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol.  Mewn sefyllfaoedd eraill, efallai y byddwn yn dibynnu ar fuddiant dilys. Mae rhagor o fanylion yn adrannau perthnasol yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Efallai y byddwn yn casglu recordiadau sain, fideo, a thrawsgrifiadau o gyfarfodydd Microsoft Teams. Mae’r trawsgrifiadau hyn yn caniatáu i Copilot ddarparu rhai o’r nodweddion a ddisgrifir uchod.

Nid yw Copilot yn gwneud penderfyniadau am unigolion. Mae’r holl gynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial yn cynnwys hysbysiad sy’n nodi y gallai fod yn anghywir, ac mae ein staff wedi cael eu hyfforddi i wirio popeth y mae Copilot yn ei gynhyrchu. Byddwn yn parhau i adolygu sut yr ydym yn defnyddio Copilot, gan gynnwys risgiau a manteision. Os bydd y ffordd yr ydym yn defnyddio Copilot yn newid, byddwn yn diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn.